Caernarfon: Awyrennau yn creu sŵn 'byddarol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen "edrych eto" ar y drefn o amserlennu awyrennau milwrol sy'n hedfan yn isel, yn ôl Aelod Seneddol Arfon.
Daw sylwadau Hywel Williams wedi i jetiau Americanaidd greu twrw "byddarol" yn ardal Caernarfon yr wythnos ddiwethaf.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Awyrlu UDA eu bod yn "ymddiheuro am yr aflonyddwch gafodd ei achosi".
Ychwanegodd eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad a'r amserlen hedfan.
Dywedodd Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU mai mater i UDA oedd yr hediadau hyn.
Bu'r jetiau'n hedfan yn isel o gwmpas Arfon tua 10:00 fore Gwener 22 Ebrill, ac roedd y sŵn yn "fyddarol" yn ôl Mr Williams, oedd yn gweithio yn ei seler yng Nghaernarfon ar y pryd.
Mae cwynion achlysurol yn yr ardal am sŵn jetiau, yn enwedig gyda safle'r Awyrlu yn Y Fali, Ynys Môn, yn agos.
"Maen nhw'n cael hedfan rhwng 100 a 250 troedfedd, sy'n isel iawn," meddai.
"Ac roedden nhw wedi dod dros ganol tref Caernarfon, hyd y gwelwn, neu hyd y clywn i - roedd o'n fyddarol.
"Felly dyna be' sy'n wahanol tro 'ma, sef eu bod wedi mynd dros drefi a dros bentrefi, ac yn amlwg mae'r amgylchiadau'n anodd iawn i bobl sydd wedi dod yma o Wcráin."
Dywedodd nad ydy'r drefn o reoli pryd a lle mae awyrennau yn hedfan yn isel yn gweithio, a bod angen i Weinyddiaeth Amddiffyn y DU gydlynu'n well gyda'u cynghreiriaid Americanaidd.
"Be' 'swn i'n licio'i wybod ydy pa fath o gyd-drefnu sydd 'na rhwng America a'r MoD i gael gwybod na ddylen nhw ddim hedfan yn isel dros drefi," meddai.
"Dydy'r drefn ddim yn gweithio, 'dan ni'n cael y drafferth yma yn dragywydd, felly dwi'n meddwl bod angen edrych arno fo eto."
Awyrennau Americanaidd o'r 48ain Adain Ymladd, sydd wedi eu lleoli yn safle'r Awyrlu yn Lakenheath yn ne Lloegr, oedd yn gyfrifol am y twrw ddydd Gwener.
'Hyfforddi yn allweddol'
Dywedodd llefarydd eu bod yn "edrych ar y digwyddiad hwn o ran amserlen a rhaglen".
"Mae cynnal hyfforddiant cyson yn beth arferol, yn allweddol i ddatblygu gallu milwrol ac yn arwydd o ymrwymiad i amddiffyn ar y cyd a diogelwch cydweithredol ochr yn ochr â'r DU, ein cynghreiriaid eraill a'n partneriaid yn y rhanbarth," meddai.
"Tra ein bod ni'n gwneud ein gorau i osgoi ardaloedd poblog i liniaru effeithiau sŵn, rydym yn ymddiheuro am yr aflonyddwch gafodd ei achosi."
Gofynnodd BBC Cymru i'r Weinyddiaeth Amddiffyn am ymateb, ond dywedodd llefarydd mai mater i'r Awyrlu Americanaidd oedd y digwyddiad dan sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019