Wythnos waith pedwar diwrnod i 'newid bywydau'?
- Cyhoeddwyd
Mae staff cwmni ym Merthyr Tudful sy'n rhan o gynllun peilot i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yn dweud y gallai fod yn "newid byd".
Mae Merthyr Valleys Homes yn sefydliad tai sy'n un o 70 o gwmnïau ar draws y DU sy'n rhan o'r cynllun chwe mis.
O adeiladwyr i'r tîm cyfathrebu, mae pob un o'r 225 o weithwyr wedi cael cyfle i weithio'r hyn sy'n cyfateb â phedwar diwrnod fel rhan o'r cynllun.
Mae gweithwyr yn dweud y gallai'r treial, a ddechreuodd yr wythnos hon, newid eu bywydau ond dywed y cwmni mai'r her fydd peidio gadael i denantiaid sylwi ar unrhyw newid yn eu gwasanaeth.
Mae'r cynllun peilot yn cael ei drefnu gan 4 Day Week Global mewn partneriaeth â melin drafod Autonomy, ymgyrch 4 Day Week UK ynghyd ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt a Choleg Boston.
Y nod yw casglu data ar sut mae'r system yn gweithio o fewn pob math o fusnesau er mwyn annog rhagor o fusnesau i gynnig wythnos waith fyrrach.
I Marcus Powell sy'n gweithio o fewn y tîm cyfathrebu'r cwmni ac sy'n Gadeirydd ar y Corff Democrataidd, mae'r cyfle i weithio am bedwar diwrnod yn "newid byd".
Ond mae'n cwestiynu a fyddai'r cynllun yn gweithio yn y tymor hir.
"Dw i'n meddwl ei fod e'n newid byd, achos ar fy niwrnod ffwrdd gallai dreulio mwy o amser gyda fy nheulu.
"Dw i'n sicr ddim eisiau gwneud gwaith tŷ, mi fyddai'n dal i adael hynny ar gyfer y penwythnos ond i fi, mae e i wneud â threulio amser gyda fy ffrindiau a fy nheulu a gallu ymlacio ar y diwrnodau hynny."
'Diwrnod yn llai ond ffocysu'n well'
Mae pennaeth yr adran Adnoddau Dynol, Ruth Llewellyn, wedi bod yn trefnu'r prosiect o fewn y cwmni.
Mae hi'n bwriadu gweithio'n fwy hyblyg ac amrywio ei diwrnod i ffwrdd yn ddibynnol ar drefn yr wythnos, ac mae'n gobeithio y bydd gweithwyr yn fwy cynhyrchiol yn yr amser y maen nhw'n treulio ar y safle.
"Dw i'n meddwl mai'r her i'n cyd-weithwyr ni yw i ofyn i'w hunain 'pam?'," meddai.
"Os ydych chi'n gwneud rhywbeth, 'pam ydw i'n 'neud hyn? Pam ydw i'n 'neud hyn y ffordd yma? Oes 'na ffordd well? Oes 'na ffordd gynt? Jyst ein cael ni i gyd i ffocysu ar yr amser sydd gyda ni yn y gwaith."
Mae arolygon barn wedi cael eu gwneud cyn i'r treial ddechrau er mwyn mesur pa mor gynhyrchiol yw holl adrannau'r cwmni.
Byddan nhw'n cael eu monitro yn ystod y chwe mis ac yn cael eu cymharu ar ddiwedd y cynllun i fesur llwyddiant.
Ychwanegodd Ruth Llewellyn mai eu "prif nod yw sicrhau nad yw eu gwasanaethau'n cael eu heffeithio". Bydd tenantiaid a gweithwyr yn cwblhau arolygon barn yn ystod y treial.
Yn ôl Fflur Jones, cyfreithwraig cyflogaeth a phartner rheoli gyda chwmni Darwin Gray yng Nghaerdydd, does "dim rheswm i gwmnïau beidio dilyn y cynllun" yn y tymor hir os yw cynhyrchiant yn aros yn gyson.
Dywedodd hefyd bod y pandemig wedi dangos bod "modd gwneud pethau ychydig yn wahanol".
"Dw i'n meddwl mai dim ond aros a mesur y data y byddwn ni'n gallu gweld bod y cynhyrchiant yna'n aros yr un fath, er gwaetha'r ffaith bod pobl yn gweithio llai o ddyddiau," dywedodd.
"Yn amlwg, dydy o ddim yn mynd i siwtio pawb nac 'dy? Fedra' i feddwl bod 'na sawl ffarmwr yn wfftio'r syniad o safbwynt yr oriau a'r dyddia' ma' nhw'n gorfod rhoi i mewn i'w gwaith!"
Mae Will Stronge o felin drafod Autonomy yn cytuno gyda safbwynt Fflur Jones.
"Os edrychwch chi ar bethau fel gofal iechyd, addysg, gofal cymdeithasol - dyma'r mathau o waith - os wnewch chi ostwng yr wythnos waith, na fyddai wir yn fwy cynhyrchiol.
"Dydy'r math yna o waith ddim yn addas ar gyfer lleihau'r wythnos waith yn unig, mae angen ichi gynyddu nifer y staff.
Ychwanegodd bod gwledydd Groeg a Mecsico yn dueddol o weithio oriau hirach ond dyw eu heconomi ddim yn gweithio cystal â gwledydd fel yr Iseldiroedd, Yr Almaen a Ffrainc lle mae gweithwyr yn gweithio oriau byrrach.
Dywedodd bod sawl cwmni yn defnyddio cynllun "elastig".
"Gall llawer gael ei wneud mewn cyfnod byr o amser neu yn ystod cyfnod arall o'r dydd - os yw staff wedi blino neu os nad yw pethau'n gweithio mae'n bosib bod rhai oriau yn y dydd yn llai cynhyrchiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021