Etholiadau lleol: Beth sy'n poeni pobl Porthmadog?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PorthmadogFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn gorwedd rhwng y môr a'r mynydd mae ôl y diwydiant llechi yn glir ar Borthmadog.

Am gyfnod dyma lle'r oedd rhai o lechi chwareli Ffestiniog yn dechrau ar eu taith i bedwar ban byd. Erbyn hyn nid llechi ond twristiaid mae'r hen drên stem yn cario ar draws y cob.

Mae nifer o fusnesau'r ardal yn ddibynnol ar dwristiaeth i'w cynnal, ond dydy gwaith tymhorol ddim wastad yn gyson ac i nifer yn y dref hon, mae costau byw yn bwnc llosg ar drothwy'r etholiadau lleol.

Gohebydd BBC Cymru Liam Evans fuodd ym Mhorthmadog i holi'r farn.

Mae siop bysgod Bwyd y Mor wedi ei leoli ar stryd fawr y dref ac yn gweld gwerth eu cwsmeriaid lleol a rheini sy'n dod ar wyliau.

Ond wrth gadw'r stoc yn oer, mae'r perchnogion, Carys a Simon Herbert yn dweud bod eu biliau ynni wedi cynyddu'n aruthrol ac yn rhoi straen naturiol ar y busnes.

"Mae o yn 'neud i chi boeni", meddai Carys.

Disgrifiad o’r llun,

Wrth i gostau byw gynyddu, mae'n anodd i Carys a Simon Herbert gadw prisiau'n isel yn eu siop bysgod

"Ydy pobl dal am ddod i 'nôl eu pysgod, i gadw ni fynd"?

"Da ni'n trio gwneud ein gorau i bawb a chadw prisiau yn isel."

Er hyn mae'r perchnogion yn dweud bod cynyddu prisiau ar rai eitemau yn anochel.

'Fel hen bobl, 'dan ni yn poeni'

Gyferbyn un o feysydd parcio mwyaf poblogaidd y dref mae Dewi Jones yn byw ers blynyddoedd.

Yng nghanol prysurdeb Porthmadog, mae wrthi yn tendio i'r ardd sy'n llecyn tawel o brydferthwch.

Ag yntau'n bensiynwr, mae'n dweud ei fod o a'i wraig yn gweld y cynnydd mewn prisiau yn cael eu hadlewyrchu bob mis yn eu biliau.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i Dewi Jones a'i wraig fod yn fwy gofalus gyda'u harian wrth i gostau gynyddu

"Trydan, nwy, ma'n mynd i fyny a s'neb yn neud dim byd amdano".

"Yn enwedig i ni fel hen bobl, mae hi'n anabl, 'da ni yn poeni, pan eith hi yn oer yn y gaeaf, fydd rhaid i ni roi y central heating 'mlaen, beth arall allwn ni wneud?

Ychwanegodd Mr Jones bod rhaid "watchiad be sy'n cael ei wario ar".

"'Da ni methu neud y pethau oedden ni arfer gwneud".

Etholiadau Lleol 2022

Tra bod costau byw i weld yn un o'r pynciau mwyaf amlwg ar drothwy'r etholiadau lleol, dydy'r pryderon ddim yn unigryw i'r dref hon.

Ar hyd a lled Cymru, wrth i gostau gynyddu mae cymunedau yn gorfod addasu, newid ac ymdopi a hynny yn cynnig sawl her.

Ond gyda'r dref hefyd yn fan gwyliau poblogaidd, mi fydd nifer o bryderon eraill yn mynd â sylw etholwyr.

Mae meysydd parcio, sbwriel, baw ci a thwristiaeth gynaliadwy hefyd yn destunau sy'n cael eu codi ar hyd a lled y stryd fawr.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Ond mae un pwnc sy'n gyffredin yn yr ardal hon ac yn codi pryderon mawr ar draws y sir - tai.

Gyda rhannau o Wynedd ymhlith yr uchaf o ran y canran o dai sy'n ail gartrefi, mae rhai etholwyr am weld eu hawdurdod lleol yn gwneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem.

Yn ôl Geraint Parry, oedd wrthi'n cael paned a sgwrs ar y stryd fawr, mae 'na bryder gwirioneddol ei bod hi'n anoddach nag erioed o'r blaen i bobl ifanc gael tai - mae'n galw am fuddsoddiad chynllun clir ar drothwy'r etholiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae costau byw yn bwnc llosg i sawl un ym Mhorthmadog

"Os ewch chi i Borth y Gest, Stryd Manceinion, os gewch chi dri tŷ o bobl leol yno - fyddwch chi'n lwcus.

"Maen nhw i gyd ar buy to let i osgoi trethi."

Ychwanegodd fod yna wir angen am weithredu cyn i'r sefyllfa waethygu.

Fydd pawb yn y dref hon ddim yn cael bwrw pleidlais ddydd Iau nesaf, gyda'r etholiad mewn un ward yn ddiwrthwynebiad.

I'r rheiny fydd yn rhoi croes yn y blwch - maen nhw am weld newid mawr i'r pynciau sy'n effeithio ar bawb."