Newidiadau diogelwch er cof am lanc fu farw yn Sbaen
- Cyhoeddwyd
Mae teulu llanc fu farw yn Majorca yn dweud eu bod yn "falch" y bydd newidiadau diogelwch yno yn cael eu cyflwyno yn ei enw.
Roedd Tom Channon yn 18 oed ac ar ei wyliau cyntaf dramor pan ddisgynnodd dros wal isel oedd yn cuddio cwymp o 70 troedfedd yn Magaluf yn 2018.
Mae ei deulu o'r Rhws ym Mro Morgannwg wedi bod yn ymgyrchu am gefnogaeth well pan mae rhywun yn marw ar yr ynys.
Dywedodd y Swyddfa Dramor y bydd 'Gwiriadau Tom' (Tom's Check) yn cael ei weithredu ar Yr Ynysoedd Balearaidd yr haf nesaf fel cynllun peilot, cyn ei gyflwyno mewn cyrchfannau eraill.
Roedd Tom wedi cynilo am ddwy flynedd ar gyfer y trip gyda ffrindiau wedi iddyn nhw gwblhau eu harholiadau Safon Uwch.
Ond fe ddisgynnodd saith llawr dros wal isel ar safle Eden Roc yn Magaluf.
Clywodd cwest yn 2019 mai Tom oedd y trydydd person i farw ar y safle o fewn blwyddyn.
Pum wythnos yn gynharach fe ddisgynnodd Thomas Hughes o Wrecsam mewn amgylchiadau tebyg.
Dywedodd y crwner y byddai "camau syml" i godi ffens wedi'r digwyddiad cyntaf "mwy na thebyg" wedi atal marwolaeth Tom Channon yno.
Cafodd y wal ei gwneud yn fwy diogel wedi i rieni Tom, John a Ceri Channon, ymgyrchu i gael y gwaith wedi'i wneud.
Maen nhw'n credu na chafodd gwelliannau eu gwneud yn gynt oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng awdurdodau ar yr ynys.
Dywedodd John Channon: "Y sioc fwyaf oedd gweld nad oedd pethau wedi cael eu gwneud y byddech chi'n disgwyl i fod wedi digwydd.
"O safbwynt Majorca, yn amlwg roedd damwain wedi digwydd bum wythnos ynghynt, ond doedd dim byd wedi ei wneud i ddiogelu'r ardal yna."
Bydd 'Gwiriadau Tom' nawr yn digwydd yn Yr Ynysoedd Balearaidd i sicrhau bod pethau'n newid pan fydd damwain neu farwolaeth.
Ymhlith y mesurau sy'n rhan o'r cynllun peilot newydd mae:
Sicrhau bod staff Swyddfa Is-gennad Prydain yn cwrdd gyda'r awdurdodau perthnasol ac ymweld â safleoedd i ateb pryderon am ddiogelwch;
Gofyn am gyfarfod gyda'r heddlu i staff Swyddfa'r Is-gennad a theuluoedd er mwyn deall ymchwiliad yr heddlu a nodi unrhyw bryderon am ddiogelwch;
Cytuno ar gynllun gweithredu gyda theuluoedd a'u cynrychiolwyr cyfreithiol lle gall yr Is-gennad weithredu.
Ychwanegodd John Channon: "Os all hynny achub un bywyd, yna yn amlwg fe allwn ni ddweud fod hynny er cof am Tom."
'Atal damweiniau trasig'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Fe wnaeth ein staff gefnogi teulu Tom Channon wedi ei farwolaeth yn Majorca yng Ngorffennaf 2018.
"Ry'n ni'n parhau i weithio gyda rhieni Tom i sicrhau fod teuluoedd yn medru cael y wybodaeth y maen nhw angen, ac adeiladu ar ein gwaith i geisio atal damweiniau trasig rhag digwydd yn y dyfodol."
Dywedodd Ceri Channon, sydd hefyd yn fam i'w ddau frawd, Harry a James: "Mae'r un person yna wastad ar goll. Fe ddywedais i erioed ein bod ni'n bump, ac mi ydyn ni.
"Dwi wastad yn meddwl am Tom yn y presennol, byth yn y gorffennol, ond ry'ch chi'n byw bywyd y gwnaethoch chi erioed ddychmygu.
"Dwi jest yn trio canfod ffordd y wthio ymlaen, ac mewn ffordd a fyddai wedi ei wneud e'n falch."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2018