Pum munud gyda Gwyn Siôn Ifan
- Cyhoeddwyd
Mae siop lyfrau Gymraeg y Bala, Awen Meirion, yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant eleni.
Agorwyd y siop bedair blynedd ar ôl i siop Gymraeg gyntaf Cymru, Siop y Pethe, agor ei drysau yn Aberystwyth. Gwyn Siôn Ifan, rheolwr gyfarwyddwr Awen Meirion ers 1990 sy'n ateb cwestiynau Cymru Fyw.
Sonia ychydig amdanat ti dy hun; o le wyt ti'n dod, dy fagwraeth di a sut ddest ti yn reolwr gyfarwyddwr Awen Meirion?
Treuliais fy mlynyddoeed cynnar yr ardal Llangwm, sydd rhwng Y Bala a Cherrigydrudion, cyn symud i Llanelidan yn Sir Ddinbych, ac yna i Drawsfynydd, cyn ymgartrefu yn Y Bala.
Ar ôl gorffen fy addysg yn Ysgol y Berwyn, treuliais ddwy flynedd yn astudio arlwyaeth, ac yna gweithio fel cogydd am saith mlynedd, cyn symud i weithio'n Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug a Wrecsam, ac yno y gwnes fy mhrentisiaeth yn y byd llyfrau. Ar ôl chwe blynedd a hanner, daeth cyfle imi symud yn ôl i'm cynefin, ac i gymeryd swydd rheolwr Awen Meirion.
Sefydlwyd y siop gan gwmni o unigoilion yn 1972, ac ymunais â'r cwmni ganol yr wythdegau, ac yma yr ydw'i ers 32 mlynedd.
Ai hap a damwain oedd cael gyrfa ym mro dy febyd, neu oeddet ti wastad eisiau cyfrannu i'r gymuned dyfaist ti fyny ynddi?
Roeddwn wedi bod yn helpu yn y siop o bryd i'w gilydd, tra'n gweithio fel cogydd, a phryd hynny mae'n siwr y magais ddiddordeb yn y byd llyfrau, ac 'roedd cael cynnig swydd rheolwr yn 1990 yn gyfle da imi ddychwelyd i fro fy mebyd a rhoi fy mhrofiadau blaenorol ar waith, ac i gyfrannu ymhellach i weithgareddau'r ardal.
Hwyrach mai symud i ffwrdd i ddod yn ôl, oedd y syniad o'r cychwyn cynta' - does wybod.
Pa lyfrau sydd wedi gwerthu orau yn ystod dy gyfnod di gyda Awen Meirion?
Dwi'n siŵr mai hunagofiant Dai Jones Llanilar, Fi Dai Sy' 'Ma, fyddai ar dop rhestr gwerthwyr gorau pob siop lyfrau Cymraeg yng Nghymru, ac yn fwy diweddar cafwyd gwerthiant anhygoel i Llyfr Glas Nebo, gan Manon Steffan Ros, a 100 Cymru, Dewi Prysor.
Wrth gwrs mae cyfrolau'r Fedal Ryddiaith a Gwobr goffa Daniel Owen, bob amser yn gwerthu'n dda.
Rydym yn gweithio'n agos â'r awdures byd-enwog Clare Mackintosh, sy'n ysgrifennu yn y Saesneg, a sydd bellach wedi ymgartrefu yn Y Bala.
Mae wedi gwerthu miliynau o gopïau o'i gwaith ar hyd y blynyddoedd, ac rydym fel siop yn gyfrifol am ddanfon cannoedd o archebion o'i nofelau i bedwar ban byd, ac eleni bydd yn cyhoeddi ei chweched nofel, un a fydd oll wedi'i lleoli yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn profi llwyddiant mawr dwy gyfrol sy'n denu diddordeb cenedlaethol, sef Dan (Puw) a Mair(Penri), dan olygyddiaeth Gwen Edwards, a Breuddwyd Syr Ifan, dan olygyddiaeth Penri Jones.
Y naill a'r llall yn deyrngedau i rai wnaeth cymaint dros Benllyn, a Chymru gyfan.
Wyt ti'n ddarllenwr mawr dy hun a pha fath o lyfrau rwyt ti'n ei fwynhau?
Ar un adeg, llyfrau ffeithiol yn unig r'on i â gwir ddiddordeb ynddyn nhw, ond bellach, mi ddarllena i ystod eang o lyfrau. Rhaid dweud fod ambell nofel bellach yn rhoi boddhad mawr i mi, boed hynny yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Dwi newydd orffen darllen Pridd, gan Llŷr Titus, ac O Glust i Glust gan Llwyd Owen, a'u mwynhau yn arw, ac yn edrych ymlaen yn fawr at eu gweld ar restr Llyfr y Flwyddyn 2022'!!
Oes unrhyw lansiadau/sesiynau arwyddo/nosweithiau arbennig yn aros yn y cof?
Mae'n siŵr mai'r diwrnod y daeth y diweddar Dai Jones i'r siop i arwyddo copïau o'i hunangofiant Fi Dai Sy' 'Ma, fu'r sesiwn arwyddo mwya' llwyddiannus erioed. Roedd y siop yn orlawn…. a mwy, ac roedd y gwerthiant yn anhygoel.
Dro arall, bu hir ddisgwyl am CD Abacus, Bryn Fôn, ac unwaith eto, doedd ne'm lle i symud yn y siop, a phobl yn barod i ddisgwyl am hydoedd i gael eu copïau wedi'u harwyddo.
Ar ddechrau'r clo, mi gyhoeddwyd nofel Merch Y Gwyllt gan Bethan Gwanas.
Yn anffodus ar y pryd, nid oedd gennym hawl trafeilio ddim mwy na phum milltir, ac felly roedd yn amhosib cael lansiad yn Y Bala, na Rhydymain, sef cartref Bethan. Yr unig beth amdani oedd trefnu ei chyfarfod rhywle yn y canol, a hyn y gwn i, dyna'r tro cyntaf erioed i unrhyw un gael sesiwn arwyddo mewn lay-by!
Roedd coedlan fechan yn ymyl yn cynnig ei hun yn berffaith i'r nofel, ac ar ôl gwneud y trefniadau cywir, cafodd y nofel â'r achlysur llwyddiannus, sylw anhygoel yn y wasg ac yn genedlaethol. Efo 'chydig o ddychymyg, does wybod be fedrith rhywun ei wneud weithiau!
Petaet ti'n cael gwahodd unrhyw awdur/fardd Cymraeg byw neu farw i Awen Meirion i drafod ei waith pwy fyddai o neu hi a pham?
Does dim dwywaith mai Angharad Tomos fase hi. Mae ei sgwrs bob amser yn ddifyr, ac mae hi wedi cyflawni cymaint ym myd cyhoeddi llyfrau plant, pobol ifanc ac oedolion, ac mae hi'n dal ati o hyd, ac mae'n dyled fel llyfrwerthwyr yn fawr iddi.
Y llall fyddai'r diweddar Gareth F Williams - pob gair yn ei le, boed ar lafar neu dudalen.
A rŵan, be fyddai leinyp dy gig delfrydol i'w chynnal yn y siop?
Dyma gwestiwn mawr iawn!
Mae artistiaid fel Siân James, Al Lewis, Siddi, Candelas, Y Cledrau, Meinir Gwilym, Wil Tân, wedi bod acw eisioes.
O gael estyniad i'r siop, ac i fynd i hwyl dathlu go iawn, yna Geraint Lövgreen a'r Enw Da (pob un ohonynt!) fyddai'n hedleinio.
Mi fyddai Bob Delyn a'r Ebillion, Steve Eaves (a Lleuwen a Manon) Cowbois Rhos Botwnnog, Meic Stevens, Geraint Jarman, Gwilym Bowen Rhys, MR... a llawer iawn mwy, rhywle ar y poster, ac mi fyddai'r gig i gyd am ddim!
Pa Eisteddfod fuodd fwyaf llewyrchus i Awen Meirion, fuodd yna Eisteddfodau eraill anoddach i'w taclo o ran gwerthiant?
Mae dwy Eisteddfod Y Bala a'r Cyffiniau yn sefyll allan fel rhai hynod lwyddiannus, wrth gwrs. Dro arall, mae trïo gweithio ar faes y 'steddfod efo llyn o ddŵr o flaen y stondin, yn dilyn glaw trwm, bob amser yn her, gan mai prin yw'r cwsmeriaid, a thydi glaw a llyfrau ddim yn mynd efo'i gilydd yn nachdyn!
Er nad oeddwn yn gweithio yn Awen Meirion ar y pryd, mi fase pob stondinwr arall yn cytuno â mi petawn yn dweud mai Eisteddfod Abergwaun, oedd yr her fwya' erioed!!
Heblaw am redeg y siop, be' arall sy'n mynd â dy fryd a be sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Dwi wedi bod â diddordeb mewn gwneud bwyd erioed, ac mae'r syniad o redeg caffi wedi bod yn dipyn o atyniad. Ond i'r rhai sy'n adnabod Y Bala yn dda, dwi'n siwr mai ymateb y rhan fwya' o bobol fyddai, "Be' - un arall??"
Felly mi sticia i ar hyn o bryd, drwy ein grŵp busnes lleol, i geisio hyrwyddo a gwella pryd a gwedd, a phrofiad siopa'r dref i bawb sy'n dod draw i'r Bala.
Rydym yn ffodus iawn nad oes gennym yr un siop wag ar y Stryd Fawr, ac yn wir mae llawer yn aml yn chwilio am safle i agor busnes acw, ac felly dyna ddangos fod modd i fusnesau bychain wneud bywoliaeth dda iawn yng nghefn gwlad Cymru.
Beth yw dy obeithion i Awen Meirion a siopau llyfrau Cymraeg dros y 50 mlynedd nesaf?
Mae lot o ddarogan gwae am ddyfodol siopau llyfrau annibynnol wedi bod yn ddiweddar, ac wrth gwrs mae'n her cadw busnes, ond dwi'n ffyddiog, efo'm cyd-weithwyr presennol wrth y llyw, y bydd y siop yn dal i fod yr un mor lewyrchus am flynyddoedd i ddod, a hynny ymhell ar ôl i mi ymddeol o fod yn rheolwr Awen Meirion.