Gŵyl i ddathlu pedwar 'Arloeswr o Bowys'

  • Cyhoeddwyd
Cylchfan Robert Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bedair cylchfan ar ffordd osgoi'r Drenewydd eu henwi'n ddiweddar ar ôl yr arloeswyr lleol

Bydd gŵyl i ddathlu pedwar 'Arloeswr o Bowys' yn cael ei chynnal yn y Drenewydd fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o'u bywyd, gwaith a chyflawniadau.

Mae trefnydd yr ŵyl yn dweud bod y pedwar - Robert Owen, David Davies, Pryce Pryce-Jones a Laura Ashley - yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth ac y dylen nhw gael mwy o amlygrwydd er mwyn ysbrydoli entrepreneuriaid newydd.

Roedd gan bob un ohonyn nhw gysylltiadau â'r Drenewydd neu bentrefi cyfagos ac yn bobl fusnes lwyddiannus.

I gydnabod eu llwyddiannau, ac fel ffordd o godi eu proffil, cafodd y pedair cylchfan ar ffordd osgoi'r Drenewydd eu henwi ar ôl yr arloeswyr yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim llawer o lefydd â chymaint o arloeswyr lleol amlwg â'r Drenewydd, medd Ann Evans

Trefnydd yr ŵyl yw Ann Evans, Swyddog Marchnata Hyb Treftadaeth Canolbarth Cymru. Mae hi'n meddwl y dylid dathlu'r arloeswyr er mwyn denu mwy o ymwelwyr i'r Drenewydd.

"Un o amcanion y digwyddiad yw codi dyheadau atyniadau treftadaeth lleol a digwyddiadau i ddathlu'r arloeswyr hyn ac i godi ymwybyddiaeth am yr arloeswyr yn y canolbarth," meddai.

"Does dim llawer o drefi sydd â [phedwar] o arloeswyr Cymreig arwyddocaol i ddathlu ac i bawb gael eu gwerthfawrogi. Mae lle hefyd i bobl gael eu hysbrydoli gan yr arloeswyr hyn wrth symud ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Hen safle Pryce-Jones yw un o adeiladau amlycaf Y Drenewydd

Bydd yr ŵyl yn cynnwys ystod o arddangoswyr yn amrywio o Amgueddfa Robert Owen ac Amgueddfa Tecstilau'r Drenewydd i Reilffordd Treftadaeth Cambria a Laura Absolutely, sy'n arbenigo mewn hen ddodrefn Laura Ashley.

Bydd ffilm am Arloeswyr Powys yn cael ei dangos yn ogystal â sgwrs ar David Davies a Pryce-Jones.

Eisoes, mae atgofion o'r cysylltiadau rhwng yr ardal a'r pedwar arloeswr - cerflun yn coffáu David Davies wrth ymyl cefnffordd yr A470 yn Llandinam, a cherflun er cof am Robert Owen yng nghanol y Drenewydd.

Mae amgueddfa Robert Owen hefyd yn y dref a gellir ymweld â'i fedd yn Eglwys y Santes Fair. Mae Warws Brenhinol Cymreig anferth Pryce-Jones yn adeilad amlwg yn Y Drenewydd, ac mae adeiladau ffatri Laura Ashley i'w gweld hyd heddiw yng Ngharno.

Ffigyrau diwydiannol pwysig

Bydd yr hanesydd lleol Nia Griffiths yn traddodi sgwrs yn ystod yr ŵyl.

Dywedodd: "Dw i'n meddwl bod nhw'n ffigyrau pwysig iawn yn hanes Cymru ac yn hanes Sir Drefaldwyn - maen nhw'n ffigyrau pwysig i ddiwydiant Cymru i ddweud y gwir, a dy'n nhw ddim yn cael eu cofio fel dylsan nhw.

"Yn enwedig y rhai gafodd eu geni yn yr ardal yma ac oedd wedi aros yn yr ardal sef David Davies, Llandinam a Pryce-Jones o'r Drenewydd.

"Falle bod Robert Owen yn cael ei gofio ychydig bach mwy am ei fod e wedi symud i ffwrdd o'r ardal i New Lanark [yn Yr Alban], ac wrth gwrs Laura Ashley oedd wedi symud i mewn. Ond dw i'n meddwl yn gyffredinol y gallwn ni ddweud eu storïau nhw llawer mwy."

Yn ôl Nia Griffiths mae'r pedwar hefyd wedi'u huno gan eu hagwedd ofalgar at eu gweithwyr a'u cymunedau, yn ogystal â gan y cysylltiadau daearyddol.

"Roedd David Davies yn bennaeth ar empire anferth ond roedd e dal yn gallu cydweithio. Roedd e'n un o'i ddynion ac roedd lot o deyrngarwch iddo fo.

"Yr un peth efo Pryce Jones - roedd o'n gwneud lot i'r gymuned, yn rhoi lot o weithgareddau ymlaen, mabolgampau, Eisteddfodau. Doedden nhw ddim jyst yn byw yn eu tai mawr, roedden nhw'n rhan o'r gymuned.

"Laura Ashley yr un fath - roedd hi wedi adeiladu gweithlu anferth yn yr ardal ond roedd hi yn un ohonyn nhw. Roedd hi'n deall y gweithwyr, ac roedden nhw'n gweithio fel un teulu mawr gyda'i gilydd.

"Mae beddi y pedwar yn yr ardal - achos daeth Robert Owen yn ôl wrth gwrs i gael ei gladdu yn Y Drenewydd. Mae Laura Ashley wedi'i chladdu yng Ngharno.

"Er bod y beddi yna, falle bod neb yn wir gwybod amdanyn nhw, felly yn bendant mae angen cadw'r momentwm ar ôl yr ŵyl yma."

Disgrifiad o’r llun,

Bedd Robert Owen yn Y Drenewydd

Mae trefnwyr yr ŵyl yn gobeithio y bydd y digwyddiad hefyd yn codi proffil y pedwar yn y tymor hir ac yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal.

Dywedodd Ann Evans: "Rwy'n meddwl [bydd yr ŵyl yn helpu] drwy gynyddu'r balchder dinesig lleol a'r ddealltwriaeth o'r hyn y gwnaeth yr arloeswyr hyn, a'r hyn y gallai'r arloeswyr ei gyflawni o hyd o ran twristiaeth treftadaeth ar gyfer y dref a chanolbarth Cymru.

"Mae'n ymwneud â cheisio cysylltu popeth - efallai gallai [systemau GPS] ddweud wrth yrwyr 'rydych chi nawr yn agosáu at fan geni Robert Owen a Pryce Jones'. Gallai pethau ddigwydd i wella'r ffordd rydych chi'n dod i ddysgu am yr arloeswyr hyn."

Cynhelir yr ŵyl am 1400 ddydd Sadwrn 14 Mai yn yr Hyb Treftadaeth yn adeilad Pryce-Jones yn Y Drenewydd.

Yr arloeswyr sy'n cael eu hanrhydeddu

Robert Owen (1771-1858)

Disgrifiad o’r llun,

Cerflun Robert Owen yn Y Drenewydd

Roedd Robert Owen yn ddiwygiwr cymdeithasol iwtopaidd creadigol, a hanai o gymuned ffermio a thecstilau yn Y Drenewydd.

Arloesodd mewn addysg babanod, gwell amodau gweithio a byw i bawb.

Ar ôl dechrau fel prentis dilledydd yn Llundain yn 10 oed, erbyn ei 20au hwyr roedd wedi dod yn gyd-berchennog melin gotwm yn New Lanark, yr Alban.

Yn fanno fe roddodd ar waith ei gred y gellir newid gwerthoedd moesol ac arferion y boblogaeth trwy well amodau gwaith a byw ac addysg.

David Davies (1818-1890)

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gerflun o David Davies yn ardal Llandinam

Yn enedigol o Landinam, Powys roedd David Davies yn gyfrifol am osod 145 milltir o reilffyrdd yng Nghymru.

Yna dechreuodd ymddiddori yn y diwydiant glo a tharo Aur Du ym mhen uchaf Cwm Rhondda.

Daeth Davies yn un o Arloeswyr y Chwyldro Diwydiannol ac mae'n cael ei ystyried yn Filiwnydd cyntaf Cymru.

Daeth yn Gadeirydd Rheilffordd y Cambrian, gan agor y cyswllt rheilffordd rhwng Llanidloes a'r Drenewydd ym 1859.

Syr Pryce Pryce-Jones (1834-1920)

Ffynhonnell y llun, Ann Evans
Disgrifiad o’r llun,

Fe dorrodd Pryce Pryce-Jones dir newydd o ran caniatáu i gwsmeriaid siopa trwy'r post

Arloeswr y siopa ac archebu drwy'r post, a siopa rhyngwladol - ymhlith ei gwsmeriaid roedd y Frenhines Victoria a'i urddodd yn farchog yn 1887.

Cafodd ei eni yn Llanllwchaearn, Y Drenewydd a bu'n brentis dilledydd yn y dref cyn agor ei siop ddillad ei hun yn Broad Street ym 1859.

Y flwyddyn honno postiodd ei ddillad gwlanen cyntaf drwy'r post i'w gwsmeriaid, gan sylweddoli'r potensial o dargedu cwsmeriaid y tu allan i'r Drenewydd.

Datblygodd enw da yn rhyngwladol gan wasanaethu teuluoedd brenhinol ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig.

Agorodd warws wrth ymyl Gorsaf Reilffordd y Drenewydd a oedd yn allweddol wrth gyflwyno busnes archebu drwy'r post rhyngwladol.

Laura Ashley (1925-1985)

Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r dylunydd ifanc wrth ei gwaith

Credai Laura Ashley fod ei llwyddiant yn ganlyniad i waith caled ac ymroddiad ei chydweithwyr yng nghanol cymuned amaethyddol Sir Drefaldwyn.

Symudodd Laura a Bernard Ashley eu busnes bwrdd cegin i Fachynlleth yn 1960. Prynasant dŷ teras a sefydlodd Laura swyddfa yn ei chartref a siop ym 1961.

Yna symudodd Bernard ei argraffwyr tecstilau o Gaint i Tybrith yng Ngharno lle daeth eu brand yn llwyddiant byd-eang.

Claddwyd y ddau ym Mynwent Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Carno.

Pynciau cysylltiedig