Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: Teimlad o falchder mawr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ellen ap Gwynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellen ap Gwynn wedi bod yn Arweinydd Cyngor Ceredigion ers 2012

Yng nghanol cyfnodau gwaethaf y pandemig, roedd Ceredigion yn cael ei hystyried fel sir oedd yn arwain y ffordd wrth geisio cadw'r clefyd draw.

Gyda chyfraddau Covid-19 ar eu hisaf drwy Gymru, a nifer isel cymharol o farwolaethau hefyd, roedd yna glod mawr i'r cynllun profi ac olrhain cafodd ei ddatblygu yn fewnol.

A hithau ar fin ymddeol o'i gwaith fel arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, mae'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn dweud bod staff y cyngor wedi "gwneud gwaith anhygoel yn ystod y cyfnod anodd yna".

Ychwanegodd Ellen ap Gwynn wrth raglen Newyddion S4C: "Mae yna dipyn o bobl allan yn y gymuned falle sydd ddim yn gweld hi cweit yn yr un modd, ond dwi'n meddwl eu bod nhw i gyd yn haeddu cael eu canmol am y gwaith aruthrol 'naethon nhw yn ystod y pandemig."

Gyda rhagor o gyfrifoldeb wedi'i roi ar awdurdodau lleol yn sgil heriau Covid-19, mae Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion bellach yn credu bod rôl cynghorau Cymru wedi'i chryfhau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Unwaith ddoth y pandemig ar ein traws ni, roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru eisiau cydweithio. Ro'n nhw'n sylweddoli na allen nhw reoli'r pandemig o Gaerdydd.

"Roedd rhaid iddyn nhw gael y gwasanaethau oedd llywodraeth leol yn gyfrifol amdanyn nhw - felly mae hwnna wedi neud gwahaniaeth," meddai.

Dros gyfnod o 10 mlynedd wrth y llyw, mae Ellen ap Gwynn wedi wynebu heriau sylweddol, o orfod delio gydag effeithiau stormydd digynsail i dderbyn toriadau sylweddol i gyllid y pwrs cyhoeddus.

Nawr, mae'n ymwybodol o'r pwysau fydd ar drigolion Ceredigion a thu hwnt wrth i gostau byw gynyddu. Mae cwmnïau bysys eisoes, meddai, wedi bod yn cysylltu yn poeni am y cynnydd ym mhrisiau tanwydd.

"Da ni wedi cael cysylltiadau gyda'r cwmnïau bysys ac wrth gwrs gan y cwmnïau sy'n ein helpu ni waredu gwastraff hefyd. Mae'r holl beth yn pwyso arnyn nhw. Mae 'na lythyr wedi mynd [at Lywodraeth Cymru] oddi wrtha' i a fy nghyd aelod cabinet yn tynnu sylw at y gwasgfeydd 'ma.

"Mae'r holl system yn ddibynnol arnom ni'n cael y gwasanaethau 'ma. Wedyn mae 'na wasgfeydd o bob cyfeiriad."

'Parod i ddweud fy marn'

Gan gymryd swydd Arweinydd y Cyngor 'nôl yn 2012, Ellen ap Gwynn oedd y ferch gyntaf erioed i arwain y cyngor yng Ngheredigion. Mae'n falch iddi fraenaru'r tir, ac yn gobeithio y bydd rhagor o ferched yn cael eu denu i'r byd yn ystod y blynyddoedd nesaf.

"Pan ddechreuais i, dwy ohonom ni oedd yn arwain cynghorau, wedyn aeth o lawr i un. Fi oedd yr unig un am gyfnod ac wedyn ar ôl yr etholiad diwethaf, mae 'na ryw hanner dwsin ohono' ni a dwi'n hynod falch o hynny."

Dyw'r arweinydd, serch hynny, ddim yn credu bod y ffaith iddi fod yn y lleiafrif ac fel yr unig ferch ar adegau wedi effeithio ar ei gwaith.

"Dwi'n credu fy mod i yn y genhedlaeth lle roedd merched yn y lleiafrif lle bynnag o' ni. Felly doedd e ddim yn fy mhoeni i'n ormodol. Dwi'n credu fy mod i wastad wedi bod yn ddigon parod i ddweud fy marn!"

Ar ôl 10 mlynedd felly yn arwain Cyngor Ceredigion trwy gyfnodau heriol iawn, mae Ellen ap Gwynn yn edrych ymlaen at gael ymlacio rywfaint cyn ystyried ei dyfodol.

"Dwi wedi cael ambell i gynnig, ond dim byd llawn amser. Unrhyw beth fyddai'n mwynhau 'neud byddai'n ei dderbyn siŵr o fod!"

Pynciau cysylltiedig