Huw Fash: 'Do'n i ddim yn ffitio mewn gyda neb'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

RHYBUDD: Disgrifiad o fwlio homoffobaidd. Huw Rees yn siarad gyda Iwan Griffiths ar Bore Sul BBC Radio Cymru.

Mae'r arbenigwr ffasiwn Huw Rees yn disgrifio'i blentyndod fel un syml iawn. O bentref Glanaman, un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ar y pryd, roedd traddodiad y capel a chefndir diwydiannol y pyllau glo yn elfennau amlwg o'i fagwraeth.

"Roedd 'da fi mam a tad cariadus dros ben, chwaer 'wy'n meddwl y byd ohoni, a lot o ffrindiau teuluol, a roedd hynny'n beth mawr yn y cwm gyda ni," meddai'r cyflwynydd a'r steilydd teledu.

Er y gefnogaeth deuluol, mae Huw yn cofio nôl i'w ddyddiau yn yr ysgol uwchradd fel cyfnod anodd iawn.

"'Do'n i ddim yn ffitio mewn, gyda neb. A meddwl nôl, es i drwy gyfnod unig iawn," meddai.

"Odd e'n gyfnod lle o' chi fyth yn gallu bod yn wahanol, os o' chi'n wahanol, o' chi'n od. Felly ges i gyfnod o fwlio ofnadwy yn yr ysgol."

Llundain a bod yn agored hoyw

Un o ddyddiau hapusaf ei fywyd meddai yw'r diwrnod pan ddechreuodd yng Ngholeg Celf Caerfyrddin, a sylweddoli yn sydyn bod 'na bobl eraill yn debyg iawn iddo; pobl greadigol, a phobl oedd yr Huw Rees ifanc yn gallu uniaethu â nhw.

Erbyn iddo symud i'r brifysgol yn Llundain, roedd Huw yn byw ei fywyd fel dyn hoyw agored, ond mae'n esbonio nad oedd hynny yn fater oedd wedi ei drafod o gwbl yn ystod ei ddyddiau cynnar: "'Do'n i erioed wedi clywed am bobl hoyw pan o'n i yn yr ysgol.

Ffynhonnell y llun, Huw Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw 'Fash' Rees yn gyflwynydd ac yn steilydd ar raglenni Prynhawn Da a Heno ar S4C ers dros 20 mlynedd

"Ro'n i jest yn gwybod nag o'n i mo'yn perthynas gyda merched o gwbl. A dwi 'di siarad gyda lot o bobl sy'n dweud yr un peth."

 Huw ymlaen i esbonio nad yw'n un sydd erioed wedi bod yn llafar ynglŷn â bod yn rhan o'r gymuned LHDTC+.

Er ei fod yn gefnogol i'r ymgyrchoedd hynny, 'dyw e ddim yn teimlo'r angen i esbonio'i rywioldeb yn gyhoeddus.

"Naill ai chi'n hoffi fi, neu chi ddim. Fi'n siŵr fel Marmite, mae lot o bobl yn lico lot o Huw Fash yn y bore, mae lot o bobl sydd ddim yn mynd i'n licio i o gwbl."

Cefnogaeth rhieni

Mewn cymuned Gymreig, agos, yn y 1970au, beth felly oedd ymateb y gymdeithas i'r bachgen "gwahanol" a chreadigol hwn?

Mae Huw yn mynnu mai'r peth pwysicaf iddo fe'n bersonol ar y pryd, oedd cefnogaeth ei rieni.

"Ro'n nhw'n hollol hollol fabulous," meddai.

"Gan gofio bod fy nhad wedi gorfod mynd i'r gwaith glo yn bedair ar ddeg i edrych ar ôl ei fam-gu a'i hen fodryb oedd wedi ei godi e, wedi colli ei fam o TB, yn gweithio yn syth o'r ysgol gyda'r hen fois dan ddaear, roedd fy nhad yn greadigol iawn.

"Popeth o'n i'n 'neud, roedd e yna i nghefnogi i. Oedd llygad gwych gydag e am gynllun hefyd, falle jest wedi cael ei eni yn y lle anghywir ar yr amser anghywir."

O 'greulondeb' yn yr ysgol i ddarganfod ei ddawn yn y coleg

Er y berthynas hyfryd oedd gan Huw a'i rieni, roedd ymddygiad unigolion yn yr ysgol yn greulon iawn yn ystod y cyfnod hwnnw.

"Roedd creulondeb yn yr ysgol yn ofnadwy," meddai ac roedd pobl yn galw enwau arno yn gyson ac yn ei fwlio.

O Goleg Celf Caerfyrddin, aeth Huw Rees ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Ravensbourne cyn cael lle yn y sefydliad nodedig, Coleg Celf Brenhinol Llundain.

Roedd ei ddawn fel dylunydd ac arbenigwr ffasiwn yn dechrau dod yn amlwg, er nad oedd ffasiwn yn llwybr yr oedd Huw yn bwriadu ei throedio.

Ffynhonnell y llun, Huw rees
Disgrifiad o’r llun,

Doedd neb, gan gynnwys Huw ei hun, wedi rhagweld y byddai ganddo ddawn naturiol yn y byd ffasiwn

"Fydden i fyth wedi dweud nôl bryd hynny fod Huw Fash yn mynd i 'neud ffasiwn. Do'n i ddim yn berson ffasiynol. Mae pwysau wedi chwarae rhan yn hynny, dwi wastad wedi bod dros bwysau.

'Cuddio' tu ôl i fwyd

"Mae lot o hynny, ar ôl edrych nôl a siarad ag ambell i seicolegydd, wedi deillio o'r ffaith fy mod i wedi cael fy mwlio gymaint a thrio cuddio fy hunan gymaint, ro'n i'n cuddio tu cefn i fwyd.

"Ar ôl cyfnod hapus, ro'n i'n dathlu wrth gael rhywbeth i fwyta. Os oedd hi'n gyfnod pan o'n i'n isel iawn, ddim ishe gadael y tŷ, beth chi'n neud yw chi'n bwyta.

"Felly ro'n i dros bwyse ac yn methu gwisgo'r pethe ffasiynol. Ond fe ddethon ni at y rhan yna o'r cwrs lle chi'n arbenigo am gyfnod o chwe wythnos; ac er syndod i bawb, gan gynnwys fi, ro'n i jest yn gallu cynllunio dillad."

Wedi cyfnod yn Llundain a'r Eidal, nôl ddaeth Huw Rees gan adeiladu gyrfa i'w hun fel arbenigwr ffasiwn S4C ar raglenni cylchgrawn fel Heno , dolen allanola Prynhawn Da, dolen allanol.

Ers tua 30 o flynyddoedd, mae'r crwt o Lanaman wedi defnyddio'i ddawn o gyfathrebu'n hawdd gyda'i gynulleidfa, i rannu ei brofiad, a'i wybodaeth.

"Fi jest yn dwlu ar y gwaith," meddai.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda rhai o gyflwynwyr eraill Prynhawn Da - Dafydd Wyn, Siân Thomas a Rhodri Owen

"Fi'n ffodus iawn o gael gwneud rhywbeth dwi wir yn ei fwynhau. Mae'r gwaith yn newid o hyd. Mae'r modelau yn newid, mae'r dillad yn newid, mae'r steils yn newid."

Ond yr hyn sy'n sefyll mas yn fwy na dim ar ôl trafod yn helaeth am fywyd Huw Fash, yw pa mor ganolog yw y teulu.

Wrth edrych i'r dyfodol, y bwriad meddai yw parhau i weithio tra bod y gynulleidfa yn barod i wylio ac i wrando. Gan sicrhau yng nghanol hynny, bod 'na le i fwynhau yng nghwmni y bobl hynny sydd agosaf ato.

"Pwrpas popeth yw'r teulu. Mae'n fam dal yn fyw, mae galw i weld fy mam yn bwysig iawn. Gallai fyth dychmygu ddim byw'n ddigon agos i alw i weld fy mam.

"Ers cael Gruff y ci, mae'n swnio'n rhyfedd, ond mae mynd i weld bedd fy nhad yn bwysig. Fi'n mynd yn wythnosol i'r bedd a mae'r ci yn cael wâc i ben y mynydd a dwi'n cael dodi blodau ar y bedd. Mae'n chwaer yn byw yn lleol, ac wrth gwrs mae pawb yn gwybod mai Sam fy nai yw'r peth pwysicaf yn fy mywyd i, a mae fe erbyn hyn yn gyfrifydd ar Siop Huw Rees Brides. Sydd yn grêt."

Roedd Huw Fash yn siarad ar raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru. I wrando ar y sgwrs yn ei chyfanrwyddcliciwch yma.

Pynciau cysylltiedig