Ceredigion: 'Gweld os allwn gynyddu premiwm ail gartrefi'
- Cyhoeddwyd

O Rydargaeau, Sir Gaerfyrddin, mae Bryan Davies, 51 oed wedi ymgartrefu yn Synod Inn, Ceredigion ers dros 20 mlynedd.
Yn amaethu ar fferm Synod Uchaf gyda'i wraig Anwen, bellach mae'n paratoi i arwain Cyngor Sir Ceredigion trwy gyfnod sy'n llawn heriau.
Mae llawer o'r heriau, meddai wrth Newyddion S4C, y tu hwnt i bob rheolaeth: "Y rhyfel yn Wcráin, costau byw yn cynyddu, prisiau tanwydd.
"Ni'n awdurdod gwledig fan hyn, mae'r pwysau ychwanegol sydd ar ffermydd o ran gwrtaith a thanwydd yn ddifrifol."

Mae gan grŵp Plaid Cymru fwyafrif yn y cyngor ar ôl etholiadau mis Mai
Am y tro cyntaf ers sefydlu Sir Ceredigion, mae gan un blaid fwyafrif, wedi i Blaid Cymru ennill 20 sedd.
Ond mae Bryan Davies yn awyddus i gynnwys yr holl bleidiau fel rhan o'i gynlluniau a sicrhau tryloywder wrth edrych i'r dyfodol a chyflawni rhai o'i flaenoriaethau, yr economi yn eu plith.
"Mae'r economi mor bwysig," meddai.
"Yr economi wledig cyn bwysiced â'r economi drefol. Ac wrth gael yr economi yna'n iawn, y gobaith yw ein bod ni'n gallu denu'n pobl ifanc ni nôl i'r ardal a hefyd, eu cadw nhw yn yr ardal."
Premiwm ail gartrefi
Ond er mwyn cyflawni hynny, mae'r cynghorydd yn ymwybodol o'r angen i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi.
"Eisoes mae'r cyngor sir yn codi 25% o bremiwm ar dreth y cyngor yn barod.
"Mae hwnna'n rhywbeth y'n ni'n mynd i ail edrych arno er mwyn gweld os allwn ni gynyddu hwnnw.
"Ond yn sgil hynny, mae'n rhaid i ni gau'r loop hole lle mae pobl yn gallu trosi eu hail gartrefi i mewn i lety gwyliau, a mewn ambell i enghraifft dyw'r bobl ddim yn ei osod e mas fel llety gwyliau."

Bryan Davies: 'Yr economi wledig cyn bwysiced â'r economi drefol.'
Her arall y mae'r arweinydd yn ei wynebu yw cadw pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n cydnabod yr angen i greu swyddi o ansawdd.
Y gobaith, meddai, yw defnyddio arbenigedd lleol ym myd ynni a thanwydd er mwyn cynorthwyo yn hynny o beth.
"Y gobaith yw cael bod yn hunangynhaliol o ran egni a gobeithio tanwydd gyda dyfodiad technoleg hydrogen.
"Mae 'na ambell i gynllun ar waith nawr fydd o bosib yn creu diwydiant newydd wrth greu ynni yng Ngheredigion.
"Y gobaith yw defnyddio arbenigedd y ddwy brifysgol sydd yma a'r Ganolfan Addysg bellach, ac wrth reswm, fe fydd swyddi da iawn yn dod yn sgil hynny."

Mae diboblogi yn broblem mewn siroedd gwledig fel Ceredigion
Mewn cyfnod o doriadau serch hynny, bydd yr esgid yn siŵr o wasgu yn ystod cyfnod cyntaf y cynghorydd Davies wrth y llyw, a'r ffermwr yn barod iawn am yr her.
"Y broblem sydd gyda ni yng Ngheredigion yw bod y boblogaeth yn mynd lawr.
"Felly mae hwnna'n sialens. O ran y cyllido trwy grant, wrth i'r boblogaeth fynd lawr, ni'n cael llai o arian yn ganolog o Gaerdydd.
"Bydda' i'n mynd i gyfarfodydd gyda'r WLGA (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) a byddai'n rhoi'n farn er lles Ceredigion achos mae gyda ni heriau gwahanol i ardaloedd eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2022