Syr Robin Williams yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Syr Robin WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Syr Robin Williams oedd cadeirydd bwrdd wnaeth lunio adroddiad ar ddysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru

Gwyddonydd ffiseg sy'n wreiddiol o Lanuwchllyn yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd Syr Robin Williams yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth.

Mae'r ffisegydd yn awdurdod ym maes lled-ddargludyddion (semiconductors), ac mae ei ymchwil wedi bod yn ganolog yn natblygiad electroneg ddigidol a'r newidiadau ym myd cyfrifyddiaeth a chyfathrebu.

Datblygodd ddulliau newydd i astudio lled-ddargludyddion, ac ef oedd un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio ymbelydredd syncrotron i astudio wyneb solidau, a bu'n cydweithio gyda nifer o gwmnïau ar draws y byd.

Wedi'i eni ar fferm fynyddig yn Llanuwchllyn, cafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac yn Y Bala cyn mynd i Brifysgol Bangor lle y graddiodd mewn ffiseg.

Wedi gorffen ei ddoethuriaeth bu'n gweithio yn Iwerddon, gyda chyfnodau yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen, cyn dychwelyd i Gymru fel pennaeth yr adran Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Addysg Gymraeg

Wedi cyfnod fel is-bennaeth Prifysgol Caerdydd cafodd ei benodi'n bennaeth Prifysgol Abertawe.

Yn 2010, ar ran Llywodraeth Cymru, fe gadeiriodd y bwrdd i roi ystyriaeth i ddysgu drwy'r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru.

Arweiniodd ei adroddiad at sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Syr Robin wedi bod yn cynghori llywodraethau'r DU a Chymru ar agweddau o wyddoniaeth ac mae'n gyn-gadeirydd Pwyllgor Cynghori Gwyddoniaeth Cymru.

Mae'n gymrawd gwreiddiol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, cafodd ei wneud yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1990, a'i apwyntio yn farchog yn 2019.