Deor hanner canfed cyw un o weilch Glaslyn

  • Cyhoeddwyd
Cyw diweddaraf Mrs GFfynhonnell y llun, Bywyd Gwyllt Glaslyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu i hanner canfed cyw Mrs G ddeor yng Nghanolfan Glaslyn ddydd Iau

Mae hanner canfed cyw gwalch bridio hynaf Cymru bellach wedi deor.

Wedi dychwelyd i'w nyth fis Mawrth, daeth cadarnhad dydd Iau fod y cyntaf o dri ŵy Mrs G wedi deor, gyda disgwyl i'r gweddill ddilyn yn y man.

Lleolir ei nyth yn Nyffryn Glaslyn, ger Porthmadog, gyda 41 o'i chywion wedi llwyddo i hedfan y nyth ers iddi fridio am y tro cyntaf yn 2004.

Yn ôl Bywyd Gwyllt Glaslyn, sy'n rhedeg y ganolfan, mae'n newyddion "i'w groesawu'n fawr".

Llinach yn cynyddu

Gydag ymdrechion yn mynd rhagddo i ailsefydlu'r boblogaeth o Weilch, mae llinach Mrs G yn tyfu bob dydd.

Y llynedd roedd pump o'i chywion a thri o'i gor-gywion yn bridio mewn mannau eraill yn y DU.

Disgrifiad,

Mae Aran a Mrs G wedi magu 15 o gywion gyda'i gilydd ers 2015

Dywedodd llefarydd ar ran Bywyd Gwyllt Glaslyn: "Mae'r newyddion heddiw i'w groesawu'n fawr yn dilyn tymor dinistriol y llynedd pan gollodd Mrs G a'i phartner Aran eu tri chyw newydd eu deor.

"Anafodd Aran ei adain mewn storm ac o'r herwydd ni allai bysgota a bwydo'r teulu.

"Yn ffodus, fe wnaeth wella dros yr haf a dychwelodd o'i fudo gaeaf i aduno â Mrs G ym mis Ebrill."

Pynciau cysylltiedig