'Llawer eisiau manteisio wrth gynnig tŷ i ffoaduriaid'
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwraig wnaeth ffoi o'r rhyfel yn Wcráin wedi siarad am ei thaith i gyrraedd Cymru, a'r pryder a deimlodd o weld bod "llawer o bobl" yn edrych i "fanteisio ar ffoaduriaid" sy'n chwilio am le i fyw.
Deffrodd Alina, 21 ac o ardal Odessa, i sŵn bomio ar ddiwrnod cyntaf y goresgyniad gan Rwsia.
Eglurodd y fyfyrwraig Ieithyddiaeth fod unigolion yn ceisio "cymryd mantais" trwy wefannau sy'n helpu ffoaduriaid Wcráin i gysylltu â gwesteiwyr yn y DU.
Ymysg cynigion gan deuluoedd, roedd nifer fawr o negeseuon "pryderus" wedi eu gyrru'n uniongyrchol i e-bost a WhatsApp Alina.
"Derbyniais negeseuon a wnaeth 'neud i mi deimlo'n anghyfforddus a ches i negeseuon yn dweud 'gawn ni eich llogi fel gwarchodwr neu i fynd â'r cŵn am dro.'
"Fe wnaeth hynny wneud i mi deimlo'n amheus."
Gyda'r gobaith o ffoi rhag y rhyfel, Instagram wnaeth helpu hi i benderfynu os allai ymddiried mewn person dieithr.
'Teimlo fel marchnad gig'
Cannoedd o filltiroedd i ffwrdd yng Nghaerdydd, roedd gan y darpar westeiwr, Beth, bryderon tebyg i Alina.
Roedd Beth, 33, yn gobeithio y gallai'r ystafell sbâr yn ei fflat gynnig "diogelwch" i rywun oedd ei hangen.
Ond roedd hi'n pryderu bod disgwyl i ffoaduriaid a gwesteiwyr baru ei hunain trwy gynllun Llywodraeth y DU.
"Doeddwn i ddim yn teimlo'n gyfforddus yn dewis rhywun i fyw gyda mi trwy Facebook.
"Roedd o'n teimlo fel marchnad gig, gyda chymaint o deuluoedd yn hysbysebu eu hunain. Roeddwn i eisiau cadw fy hun a phwy bynnag yr oeddwn i yn lletya'n ddiogel.
"Clywais fod yna nifer o bobl, merched, yn cael cynnig lle gyda rhyw fel taliad yn y bôn. Ac felly, pan oeddwn i yn cynnig ystafell roedd o'n teimlo'n ofynnol i mi brofi y byddwn yn darparu lle diogel."
Faint o ffoaduriaid sydd yng Nghymru?
Mae dros 46,000 o bobl Wcráin bellach wedi teithio i'r DU trwy gefnogaeth deuluol a chynllun nawdd y llywodraeth, ac oddeutu 90,000 o geisiadau ar gyfer fisa drwy'r cynllun nawdd.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dim ond 2% o ffoaduriaid y DU sy'n byw yng Nghymru, er gwaethaf cynnig gan Lywodraeth Cymru i weithredu fel gwesteiwr ei hun, a darparu llety i 1,000 o bobl yn uniongyrchol.
Awgryma ffigyrau bod dros 1,100 o Wcráiniaid yn aros yng Nghymru, ond dim ond 184 ohonyn nhw sydd wedi dod drwy nawdd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod oedi ar draws y DU i brosesu fisas wedi golygu "oedi sylweddol" yn y data sydd wedi ei recordio.
Unwaith i Alina a Beth gael eu paru, gyrrodd Beth linc i'w thudalen Instagram.
Dywedodd y gwyddonydd biofeddygol ac arweinydd Brownies mai dyma oedd un o'r ffyrdd hawsaf y gallai feddwl amdano i helpu Alina i ymddiried ynddi.
Wrth gyfnewid negeseuon, derbyniodd Alina "llythyr enfawr trwy WhatsApp" yn cynnwys gwiriad DBS, ynghyd â chadarnhad pendant ei bod yn cynnig yr ystafell am ddim.
"Y peth roeddwn i'n hoffi oedd ei bod hi'n disgrifio'r holl wiriadau diogelwch", meddai Alina.
"Roedd ei llythyr yn gwneud i mi deimlo'n andros o gyfforddus yr oedd hi'n berson go iawn, a meddwl 'Rwy'n teimlo'n ddiogel hefo'r fenyw hon.'"
Mewn neges roedd Beth yn mynnu bod mam Alina yn ymuno ar gyfer yr alwad fideo gyntaf.
"Yn sicr byddai fy mam i wedi dychryn yn llwyr pe bai pethau fel arall - felly roeddwn i eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw," pwysleisiodd.
"Mi wnes i ddangos yr olygfa trwy'r ffenest, dyma Gaerdydd, dyma le dwi'n byw, dyma rywle saff."
Credai Alina y dylid gwneud mwy i helpu ffoaduriaid sicrhau bod darpar westeiwyr yn "ddiogel".
"Y prif beth yw dewis gwesteiwr yn ofalus a gwrando ar eich calon a'ch ymennydd," meddai.
"Mae'n rhaid i mi adeiladu bywyd newydd, cafodd fy mywyd blaenorol ei ddwyn.
"Mae gen i obeithion y byddaf yn gallu mynd yn ôl i Wcráin. Ond mae bywyd yn dal i fynd ac mae gen i lawer o gynlluniau."
Yn y cyfamser mae Beth wedi addo bydd modd iddi aros yn ddi-rent am flwyddyn.
"Os yw hi eisiau symud allan cyn neu ar ôl blwyddyn, rwy'n gwbl gefnogol o hynny. Bydd hi'n cael fy nghefnogaeth i beth bynnag."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022