Rhyddhau mwy o docynnau Sesiwn Fawr Dolgellau i ateb y galw

  • Cyhoeddwyd
Sesiwn Fawr Dolgellau 2019Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn dychwelyd eleni gyda dathliad o ben-blwydd yr ŵyl yn 30

Wrth i un o ddigwyddiadau mwyaf y byd cerddoriaeth yng Nghymru ddathlu ei ben-blwydd yn 30, mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi y bydd mwy o docynnau ar gael i ateb y galw.

Ar ôl i docynnau'r penwythnos "werthu allan ynghynt nag erioed", bydd tocynnau ychwanegol ar gael ar gyfer gigs y Clwb Rygbi a chyngerdd ar y nos Sul.

Bydd prif safle'r ŵyl - sydd wedi ei chynnal mewn sawl lleoliad o amgylch y dref ers ei sefydlu yn 1992 - yng nghefn Gwesty'r Ship eleni.

Ond, dros y penwythnos, bydd perfformiadau gan 54 o fandiau ar draws naw llwyfan gwahanol rhwng 15-17 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bwncath ymysg y perfformwyr yn Sesiwn Fawr eleni

Ymhlith y gymysgedd o gerddoriaeth gwerin, roc a byd, bydd amrywiaeth o adloniant - o'r Welsh Whisperer i Bethan Gwanas a Hywel Pitts.

Bydd perfformiadau hefyd gan artistiaid fel Eädyth, Mellt, Tara Bandito, Swnami a Bwncath.

Bydd hi'n ŵyl mwy o faint eleni gyda rhagor o adloniant newydd yn cael ei gynnig fel sesiynau llên, comedi a gweithgareddau y 'Pentre Plant'.

Carreg filltir arbennig

Mae Guto Dafydd, Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau, yn edrych ymlaen i'r wŷl ail-gydio wedi dwy flynedd o wŷl rithiol.

Ychwanegodd: "Mae hi wedi bod yn bleser sicrhau lein-yp cryf er mwyn dathlu'r garreg filltir arbennig o 30 mlynedd ers sefydlu'r Sesiwn Fawr!"

Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynulleidfa niferus yn y Sesiwn Fawr ddiwethaf yn 2019

Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu o gefn Gwesty'r Ship yn ystod yr ŵyl, gyda blas o'r uchafbwyntiau ar gael mewn rhaglen arbennig ar S4C.

Dywedodd comisiynydd adloniant a cherddoriaeth S4C, Elen Rhys, ei bod yn "fraint cael dathlu'r 30 ar draws ein llwyfannau gan roi blas o'r Ŵyl arbennig a hanesyddol hon i'n gwylwyr.

Mae'r amserlen lawn bellach ar gael ar wefan Sesiwn Fawr Dolgellau, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig