Cwmni theatr 'gwledig, blaengar' Felinfach yn dathlu'r 50
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni theatr yng Ngheredigion yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni gyda digwyddiadau i nodi'r garreg filltir wedi'u trefnu trwy gydol y flwyddyn.
Cafodd Theatr Felinfach ei sefydlu ym mis Mai 1972 yn ystod cyfnod yr hen Gyngor Sir Aberteifi, ac mae hi wedi llwyfannu miloedd o sioeau yn yr hanner canrif ers hynny.
Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, pennaeth y theatr fod yna "sawl rheswm i ddathlu".
"Nid yn unig dathlu pen-blwydd y theatr a'r cydweithio anhygoel rhwng cymunedau a'r ganolfan, ar draws hanner canrif," meddai.
"Mae hefyd yn flwyddyn o ddathlu dod at ein gilydd unwaith eto ar ôl cyhyd o fod ar wahân ac ar gau ac i ddechrau creu o'r newydd."
'Rhan o'r gymuned o'r dechrau'
Ym 1972 sefydlwyd y theatr mewn adeilad oedd yn arfer bod yn weithdy trwsio peiriannau amaethyddol.
Roedd yn hollol addas bod gan gartre'r theatr newydd hanes o gysylltiad gyda'r diwydiant amaeth, oherwydd mae'r cwmni wedi cynnal y berthynas gyda'r gymuned wledig byth ers hynny.
Roedd Neville Evans yn y theatr ar y noson agoriadol - ddim ar y llwyfan nac yn y gynulleidfa, ond yn edrych i lawr ar y perfformiad tra'n gweithio'r golau canlyn.
"Roedd yn noson i'w chofio ac roedd sefydlu'r theatr yn beth pwysig iawn. Roedd yn rhan o'r gymuned o'r dechrau ac mae'n parhau i fod yn rhan o'r gymuned," meddai.
"Mae'r panto yn uchafbwynt blynyddol a dwi wedi bod yn ymwneud â'r panto bron am yr hanner can mlynedd. Mae'r atgofion yn felys iawn.
"Mae wedi bod yn fraint i fi'n bersonol - ac i gymaint o bobl eraill - i fod wedi bod yn rhan o hyn, ac wi'n credu y gall pob un ohonom ni fod yn ddiolchgar am y weledigaeth gafodd Cyngor Sir Aberteifi i wireddu'r freuddwyd o gael theatr yma."
'Dim newid i'r ethos'
Er gwaetha'i enw, dyw'r theatr ddim ym mhentre' Felinfach, ond yn hytrach tua milltir i ffwrdd, yr ochr draw i bentref Ystrad Aeron.
Ond ble bynnag mae'r adeilad ei hun mae'r theatr wedi bod yn rhan gynhenid o'i chymuned ers y dechrau.
Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn: "Mae'n theatr unigryw a dwi'n meddwl oedd y weledigaeth o sefydlu theatr yma hanner canrif yn ôl yn unigryw hefyd.
"Mae drama, theatr a'r celfyddydau creadigol yn arfau ar gyfer datblygu cymunedol, ar gyfer dysgu iaith, ar gyfer cael hwyl a dod â phobl at ei gilydd.
"Roedd yr ethos yna yn y cychwyn a dy'n ni ddim wedi newid yr ethos oherwydd ein bod ni'n ffyddiog ei fod yn gweithio."
Mae cyfraniad y gymuned i'r theatr yn eang - o aelodau staff technegol, creadigol a marchnata i wirfoddolwyr sy'n helpu stiwardio pan fydd perfformiadau.
Mae Ms Lloyd Llywelyn yn talu teyrnged iddyn nhw tra'n tanlinellu bod elfennau eraill yn hanfodol hefyd.
'Bywyd arall gan y theatr hon'
"Mae'r gynulleidfa wrth gwrs yn bwysig - does dim pwrpas i'n gweithredoedd ni heb fod 'da ni rywun sydd eisiau eu gweld nhw a chlywed beth sydd gennym ni i ddweud," meddai.
"Ac maen nhw'n dod o ardal eang nid jyst y gymuned leol.
"Wedyn mae'n cyfranogwyr ni - y bobl sy'n dod mewn ac eisiau cymryd rhan mewn rhywbeth, perfformio ar y llwyfan mewn clwb drama neu theatr ieuenctid, neu glwb garddio, clwb henoed. Mae'r amrediad yn eang.
"Pan ma' pobl yn gweld y theatr o'r hewl maen nhw'n meddwl 'O dyna le mae pobl yn mynd jyst i wylio rhywbeth ar lwyfan' heb sylweddoli bod 'na fywyd arall yn gyfan gwbwl gan y theatr hon."
Mae Theatr Felinfach yn disgrifio'i hun fel theatr "wledig, gymunedol yn flaengar ei syniadau, yn fisi ei hamserlen, yn fywiog ei chyfranogwyr a'i chynulleidfa ac yn fyrlymus ei gweithgareddau".
Byddai miloedd o bobl yn ategu hynny.
Mae'r disgrifiad yn dweud hefyd bod y theatr yn "creu cyfleoedd a rhoi mynediad a llwybr gydol oes i'r celfyddydau a diwylliant Cymru a'r byd trwy raglenni creadigol, cyfranogol a rhaglen o gynyrchiadau proffesiynol".
"O Banto i Barti, o Gyngerdd i Gynhadledd - mae rhywbeth yma i bawb o bob oed," meddai.
'Cefnogaeth arbennig yn yr ardal'
Yn ogystal â chynhyrchu sioeau ei hun, mae Theatr Felinfach yn aml yn lleoliad ar gyfer cwmnïau teithiol i berfformio ynddi.
Mae Cwmni Theatr Maldwyn wedi mynd â'i sioeau yna nifer o weithiau a chael croeso cynnes bob tro.
Dywedodd Penri Roberts, un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn: "'Da ni wedi perfformio yn Theatr Felinfach ers 1981 gyda'r 'Mab Darogan'.
"'Da ni wedi mynd â sawl sioe i Felinfach ac wedi cael hwyl eithriadol yna.
"Un peth yn sicr am Felinfach ydy 'da chi'n hollol sicr i gael cynulleidfa dda yna - mae 'na gefnogaeth arbennig yn yr ardal i'r theatr."
Bydd dathlu'r pen-blwydd yn Felinfach yn dechrau nos Wener, 13 Mai gyda noson arbennig o gerddoriaeth yn Gig Dathlu 50. Pwdin Reis a Bwca yw'r bandiau fydd yn perfformio.
Mae gan Betsan Evans, prif leisydd Pwdin Reis, atgofion da o'r theatr.
"Mae Theatr Felinfach yn le sbesial iawn a ma' 'da fi lawer o atgofion melys o fynychu gweithdai a gweld sioeau a phantomeimau," meddai.
"Mae cael gwahoddiad i berfformio ar noson dathlu 50 mlynedd y theatr yn fraint fawr ac rydym ni fel band ffaelu aros i berfformio ar y noson."
Dim ond dechrau'r dathlu yw'r gig - mae Theatr Felinfach yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau trwy'r flwyddyn i nodi ei phen-blwydd arbennig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2018