Ffilm am ffermwr o Gymru yn cyrraedd gŵyl ryngwladol
- Cyhoeddwyd
Bydd ffilm ddogfen bwerus am fywyd bugail o Geredigion yn cael ei dangos yng ngŵyl ffilmiau Tribeca yn Efrog Newydd fis nesaf.
Mae Heart Valley yn dilyn diwrnod ym mywyd Wilf Davies, 73, sydd yn cadw rhyw 70 o ddefaid ar ei fferm yng Nghellan ger Llanbedr Pont Steffan, ac wedi curo 7,000 o ffilmiau eraill i ennill ei lle yn yr ŵyl ffilm enwog.
Wedi ei ffilmio a'i golygu gan y cyfarwyddwr Christian Cargill, mae Heart Valley yn darlunio bywyd syml Wilf a'i ymroddiad i'w braidd.
Prin mae Wilf wedi gadael Dyffryn Teifi yn ystod ei fywyd.
Mae'n byw bywyd digon cyntefig, ac yn bwyta'r un pryd bwyd bob nos o winwns, ffa pob, pysgod ac ŵy wedi'i ffrio.
Newidiadau cymunedol
Yn ystod y ffilm, mae'n trafod effaith mewnfudo ar ei gymuned, a'r cynlluniau i blannu coed ar ffermydd yn yr ardal. Mae'n sôn hefyd am ei frwydr i ddod 'nôl i ffermio ar ôl cael strôc.
Fe sefydlwyd Gŵyl Ffilmiau Tribeca gan Robert de Niro, Jane Rosenthal a Craig Hatkoff yn 2002 fel ffordd o adfywio Manhattan Isaf yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn 2001.
Fe ysbrydolwyd y cyfarwyddwr, Christian Cargill, ar ôl iddo weld erthygl am Wilf ym mhapur newydd y Guardian.
"Fe wnes i gynnig y syniad am ffilm iddo tra iddo fwyta ei ginio yn y fan. Dywedais i wrtho fy mod i yn credu ei fod e'n berson rhyfeddol i ganoli ffilm o gwmpas," meddai.
"Roedd e'n teimlo'n wylaidd iawn, ac ar ôl tamed fe ddywedodd, mae hynny yn swnio yn iawn. Mae yna lonyddwch ac arafwch i'w fywyd, ac rwy'n credu fod hi'n bwysig ein bod ni wedi ail-greu hynny yn y ffilm, oherwydd dyna mae pobl yn dyheu amdano.
"Mae un o rinweddau arbennig Wilf. Cymryd ei amser, a gwerthfawrogi'r llonyddwch a'r tir o'i gwmpas."
Yn ôl Christian, bydd ffordd o fyw Wilf yn taro tant gyda phobl ar ôl y pandemig.
"Mae'n hollol ddigyswllt. Does ganddo fe ddim ffilm na'r we.
"Mae'n byw bywyd sydd bron yn Fictorianaidd. Pan oedd pobl yn gaeth yn eu cartrefi a'u fflatiau, roedd pawb yn dyheu i gael dianc a chael lle.
"Mae Wilf yn llwyddo i wireddu hynny bob dydd ac mae'n gwerthfawrogi bob munud. Mae'n teimlo gymaint o ddiolchgarwch am ei fywyd, a'i fod e'n cael bod yn rhydd mewn cae bob dydd.
"Dwi'n meddwl bydd y ffilm yn taro tant gyda phobl sydd wedi teimlo'n gaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf."
Cynrychiolaeth o Gymru ar y sgrin
Fe fydd pedwar o fyfyrwyr yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd yn mynychu'r ŵyl, yng nghwmni dau o ddarlithwyr yr adran.
Dywedodd Dr Kate Woodward, darlithydd yn yr adran: "Mae hi'n ffilm reit fer, tua 20 munud o hyd. Mae'n deillio o erthygl yn y Guardian ynglŷn â ffermwr sydd yn byw bywyd reit ynysig.
"Dwi'n meddwl beth mae'r ffilm yn dangos yw bod rhywbeth lleol a phenodol iawn sydd wedi gwreiddio yn ddaearyddol mewn un lle, bod yna elfennau oesol i hynny.
"Elfennau sydd yn gallu trosgynnu ffiniau daearyddol a diwylliannol. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn gweld cynrychiolaeth o Gymru ar y sgrin."
'Agor eu llygaid'
Mae yna berthynas agos rhwng yr Ŵyl Ffilm a'r Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, yn ôl Dr Woodward.
"Ni mor ffodus fel adran i gael perthynas unigryw gyda Gŵyl Ffilm Tribeca," meddai.
"Mae gennym ni rywun sydd yn raddedig o'r adran hon, sef Ben Thompson, wnaeth raddio rai blynyddoedd yn ôl, sydd erbyn hyn yn rhaglennu'r ffilmiau byrion ar gyfer Tribeca.
"Trwy ei garedigrwydd ef a'i angerdd a'i gariad at Gymru, ni'n ddigon ffodus i allu mynd â phedwar o fyfyrwyr a dau aelod o staff allan i Efrog Newydd.
"Mae'r daith hefyd yn cael ei chefnogi gan Gronfa Aber - cronfa sydd yn cael ei chefnogi gan gyn-fyfyrwyr eraill.
"Mae'n agor eu llygaid nhw at fyd gwahanol ac yn achosi iddyn nhw fynd o weld eu hunain fel myfyrwyr i weld eu hunain fel cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr.
"Mae'n newid eu bywydau nhw i fedru gweld rhai o sêr mwyaf Hollywood - pobl fel Robert de Niro, Al Pacino, Jennifer Lawrence, Werner Herzog."
'Mor gyffrous'
Mae Molly Clark, sydd yn yr ail flwyddyn, yn un o'r myfyrwyr fydd yn cael mynd.
"Mae e mor gyffrous. Dwi ddim yn gallu dweud mewn geiriau pam mor gyffrous ydw i.
"Mae'n gyfle anhygoel i siarad gyda phobl sydd wedi gweithio mewn ffilm ac sydd wedi gwneud e yn yr industry. Mae'n anhygoel i gael y cyfle i fynd."
Mae Tom Bow yn y drydedd flwyddyn: "Rwy'n teimlo yn angerddol am sinematograffi.
"Mae gallu mynd i ŵyl ble mae pawb yn trafod y pwnc yn gyfle arbennig."
Yn ôl Christian Cargill mae Wilf yn "dawel fodlon" bod y ffilm wedi cael ei dewis ar gyfer gŵyl Tribeca, ac fe glywodd am y newyddion yn ystod tymor wyna.
"Roedd e'n eitha' emosiynol, fe fuodd yn crio, ac wedyn fe fuon ni yn chwerthin gyda'n gilydd, ac yna fe aeth yn ôl i'w waith," meddai.
"Dwi'n credu ei fod e'n gwerthfawrogi fod pobl yn cymryd diddordeb yn ei fywyd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ffilm yn deyrnged addas iddo ryw ddydd - yn ddarlun o berson arbennig."
Fe fydd Gŵyl Ffilm Tribeca yn dechrau yn Efrog Newydd ar 8 Mehefin ac yn para tan 19 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022