Bwydo ar y fron: 'Mae angen mwy o help i famau awtistig'

  • Cyhoeddwyd
bwydoFfynhonnell y llun, Thinkstock

Nid yw mamau awtistig yn cael y gefnogaeth sydd angen arnyn nhw i fwydo ar y fron, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Abertawe.

Mae'r astudiaeth yn dweud bod gwasanaethau "wedi eu hadeiladu ar ddiffyg dealltwriaeth" o'r rhwystrau ychwanegol mae rhai yn eu hwynebu.

Fe gafodd Kat Williams, ddiagnosis yn 32 oed, a dywedodd ei fod yn bwysig bod gwasanaethau'n ymwybodol o anghenion unigolion fel hi.

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn dweud bod y diffyg adnoddau a staffio o fewn gwasanaethau mamolaeth wedi effeithio ar y cymorth sydd ar gael.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae cymorth bwydo ar y fron yn cael ei flaenoriaethu gan wasanaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kat Williams ddiagnosis o awtistiaeth ar ôl cael ei dau blentyn

Yn fam i ddau o blant, dywedodd Ms Williams ei bod yn awyddus iawn i'w bwydo ar y fron, ond roedd yn frwydr iddi gan wneud iddi deimlo fel methiant.

"Dwi'n meddwl fy mod yn rhoi'r argraff o fod yn ddi-hid," meddai.

"Y math gwaethaf o brofiad o'r cyfnod hwnnw oedd bydwraig yn dweud fy mod wedi rhoi'r gorau iddi yn llawer rhy hawdd, ac mi o'dd hwnna fel troi switsh mlaen.....ac ar ôl hynny penderfynais i ddefnyddio fformiwla i fwydo," meddai.

Fe gafodd y wraig 36 oed ddiagnosis o awtistiaeth ar ôl cael ei dau blentyn. Roedd yn teimlo nad oedd staff yn ei chredu pan esboniodd am ei hanawsterau gyda chyffyrddiad a phoen.

"Pan 'dach chi'n bwydo ar y fron, mae'n gwneud i'ch croth gyfangu a dwi'n gwybod fod y rhan fwyaf o fenywod yn teimlo hynny, ond roedd yn fwy poenus na'r weithred o eni yn fy mhrofiad i," meddai.

Ychwanegodd Kat Williams, sy'n fyfyrwraig ôl-raddedig nad oedd yn teimlo bod y staff yn ei chredu, hyd yn oed wrth iddi ddisgrifio'r trafferthion bwydo ar y fron.

Esboniodd Ms Williams bod llawer o fenywod yn gyson yn cael diagnosis hwyr o awtistiaeth tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd datgelu diagnosis i weithwyr gofal iechyd o gwbl.

Hoffai weld staff yn ymateb i anghenion unigol wrth gyfathrebu, ac mae'n meddwl y gallai hyn fod o fudd i bob rhiant newydd.

"Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi methu, doedd gen i ddim yr wybodaeth sydd gen i nawr i allu dweud, 'edrychwch, dwi angen mwy o help gyda hyn'."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Aimee Grant fod llawer o famau yn teimlo nad oedden nhw'n cael y cymorth angenrheidiol

I Dr Aimee Grant o Brifysgol Abertawe, mae hanes Kat Williams yn stori gyfarwydd.

Mae'r academydd wedi bod yn ymchwilio i feichiogrwydd a bwydo babanod ers bron i 10 mlynedd cyn iddi hi gael diagnosis o awtistiaeth yn 2019.

"Rwy'n berson chwilfrydig, roeddwn i am weld beth oedd eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn a phan edrychais, doedd dim llawer o ymchwil mewn gwirionedd," meddai.

Galw am well hyfforddiant

Er gwaethaf rhai profiadau cadarnhaol, daeth ei hastudiaeth newydd i'r casgliad bod llawer o famau yn teimlo nad oedden nhw'n cael y cymorth angenrheidiol.

"Gallai hynny olygu eu bod yn rhoi'r gorau i fwydo ar y fron. Roedd enghreifftiau hefyd o rai oedd wedi gwrthdaro â gweithwyr iechyd oedd wedi awgrymu y bydden nhw'n sôn wrth y gwasanaethau cymdeithasol amdanyn nhw," ychwanegodd.

Yn ôl Dr Grant yr hyn sydd angen ei wneud yw cyfathrebu'n glir ac yn uniongyrchol, gan sicrhau nad oedd mamau'n cael eu cyffwrdd heb ganiatâd penodol, yn ogystal â gwell hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd.

Ychwanegodd y byddai'n well i bobl ag awtistiaeth ddarparu unrhyw hyfforddiant, ond roedd yn cydnabod bod gwasanaethau dan bwysau oherwydd prinder bydwragedd.

Prinder staff

Dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd ei fod wedi ymgyrchu ers tro am well cefnogaeth bwydo ar y fron i bob mam, gan gynnwys mamau awtistig.

"Gyda gwasanaethau mamolaeth yn brin o staff, mae'n her wirioneddol, rydyn yn gwybod na fydd llawer o fenywod yn cael y lefelau cywir o gefnogaeth," meddai Clare Livingstone o'r coleg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai byrddau iechyd ystyried amgylchiadau unigolion wrth ddarparu cymorth bwydo ar y fron.

"Mae ein cynllun gweithredu bwydo ar y fron yn nodi sut y byddwn yn cefnogi pobl i gychwyn a chynnal bwydo ar y fron, ar ôl dewis gwneud hynny," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig