Bryan Davies yw arweinydd newydd Cyngor Sir Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bryan DaviesFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Fe bleidleisiodd aelodau yn unfrydol dros ethol Bryan Davies yn arweinydd y cyngor

Mae cynghorwyr Ceredigion wedi ethol arweinydd newydd ar ôl i Blaid Cymru sicrhau mwyafrif yn yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf.

Fe bleidleisiodd pawb yn unfrydol dros Bryan Davies - arweinydd grŵp y blaid yng Ngheredigion - i fod yn arweinydd newydd ar y cyngor.

Doedd dim enw arall wedi ei roi ger bron y cynghorwyr.

Fe fydd yn olynu Ellen ap Gwynn, wedi iddi hi benderfynu peidio ag ymgeisio yn yr etholiadau lleol ddechrau'r mis.

Yn dilyn y bleidlais, fe wnaeth y Cynghorydd Davies ddiolch i aelodau am eu cefnogaeth.

"Dwi'n addo gwneud fy ngorau dros Geredigion a phobl Ceredigion," meddai.

"Mae'n mynd i fod yn adeg anodd... ry'n ni wedi colli llawer o brofiad o'r pleidiau ond mae'n braf gweld gwaed newydd. Mae gennym ni ystod eang o bobl ac ystod eang o oedran a thalent.

"Rwy'n croesawu'r ffaith fod 'na fwy o fenywod. Dyw e ddim yn ddigon dwi ddim yn meddwl ond ry'n ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir".

Plaid Cymru yw'r grŵp mwyaf ar y cyngor gydag 20 o aelodau. Mae gan y grŵp annibynnol 10 aelod a'r Democratiaid Rhyddfrydol saith. Dyw un o'r cynghorwyr ddim yn aelod o grŵp.