Eisteddfod: Cystadlu o'r ysbyty wrth gael triniaeth canser

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Drizzle Joe ThomasFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Drizzle gipio'r ail wobr ar ôl cystadlu drwy linc fideo

"Roedden ni wedi colli gobaith y byddai Drizzle yn gallu cystadlu eleni... felly mae heddiw yn beth enfawr i hi."

Fore Mercher, fe wnaeth Drizzle Joe Thomas o Ysgol Penglais, Aberystwyth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd o'r ysbyty lle mae hi'n derbyn triniaeth am fath prin o ganser.

"Mae hi'n angerddol dros gystadlu yn yr Eisteddfod bob blwyddyn... dwi mor werthfawrogol i'r Urdd am drefnu hwn," medd ei mam wrth BBC Cymru Fyw.

Fe ddaeth Drizzle, 12, yn ail yn y gystadleuaeth llefaru unigol i ddysgwyr blwyddyn 7-9 wedi iddi ymddangos ar y llwyfan drwy linc fideo.

'Angerddol dros gystadlu'

Cafodd Drizzle, 12 oed o Aberystwyth, ddiagnosis o ganser ym mis Ionawr 2021.

Mae'r disgybl blwyddyn saith wrthi'n derbyn radiotherapi ar gyfer tiwmor yn ei hasgwrn cefn yn Ysbyty Christie, Manceinion.

Wedi iddi ennill y cylch a'r sir, roedd hi'n edrych ymlaen at gael cystadlu ar y Maes yn Sir Ddinbych yr wythnos hon.

Ond oherwydd amseru'r driniaeth, fe ddaeth yn amlwg i'r teulu na fyddai'n bosib iddi fod yno.

Ffynhonnell y llun, Roseline Joseph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Drizzle, 12, wrthi'n derbyn radiotherapi ym Manceinion

"Mae hi'n angerddol dros gystadlu yn yr Eisteddfod bob blwyddyn," dywedodd ei mam Roseline Joseph.

"Roedd hi wir yn siomedig - felly 'nes i gysylltu â'i gweithiwr cymdeithasol hi, ac fe gysyllton nhw â'r Urdd a threfnu ffordd i hi fedru cystadlu'n rhithwir."

Fe wnaeth Drizzle recordio'i pherfformiad dros Zoom o flaen llaw fore Mercher, ac fe gafodd y clip ei chwarae yn ystod y gystadleuaeth.

Doedd hi ddim yn disgwyl dod i'r brig, medd ei mam, am ei bod yn cystadlu o bell - ac felly roedd dod yn ail yn syndod iddi.

Ffynhonnell y llun, Roseline Joseph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Drizzle yn gystadleuydd brwd

"Roedd hi mor hapus - ond hefyd ychydig yn overwhelmed, achos doedd hi ddim yn disgwyl unrhyw beth!"

Mae Drizzle yn gystadleuydd brwd sydd wedi cymryd rhan mewn pob math o gystadleuaeth dros y blynyddoedd.

"Mae hi wedi bod yn 'neud corau, llefaru, canu unigol, coginio - pob math o bethau gyda'r Eisteddfod.

"Byddai hi wedi caru bod yno heddiw - ond yn anffodus gallwn ni ddim teithio. Felly mae cystadlu heddiw yn beth enfawr i hi."

Pynciau cysylltiedig