20 o draethau Cymru'n colli statws y Faner Las

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth yn union ydy statws Baner Las? Richard Thomas o Cadwch Gymru'n Daclus fu'n egluro

Bydd y Faner Las, sy'n gwobrwyo ansawdd eu dŵr a'u diogelwch, yn hedfan uwchben 20 yn llai o draethau Cymru na'r llynedd.

Sefydlwyd cynllun y faner yng Nghymru yn 1988, ac i'w hennill mae'n rhaid cynnal safonau ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, rheolaeth a gwasanaethau.

Ond tra llwyddodd 50 o draethau i sicrhau'r faner yn 2017, erbyn hyn mae'r ffigwr ar draws Cymru wedi haneru bron i 25.

Bellach, nid oes yr un Faner Las yn hedfan ar Ynys Môn, Gwynedd na Chonwy.

Ffynhonnell y llun, CADWCH CYMRU'N DACLUS
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 25 traeth yng Nghymru sydd wedi sicrhau dynodiad Baner Las ar gyfer 2022, o'i gymharu â 45 y llynedd

Ond o'r rheiny roddodd gais i mewn, ni wnaeth yr un fethu â chyrraedd y safonau amgylcheddol gofynnol.

Yn hytrach dywedodd Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n gweinyddu'r cynllun rhyngwladol yng Nghymru, bod y gweithgor rhyngwladol wedi sefydlu gofyniadau ychwanegol ynglŷn ag asesiadau risg.

Y gobaith, medden nhw, yw ailsefydlu'r Baneri Glas yn y traethau yna maes o law.

'Cofiwch greu atgofion, nid llanast'

Y llynedd sicrhaodd 45 o draethau'r Faner Las, gan gynnwys rhai yn siroedd Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Penfro, Gwynedd, Abertawe a Bro Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Dinas Dinlle yng Ngwynedd ymysg y rheiny sydd wedi colli eu dynodiad Baner Las ar gyfer 2022

Ond gydag ond 25 traeth neu farina wedi sicrhau un ar gyfer eleni, mae'n golygu fod y chwe thraeth yr un ar Ynys Môn a Gwynedd, yn ogystal â'r pedwar yng Nghonwy, wedi colli eu statws ar gyfer 2022.

Er hyn mae Lesley Jones, prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, yn croesawu'r ffaith bod 25 o draethau wedi bod yn llwyddiannus.

"Rydym yn lwcus bod gennym rai o draethau a marinas gorau'r byd ar ein stepen drws," dywedodd.

"Mae'r llwyddiant yn dyst i bawb sydd wedi gweithio mor galed i ddiogelu a gwella ein traethau a chadw ein harfordir yn lân ac yn ddiogel.

"Ein gobaith yw y bydd pawb sy'n ymweld â'n harfordir trawiadol yn mwynhau ac yn trysori ein traethau yn gyfrifol. Cofiwch greu atgofion, nid llanast ac ewch â'ch sbwriel gartref gyda chi."

Cyrraedd safonau amgylcheddol

Yn ôl Cadwch Gymru'n Daclus, mae gofyniadau'r rheithgor rhyngwladol wedi'u tynhau mewn rhai meysydd ar gyfer eleni.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn falch o ddweud bod yr holl draethau sydd wedi gwneud cais wedi cyrraedd y safonau amgylcheddol gofynnol.

"Fodd bynnag, mae gan y rheithgor rhyngwladol ofyniad ychwanegol ynglŷn ag asesiadau risg, ac rydym yn gweithio ar hyn gyda rheolwyr 17 o draethau pellach.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu cyhoeddiadau pellach maes o law."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Traeth Llanddwyn ger Niwbwrch yn un o chwe thraeth ar Ynys Môn i golli eu statws Baner Las

O ran traethau sy'n gymwys am y Wobr Glan Môr - sef ansawdd y dŵr ymdrochi - sicrhawyd 23 o'i gymharu gyda 25 yn 2021.

Llwyddodd 13 arall i sicrhau Gwobr Arfordir Glas, yr un ffigwr â'r llynedd, sy'n cydnabod y 'trysorau cudd' ar hyd ein harfordir.

'Traethau'n parhau ymhlith y gorau'

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd cynghorau Môn, Gwynedd a Chonwy y byddan nhw'n gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i gytuno ar "ffordd addas ymlaen".

"Rydym yn falch bod yr holl draethau yn ein siroedd sydd wedi'u henwebu ar gyfer y Faner Las yn parhau i gyrraedd y safonau amgylcheddol angenrheidiol sy'n gysylltiedig â'r wobr fawreddog yma," medd y datganiad.

Ffynhonnell y llun, Richard Hoare/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Pen Morfa, Llandudno oedd un o bedwar traeth yn Sir Conwy i fethu â chyrraedd y safon ar gyfer eleni

"Mae gan y rheithgor rhyngwladol ar gyfer dyfarnu'r Faner Las ofyniad ychwanegol newydd o ran asesiadau risg, fodd bynnag.

"Byddwn yn parhau i gydweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus er mwyn ddeall y gofyniad newydd yma'n llawn a darganfod ffordd addas ymlaen."

"Hoffwn bwysleisio bod ein traethau'n parhau ymhlith y gorau yng Nghymru ac y byddent yn denu miloedd o ymwelwyr unwaith eto yn ystod yr haf yma."

Traethau sy'n colli'r statws Baner Las ar gyfer 2022

Môn: Benllech, Porth Swtan, Llanddwyn, Llanddona, Bae Trearddur, Porth Dafarch

Gwynedd: Y Bermo, Abersoch, Dinas Dinlle, Morfa Bychan, Pwllheli, Aberdaron

Conwy: Llandudno Pen Morfa, Llanfairfechan, Rhos (Bae Colwyn), Porth Eirias

Ceredigion: Gogledd Aberystwyth, Harbwr Cei Newydd

Penfro: Gogledd Dinbych-y-Pysgod, Lydstep