Diwedd cyfnod Llais Gwynedd mewn llywodraeth leol?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Logo Llais Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Llais Gwynedd i'r amlwg yn 2008 drwy ennill 12 sedd ar Gyngor Gwynedd ac amddifadu Plaid Cymru o fwyafrif ar yr awdurdod

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn ystod y penwythnos i drafod dyfodol plaid wleidyddol a sefydlwyd i wrthwynebu cau rhai o ysgolion gwledig Gwynedd.

Fe ddaeth Llais Gwynedd i'r amlwg yn 2008 gan ennill 12 sedd ar Gyngor Gwynedd ac amddifadu Plaid Cymru o fwyafrif ar yr awdurdod, dolen allanol.

Yn yr etholiadau hynny fe gollodd rhai o hoelion wyth Plaid Cymru eu seddi i ymgeiswyr o'r blaid newydd hon, gan gynnwys Dafydd Iwan a chyn-arweinydd y sir, Richard Parry Hughes.

Bellach nid oes grŵp o gynghorwyr Llais Gwynedd yn eistedd o dan liwiau'r blaid ar Gyngor Gwynedd.

Er i bedwar aelod o Lais Gwynedd lwyddo gael eu hailethol yn yr etholiadau lleol diweddar, maent wedi penderfynu eistedd gyda grŵp cynghorwyr annibynnol y sir.

Methiant i gofrestru

Yn yr etholiadau lleol diweddar doedd gan Lais Gwynedd yr un ymgeisydd swyddogol, er i'r blaid ennill chwech o'r 75 sedd yn etholiadau 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cau ysgolion yn daten boeth pan ddaeth Llais Gwynedd i'r amlwg yn etholiadau lleol 2008

Yn etholiadau Mai 2022 roedd 11 ymgeisydd ar gyfer Cyngor Gwynedd wedi'u cofrestru ar y papurau pleidleisio fel aelodau o'r blaid, er nad yn sefyll yn swyddogol o dan enw Llais Gwynedd.

Ar y pryd rhoddodd Llais Gwynedd y bai ar Covid gan ddweud eu bod wedi methu â chofrestru'r blaid yn swyddogol mewn pryd.

Ond mae arweinydd grŵp annibynnol Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod yr holl aelodau a berthynai i Lais Gwynedd gynt wedi ymuno gyda'i grŵp hi.

'Bydd na ddyfodol i'r blaid'

Dywedodd sylfaenydd ac arweinydd Llais Gwynedd y bydd cyfarfod mewnol yn digwydd dros y penwythnos i drafod tynged y blaid.

Yn ôl Owain Williams, a benderfynodd beidio sefyll fel cynghorydd dros ward Clynnog, roedd y methiant i gofrestru'r blaid mewn pryd wedi gadael yr aelodau gyda "fawr o ddewis."

Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Owain Williams i beidio sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Cyngor Gwynedd yn etholiadau 2022

"Bydd cyfarfod arbennig o blaid Llais Gwynedd nos Sul yma i drafod y dyfodol, ond fy marn i ydi bydd na ddyfodol i'r blaid yng Ngwynedd," dywedodd wrth Cymru Fyw.

"Da ni ddim isho ond un blaid yn rheoli yng Ngwynedd ac mae'n bwysig fod ganddom wrthblaid Gymraeg a Chymreig.

"Roedd gynnon 12 aelod ar yr un pryd a roeddem yn dyngedfennol yn rhwystro Cyngor Gwynedd rhag ffedereiddio a chau hyd at 55 o ysgolion, os fysa ni ddim yn bodoli yna dwi'n siŵr fydda hi wedi bod yn sefyllfa wahanol."

'Rhaid i ni ailystyried gwerth Llais Gwynedd'

Er i rai aelodau lwyddo i gael eu hailethol, yn ogystal ag Owain Williams fe gollodd rhai o hoelion wyth y blaid eu seddi ar y cyngor gan gynnwys Aeron Maldwyn Jones yn ward newydd Tryfan ac Alwyn Gruffydd yn ward Glaslyn - y ddau yn colli eu seddi i aelodau Plaid Cymru.

Gyda Phlaid Cymru yn llwyddo i gynyddu'i mwyafrif ar y cyngor, dywedodd Alwyn Gruffydd ar ddiwrnod y cyfrif: "Mae hi di bod yn ymgyrch eilradd i ddweud y gwir... ddim yn tanio fel yr oeddan ni, am resymau ella tydi materion ysgolion ddim yn flaenau meddyliau pobl.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BBC Cymru Fyw

"Daeth llwyddiant i Lais Gwynedd oherwydd ein safiad ni dros ysgolion bach gwledig, a gan nad ydi hynny'n bod bellach - neu dydi'r un bygythiad ddim yn bod bellach - ella fod rhaid i ni ailystyried gwerth Llais Gwynedd fel plaid wleidyddol, ond ddim mater i mi fydd hynny rŵan ond mater i'r blaid yn gyffredinol."

'I gyd yn rhan o un grŵp'

Dywedodd Angela Russell, sy'n arwain y grŵp annibynnol ar y cyngor, wrth Cymru Fyw: "Yn amlwg 'da ni'n croesawu'r aelodau oedd gyda Llais Gwynedd gynt.

"Erbyn hyn mae gynnon ni 23 aelod yn y grŵp annibynnol, sy'n golygu ein bod dipyn cryfach o ran niferoedd erbyn hyn, er fod gan Blaid Cymru 44.

"Yndi mae'n biti beth sydd 'di digwydd i Llais Gwynedd, ond mae'n golygu fod yr wrthblaid i gyd bron yn rhan o un grŵp erbyn hyn."