Cofio AS oedd yn 'un o wleidyddion arloesol ei hoes'
- Cyhoeddwyd
Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio yn Neuadd Dref Y Fflint brynhawn Gwener er cof am yr Aelod Seneddol Llafur a'r newyddiadurwraig, Eirene White.
Roedd ymhlith y tair menyw cyntaf erioed i gynrychioli etholaeth Gymreig yn Senedd San Steffan ac am gyfnod o 10 mlynedd - rhwng 1951 a 1957 a rhwng1966 a 1970 - hi oedd yr unig AS benywaidd yn San Steffan.
Aeth ymlaen i fod yn Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi a hi hefyd oedd y newyddiadurwraig gyntaf i gael eu hachredu, yn 1945, gan bapur newydd y Manchester Guardian fel gohebydd gwleidyddol.
Dyma'r plac cyntaf i'w osod yng ngogledd ddwyrain Cymru dan gynllun Placiau Porffor Cymru.
Cafodd Eirene White, Jones gynt, ei geni yn 1909 yn Belfast i deulu Cymreig, a'i magu yn Y Barri a Llundain.
Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, fe deithiodd i Unol Daleithiau America. Yn fanno daeth yn ymwybodol o wahaniaethu hiliol trwy ei chyfeillgarwch â'r canwr Paul Robeson, a dysgu am werth llyfrgelloedd cyhoeddus tra'n gweithio mewn llyfrgell yn Efrog Newydd.
Roedd hyrwyddo tâl cyfartal, darparu meithrinfeydd ac addysg bellach ymhlith ei blaenoriaethau wedi iddi gael ei hethol yn AS sedd ymylol Dwyrain Sir y Fflint yn Etholiad Cyffredinol 1950.
Cyflwynodd fesur preifat i ddiwygio'r gyfraith ysgariad, ac fe gafodd ei disgrifio gan gyd-AS fel "pwyllgorwraig i'w hofni, yn angerddol dros Lafur, llyfrgelloedd a Chymru".
Yn 1964, cafodd ei phenodi gan y Prif Weinidog, Harold Wilson yn weinidog yn y Swyddfa Dramor, cyn symud i'r Swyddfa Gymreig o 1967 tan 1970. Roedd hefyd yn gadeirydd y Blaid Lafur rhwng 1968 a 1969.
Wedi 20 mlynedd o gynrychioli ei hetholaeth fe symudodd i Dŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes White o Rymni, a hi oedd dirprwy lefarydd y siambr honno rhwng 1979 a 1989.
Roedd yn un o lywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn gadeirydd Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru. Roedd hefyd yn lywydd Coleg Harlech - 'coleg yr ail-gyfle' a sefydlwyd gan ei thad, Thomas Jones. Ysgrifennodd lyfr am hanes sefydlu'r coleg a llyfr arall am chwiorydd Davies, Gregynog.
Bu farw yn 1999, ac wedi ymlyniad hir â'r Barri, dyna lle cafodd ei llwch ei wasgaru.
Yn ôl Hannah Blythyn, cynrychiolydd etholaeth Delyn yn Senedd Cymru ers 2016, roedd ei rhagflaenydd yn "un o wleidyddion arloesol ei hoes".
"Mae e' ond yn iawn ei bod hi'n cael ei chydnabod yn y modd yma gan y gymuned y bu hi'n ei gwasanaethu am 20 mlynedd".
"Fel un o Aelodau Seneddol benywaidd cyntaf Cymru, fe helpodd Eirene arwain y ffordd i eraill, ac rwy'n gobeithio y bydd y plac yn rhoi llwyfan i bobl ddysgu am ei hetifeddiaeth ac adeiladu arno."
'Roedd yn rym pwerus er gwell'
Mae dadorchuddio'r degfed plac porffor, a'r cyntaf yn y gogledd ddwyrain yn "gyffrous" medd Cadeirydd Pwyllgor Placiau Porffor Cymru, Sue Essex.
"Roedd Eirene White yn rym pwerus er gwell o ran ei hetholwyr a thrwy ei gwaith cyhoeddus ehangach ym myd gwleidyddiaeth ac fel Llywydd Coleg Harlech," meddai.
Mae'r plac yn cael ei ddadorchuddio gan nai Eirene White, Ben Jones a Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt.
Dywedodd Ms Hutt bod bod yna gydnabyddiaeth iddi eisoes ar Lwybr Treftadaeth Archif Menywod Cymru yn Y Barri, "ble y treuliodd ei phlentyndod, felly mae'n wych y bydd hi nawr yn cael ei chofio yn Sir Y Fflint ble y treuliodd gymaint o flynyddoedd yn cynrychioli ei hetholwyr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018