Y dyn o Gaernarfon a'i fentor o Frasil
- Cyhoeddwyd
Mae Chris Pritchard o Gaernarfon yn hyfforddwr hunan-amddiffyn gyda blynyddoedd o brofiad.
Mae ganddo felt du mewn karate a cicbocsio ac yn arbenigo mewn sawl dull arall o ymladd.
Dros y blynyddoedd mae Chris wedi datblygu partneriaeth gydag un o'r enwau mwyaf yn hanes crefft ymladd cymysg (mixed martial arts), yr arbenigwr jiu-jitsu o Frasil, Royce Gracie.
Mae'r teulu Gracie yn fyd-enwog am ddatblygu math o jiu-jitsu eu hunain, ac mae ganddyn nhw ddilynwyr ledled y byd yn ymarfer i'w ffordd penodol nhw o hunan-amddiffyn.
Beth ydy jiu-jitsu?
"Mae pobl yn drysu, achos dydi 'MMA' ei hun ddim yn steil o ymladd, does 'na ddim ffasiwn beth" meddai Chris. "MMA ydi Mixed Martial Arts, lle ti'n gwneud dipyn o bob dim."
Felly, beth ydy prif nodweddion jiu-jitsu? Esboniai Chris: "Prif nodweddion jiu-jistu ydi i amddiffyn eich hunain, a'r syniad bod y bobl llai a gwanach yn gallu amddiffyn eu hunain yn effeithiol yn erbyn bobl mwy na nhw a chryfach."
Yn hytrach na sefyll ar y traed a taro'ch gilydd, mae jiu-jitsu yn ymwneud mwy â dod a'r gwrthwynebwyr i'r llawr, gan ddefnyddio techneg ac onglau'r corff i ennill gornestau.
"Mae'n bosib gwneud hyn drwy ddefnyddio leverage, choke-holds a joint manipulation. Dwi 'di cael gymaint o hogia mawr cry' llawn mysyls yn dod i trainio efo fi, sy'n 15-16 stôn ac sy'n mynd i gym bob dydd, a wedyn dwi'n gweld hogia lot llai, tua 10-11 stôn, yn cal y gora ohonyn nhw."
Dechreuad yr UFC (Ultimate Fighting Championship)
Roedd y teulu Gracie o Rio de Janeiro yn hollbwysig i ddatblygiad cynnar yr UFC, sef y gorfforaeth fwyaf yn y byd sy'n cynnal digwyddiadau MMA.
"Roedd Rorion Gracie (brawd Royce) isho dangos mai jiu-jitsu oedd y dull gorau o ymladd yn y byd, felly nathon nhw ddechrau'r 'Gracie challenges', ble roeddan nhw'n cynnig i bobl o bob dull o ymladd roi pres lawr gan ddeud 'os da chi'n curo ni cewch chi'r pres, ond os da ni'n curo chi y cyfan 'dan ni eisiau di'r hawliau fideo'.
"Felly oedd 'na bobl o gefndir kung-fu, jiwdo, bocsio i gyd yn trio ennill, ond roedd y bois jiu-jitsu yn curo'r cwbl am bo' nhw gymaint gwell pan fo'r ffeit yn mynd i'r llawr."
"Ond er mwyn i'r digwyddiadau 'ma fynd yn bellach nathon nhw ddatblygu yr Ultimate Fighting Championship (yr UFC da ni'n ei 'nabod heddiw), lle roedd posib dangos Gracie jiu-jitsu i'r byd i gyd.
"Mewn cawell octagon mae'r ymladd dyddia 'ma, ond ar y dechra roedden nhw wir wedi ystyried rhoi barbed wire rownd y gawell a rhoi moat rownd y gawell gyda chrocodeiliaid ynddo fo! Yn y dechreuad doedd 'na ddim rheolau, dim rowndiau na time limit - mae pethau wedi newid lot ers hynny."
Dysgu i hyfforddi jiu-jitsu
Ychydig flynyddoedd yn ôl fe gynyddodd Chris ei bortffolio crefft ymladd cymysg gan ddysgu jiu-jitsu.
"O'n i'n black belt yn karate a cicbocsio, a cwffio yn sefyll i fyny oedd fy mhetha i. Wedyn tua 1996 neu 1997 'nath fy hen fos i yn Safeway ofyn imi os o'n i 'di gweld y gystadleuaeth newydd 'ma lle mae boi karate yn ymladd yn erbyn reslo, a sumo yn erbyn jiu-jitsu, er mwyn gweld be di'r gamp orau."
"O'n i'n dysgu karate a cicbocsio yng Nghaernarfon yn barod, ac roedd jiu-jitsu jest yn mynd yn fwy ac yn fwy. O'n i ddim isho gweld ysgol jiu-jitsu yn dod yma a fy stiwdants i gyd yn mynd yno i hyfforddi, felly nes i benderfynu dysgu i fod yn athro jiu-jitsu fy hun.
"Roedd hyn yn 2009, ac yn dilyn hyn 'nes i ddisgyn mewn cariad efo fo jiu-jitsu - o'n i'n gwbod yn syth mai hwn oedd y ddisgyblaeth i fi, ac hwn di'r martial art mwya ymarferol i amddiffyn dy hun ac helpu'r bobl gwanaf amddiffyn ei hunan yn erbyn y bobl mwy."
Cyd-weithio gyda Royce Gracie
"Nath Royce ddod drosodd i roi seminar yng nghanolfan hamdden Caernarfon, gyda bron cant yn troi fyny. Nes i ddechrau perthynas da efo fo o fan'na, a 'nes i ddweud bod fi isho dechrau dysgu jiu-jitsu yn fy gym i.
"Oddo'n hapus efo be nath o weld, gweld bo' ni'n broffesiynol yma a bo'r lle'n lân a petha fel 'na, a nath o ddweud bod o'n hapus i mi ddysgu jiu-jitsu o 'dano fo."
"Fi oedd y cynta i ddod a jiu-jitsu i Wynedd, ac yn ddiweddar mae 'na tua pedwar neu bump arall, gyda tri neu bedwar o'r hyfforddwyr 'di dysgu jiu-jitsu gan fi."
Mae perthynas Chris gyda Royce Grace wedi ymestyn ymhellach na'r proffesiynol, ac mae'n ei ystyried fel ffrind agos.
"Nhw (y teulu Gracie) ydy'r bobl mwyaf clên a'r bobl mwya ffyddlon dwi erioed 'di cwrdd. Dwi'n ystyried Royce fel ffrind agos i fi, fel mentor ac fel rhywfath o life-coach. Mae o 'di siarad efo fi am llwyth o betha - mae gen i ddwy teenager ac mae Royce yn rhoi cyngor i fy mharatoi i ar gyfer be ddisgwyl efo gwahanol betha."
"Mae'r merched wedi gwirioni efo fo. Mae ganddon ni 'wal deulu' adra efo llunio o nain a taid, cefndryd ac yncyls ac antis, ac mae'r merched 'di rhoi Royce ar y wal a deud 'mae Royce yn rhan o teulu ni'".
Agor canolfannau PMA (Pritchard Martial Arts)
Yn dilyn ei lwyddiant gyda'r ysgol yng Nghaernarfon mae Chris bellach wedi agor ysgolion eraill yng ngogledd-orllewin Cymru.
"Mae ganddon ni chwe ysgol PMA i gyd; Caernarfon, Porthmadog, Abergele, Bangor, Amlwch a Llanfairfechan. Yn y brifysgol yng Nghaernarfon mae ganddon ni 250 o stiwdants, a rhwng yr ysgolion i gyd mae ganddon ni dros fil.
"Dwi'n mwynhau hyfforddi bobl, gweld nhw'n dod yn eu blaena ac eu hyder nhw'n tyfu. Dwi'n licio hefyd helpu bobl sydd heb gael hi'n hawdd mewn bywyd, achos mae martial arts efo'r pŵer i newid bywydau bobl."
Chris yn dychwelyd i ymladd
Yn ddiweddar mae Chris wedi bod yn llwyfannu digwyddiadau 'Market Mayhem' yng Nghaernarfon, ble mae gornestau ymladd cawell yn cael eu cynnal gyda rhai o'r ymladdwyr gorau o ogledd Cymru a thu hwnt.
Fe benderfynodd Chris gymryd rhan yn y 'Market Mayhem' mwyaf diweddar ar 23 Ebrill.
"Y tro dwytha i mi gystadlu oedd yn 2007, ac o'n i'n colli'r teimlad 'na o nerfusrwydd cyn cystadlu. Nes i trainio efo'r hogia yn y camp ar gyfer y Market Mayhem dwytha, ond 'nes i ddim dweud wrth y criw mod i am ymladd achos doedd y sioe ddim amdana fi, am fy hogia i yn y gym oedd o."
"Dwi'n 42, ac mae cystadlu efo bois yn eu 20au sydd yn ffit iawn yn gallu bod yn eitha tough going - ma'r brên yn deud 'cmon allai neud hyn', ond y corff yn deud 'dyro'r gora iddi'!
"O'n i erioed 'di cwffio mewn cawell o blaen - mewn ring neu ar fat o'n i wedi arfer gwneud, felly o'n i eisiau gwneud a cael dweud wrth bois y gym mod i ddim yn disgwyl i wneud dim byd fyswn i ddim yn gwneud fy hun, ac ymladd yn erbyn bocsar nes i y noson yna."
"Yn y 'Market Mayhem' dwytha nes i bron colli fy nith, Cara, gan iddi gael anaf o waedu ar yr ymennydd. Nath hi fyw drwy hynny ac mae hi mewn iechyd da rŵan diolch byth.
"'Nes i ddweud wrth fy merched rhyw awr yng nghynt bo fi am ymladd, a nathon nhw ddechrau crio gan ofni bysa'r un peth yn digwydd i fi a ddigwyddodd i Cara. Ar ôl imi ddweud wrthyn nhw y byswn i'n iawn nath nhw ddeud "'dan ni ddim isho chdi neud hynna i neb arall chwaith..."
"'Nes i addo i nhw wedyn a dweud nai ddim hitio fo, dim cicio fo, dim taro fo o gwbl, nai fynd â fo syth i'r llawr a curo fo drwy ddefnyddio jiu-jitsu, a dyna ddigwyddodd. Hefyd fe roedd hyn yn gyfle imi ddangos bod hi'n bosib curo rhywun heb orfod brifo nhw."
Hefyd o ddiddordeb: