Dinas Diwylliant 2025: Sut mae Coventry wedi elwa?
- Cyhoeddwyd
Carnifal, ceir, celf, cerddoriaeth - wrth gamu i lwyfan Dinas Diwylliant y DU, mae Coventry wedi tynnu ar sawl agwedd o be' mae byw yno yn ei olygu.
Mae'r statws - oedd ar gyfer 2021, ond a gafodd ei ymestyn i 2022 yn sgil y pandemig - wedi galluogi'r ddinas i ddenu digwyddiadau mawr fel cyhoeddiad y Turner Prize a Phenwythnos Mawr y BBC.
Ond mae 'na amheuon ynghylch cyrhaeddiad yr holl ddigwyddiadau gafodd ei drefnu yn ystod y flwyddyn, sy'n dod i ben ddiwedd Mai.
Ar yr un diwrnod - dydd Mawrth - bydd Dinas Diwylliant 2025 yn cael ei chyhoeddi, gyda Wrecsam ymhlith y pedair ardal sydd yn y ras.
Mae'r awdurdodau gan gynnwys Llywodraeth y DU yn pwysleisio buddiannau'r fenter a'r buddsoddiad swmpus mae'n ei ddenu.
Yn achos Coventry, £172m ydy'r ffigwr, ochr yn ochr â £500m yn ychwanegol mewn gwaith adnewyddu ers y cyhoeddiad mai dyma'r ddinas fuddugol.
Ac mae'r arian yn gwneud gwahaniaeth, yn ôl y rheiny sy'n gweithio gyda chymunedau difreintiedig y cylch.
'Partneriaeth anhygoel'
Nod y Positive Youth Foundation ydy rhoi hwb i hyder ac uchelgais pobl ifanc o faestrefi tlawd fel Hillfields.
"Mae'r Ddinas Diwylliant wedi bod yn bartneriaeth anhygoel," meddai Larna Andrews o'r fenter, fu'n helpu cerddorion o'r ardal i drefnu gŵyl eu hunain dan yr enw CVX.
"Un agwedd ydy'r arian ychwanegol i brosiectau oedd ganddon ni'n barod, ac mae wedi ein galluogi ni i gael mynediad a fwy o adnoddau.
"Un peth arall 'dan ni wedi ei ddysgu ydy bod llawer o sefydliadau yn Coventry yn gwneud yr un gwaith, ond bod 'na ddiffyg cydlynu neu gyfathrebu rhwng pawb. Felly mae o wedi gwneud i ni feddwl go iawn am sut y gallwn weithio gyda'n gilydd er budd pobl ifanc."
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod o fudd hefyd i griw bach o gantorion sy'n cynnal Cymreictod yn y ddinas.
Fe berfformiodd Côr Cymraeg Coventry ddwywaith mewn digwyddiadau Dinas Diwylliant ac maen nhw wedi derbyn grant bach i dalu am wisgoedd a hyfforddiant.
"Mae o wedi helpu pobl i werthfawrogi diwylliant Coventry ac mae'n dod â phobl at ei gilydd," meddai Andy Jones, aelod o'r côr sydd wedi ei eni a'i fagu yn y ddinas.
"Dach chi'n gweld neu wrando ar bethau fasech chi ddim wedi eu gweld heb y City of Culture."
'Anodd iawn i ddysgu be' sy'n mynd ymlaen'
Yn ôl arbenigwr byd ar ddinasoedd diwylliant, y risg fwyaf i'r prosiectau enfawr yma ydy bod y trefnwyr ddim yn ystyried beth fydd y gwaddol o'r cychwyn cyntaf.
Mae peidio gwneud hynny yn gallu "hau drwgdybiaeth" yn ôl yr Athro Franco Bianchini o'r Centre for Cultural Value ym Mhrifysgol Leeds.
Yn ei farn o, mae Coventry wedi rhoi llawer mwy o sylw i brosiectau cymunedol na dinasoedd diwylliant y gorffennol - ond mae sawl un o gymuned Gymraeg y ddinas yn teimlo'n bell iawn o'r holl weithgarwch.
"Mae 'di bod yn anodd iawn i ddysgu be' sy'n mynd ymlaen," meddai Wyn Mitchell, un o'r Cymry sy'n cwrdd i roi'r byd yn ei le bob hyn a hyn mewn capel yn ardal Earlsdon.
"Fi'n credu'r un peth â Wyn," meddai Pam Vernon, un arall o'r criw. "Roedd e'n anodd iawn i wybod beth oedd yn mynd 'mlaen.
"Fi'n credu mae'r adeiladau a'r orsaf newydd a phethe' fel 'ny yn dda, ond o'n i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd 'mlaen."
Ond mae eraill yn credu bod y ddinas wedi elwa.
"Dwi meddwl [ei fod wedi bod o fudd] i'r ieuenctid, a dwi'n gobeithio eu bod nhw wedi cael gwaith allan o'r City of Culture 'ma," meddai Ann Thomas, sy'n byw yn y ddinas ers y 1970au.
"Dwi'n meddwl bod canol y dref wedi gwella, mae'n edrych yn fwy neis rŵan… ac yn dod â phobl yn ôl mewn i Coventry - mae pobl yn mynd i Birmingham."
Dywedodd y byddai'n falch o weld Wrecsam yn cipio'r statws ar gyfer 2025, gan fod ei mam yn dod o'r ddinas honno.
Teimlad tebyg oedd gan Bethan Hensman, sydd â chysylltiad teuluol â phentre Mwynglawdd ger Coedpoeth.
"Gobeithio y bydden nhw'n medru dangos mwy am gymunedau pyllau glo o amgylch," meddai. A beth am yr effaith ar Coventry?
"Dwi'n meddwl bod mwy o bobl yn mynd allan i gymryd rhan mewn pethau ar ôl y City of Culture, ond dim gymaint ag oeddwn i'n ei obeithio."
'Ysbryd a balchder y ddinas'
Os mai yng ngwaddol y prosiect mae mesur llwyddiant Dinas Diwylliant, yna bydd rhaid aros am rai blynyddoedd i weld y gwir effaith ar Coventry.
Mae Ms Andrews yn dweud bod ei helusen hi, y Positive Youth Foundation, mewn lle gwell yn sgil buddsoddiad y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl un o arall o Gymry'r cylch, mae 'na newid yn y ffordd mae Coventry'n gweld ei hun, hefyd.
"Mae 'na ddigwyddiadau wedi bod gyda phobl adnabyddus o Coventry yn dod yn ôl i ble gafon nhw eu geni," meddai Dr Siân Foster.
"Ac mae hwnna wedi cyfrannu'n dda i'r teimlad yma o ysbryd a balchder y ddinas.
"Y peth arall rydw i wedi ei weld ydy cymunedau yn dod at ei gilydd, a dwi'n meddwl bod hwnna am barhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd6 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2022