Ateb y Galw: Elidyr Glyn

  • Cyhoeddwyd
Elidyr Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Elidyr Glyn

Y cerddor Elidyr Glyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma. Elidyr yw prif leisydd y band Bwncath a daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2019 gyda'i gân Fel Hyn 'Da Ni Fod.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Wrth drio meddwl am atgofion cynnar mae'n anodd iawn dweud pa un ddaeth o flaen y llall, ond dwi'n cofio dysgu cropian ar garpedi fy nghartref yn Waunfawr, ac felly ymysg amryw o atgofion mae'r atgof hwn siŵr o fod yn un o'r rhai cynharaf.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff ardal yw lle cefais fy magu, sef Caernarfon a'r ardal gyfagos. Roeddwn i'n hoff iawn o bentref Waunfawr ger Caernarfon ble cefais fy magu nes o'n i tua 10 oed, cyn i ni symud fel teulu i'r wlad yn ardal Llanllyfni, Penygroes. Roeddwn i'n hoff iawn o ardal Dyffryn Nantlle wedyn hefyd, ac felly mae'n debyg mai fy hoff lefydd yw'r rhai 'dw i fwyaf cyfarwydd â nhw.

Ond wrth drio meddwl am fy hoff le sydd heibio i'r ffiniau lle cefais fy magu, mae Aberdaron ar ben draw Penrhyn Llŷn yn dod i'r amlwg. 'Dw i wedi treulio peth amser yno erbyn hyn, ac mae'r cyfuniad o gael cymdeithasu a gwneud cyfeillion newydd ynghyd â harddwch eithriadol yr ardal wedi gwneud y lle yn arbennig iawn i mi.

Disgrifiad o’r llun,

Aberdaron

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae'n debyg mai'r noson fwyaf cyffrous ac egnïol 'dw i wedi ei phrofi hyd yma yw'r noson enillais gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2019. Roedd y dathlu a gawsom wedyn yn dipyn o brofiad, ond wedi dweud hynny roedd cryn dipyn o nerfusrwydd ynghlwm â'r holl beth hefyd.

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Elidyr gyda thlws Cân i Gymru yn 2019

Felly, o ran profiadau sydd wedi cynnig yr un math o wefr ond heb gynnwys yr un elfen o nerfusrwydd, mae nosweithiau o berfformio yn fyw efo Bwncath ar draws Cymru mewn amryw o sefyllfaoedd a digwyddiadau yn bendant wedi bod yn gymharol â'r profiad hwnnw.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Canu, cyfansoddi, dysgu.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mae llawer o fy ffrindiau yn gwneud i mi wenu a chwerthin wrth feddwl amdanynt, a hynny oherwydd yr hwyl 'da ni wedi ei gael a'r holl falu awyr a mwydro 'da ni wedi ei wneud, felly fyswn i'n dweud mai pobl yn hytrach na digwyddiadau sydd wedi gwneud i mi chwerthin fwyaf. Ar y llaw arall mae yna gymaint o bethau digri wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd pan oeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ond beryg y bysa llawer yn gweld straeon o'r fath yn fwy 'gwirion' na 'doniol' a dweud y gwir, felly gwell fyddai peidio sôn amdanynt yma.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan oedd fy nghyfoedion yn gwneud hwyl am fy mhen pan o'n i'n blentyn am ba bynnag resymau. Mae'n anodd meddwl am unrhyw ddigwyddiad penodol fel yr un mwyaf arwyddocaol, ond 'dw i'n siŵr fod gan y mwyafrif o bobl brofiadau tebyg. 'Dw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw ddigwyddiad diweddarach sydd wedi rhoi mwy o ymdeimlad o gywilydd i mi na'r math hwn o brofiad pan o'n i'n blentyn.

Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Bwncath yn Tafwyl

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan fu farw fy Mam-gu yn ddiweddar.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pan fydda i'n cael llonydd i wneud, fydda i'n dueddol o gysgu'n hwyr iawn. Mae'n debyg y bysa sawl aelod o gymdeithas o'r farn fod hynny yn arfer drwg!

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Yn ystod y cyfnod clo darllenais gyfres o lyfrau gan Sharon Penman, hanesydd o'r UDA sydd wedi ysgrifennu nifer o nofelau hanesyddol. Mae'r gyfres hon, sy'n dechrau gyda'r nofel Here Be Dragons, yn canolbwyntio ar berthynas Tywysogion Cymru gyda Brenhiniaeth Lloegr a'r Arglwyddi Normanaidd, wedi ei gosod yng nghyd-destun ehangach Gorllewin Ewrop o dan ddylanwad yr Eglwys Gatholig ar y pryd.

Buaswn yn argymell y llyfrau yma i unrhyw un sydd eisiau dysgu am hanes y rhan yma o'r byd ar ffurf stori, gan eu bod wedi agor fy llygaid i sut yr oedd pobl yn byw yn y cyfnod, a thrwy hynny wedi rhoi mwy o syniad i mi o sut y daeth pethau i fod fel y maent heddiw.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

'Dw i yn hoff iawn o ganeuon Alun 'Sbardun' Huws ers pan o'n i'n ifanc iawn, a chefais y fraint o gael fy newis fel enillydd Tlws Coffa Sbardun yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, sef y flwyddyn gyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Ers ennill y gystadleuaeth honno 'dw i wedi bod yn perfformio yn gyson a thrwy hynny wedi cael y pleser o ddod i adnabod amryw o gantorion a chyfansoddwyr eraill, gan gynnwys rhai a oedd yn adnabod Sbardun. Mae ambell un wedi dweud y bysa ni wedi dod 'mlaen yn dda os fysa ni wedi cael y cyfle i gyfarfod, a 'dw innau wedi meddwl fwy nag unwaith y bysa hynny wedi bod yn braf.

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Bwncath, Gŵyl Triban, Eisteddfod yr Urdd

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi astudiais gwrs Meistr mewn Gwyddorau Eigion (Oceanography) ym Mhrifysgol Bangor, cyn mynd ymlaen i wneud cwrs er mwyn mynd yn athro gwyddoniaeth. Mae ambell un wedi cymryd fy mod yn athro cerdd pan 'dw i'n dweud wrthynt fy mod yn gweithio mewn ysgol.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mae'n dibynnu os ydy hi'n ddiwrnod olaf i bawb, neu dim ond i fi. Os bysa hi'n ddiwrnod olaf i bawb, fyswn i'n licio meddwl mai fy mhrif nod fysa trefnu rhywle i gyfarfod fy holl deulu, fy nghyfeillion, a'u teuluoedd a'u cyfeillion nhw am y tro olaf er mwyn treulio amser â nhw. Ond wrth gwrs, mae'n debyg mai parhau i drio ein gorau i oroesi fyddai'r rhan fwyaf ohonom yn ei wneud mewn gwirionedd.

Eto fyth, mae'n siŵr mai dod at ein gilydd a chydweithio fysa'n rhoi'r mwyaf o obaith i ni yn hynny o beth hefyd, ac felly bysa rhyw gyfuniad o'r ddau nod yn debygol. Ar y llaw arall, os mai'r sefyllfa yw ei bod hi'n ddiwrnod olaf i fi yn benodol, yna byswn i'n ymdrechu i weld fy nheulu a fy nghyfeillion i gyd er mwyn diolch iddynt am eu cwmni a'u cefnogaeth.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dydy'r llun ddim yn bwysig iawn ynddo ei hun, ond mae'n llun sydd yn dod ag atgofion yn ôl i mi o fy nghyfnod yn tyfu fyny yn Waunfawr gyda fy mrodyr, ac mae'r atgofion yn bwysig i mi. Mae'r llun hefyd yn gofnod o'r diwrnod pan ddysgais reidio beic heb stabilizers am y tro cyntaf, yn ogystal â bod yn gofnod o sut wnaeth hynny wneud i mi deimlo, gan fod hynny yn amlwg yn y llun.

Roedd un o'r stabilizers wedi disgyn i ffwrdd ar ben arall y stryd heb i mi sylwi yn gynharach y diwrnod hwnnw, a 'dw i'n cofio cael y sylweddoliad fy mod wedi bod yn reidio'r beic hefo dim ond un ohonynt yr holl ffordd i ben y stryd ac yn ôl. Mae fy mrodyr mawr bob ochr i mi yn y llun, sef Rhion ac Arawn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'n debyg mai nhw oedd fy stabilizers go iawn! Mae gen i frawd bach hefyd sef Cynan, ond dydy o ddim yn y llun.

Ffynhonnell y llun, Elidyr Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Elidyr (canol) yn mwynhau ei blentyndod gyda'i frodyr mawr Arawn a Rhion

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Os fyswn i'n cael fy ngorfodi i wneud hyn go iawn fyswn i'n cymryd cryn dipyn o amser i benderfynu, achos dydy o ddim yn rhywbeth 'dw i wedi meddwl amdano o'r blaen.

Ond os byswn i yn gorfod dewis rŵan hyn tra 'dw i'n ateb y cwestiwn, byswn i'n dewis unrhyw un sy'n gweithio mewn gorsaf ofod, achos bysa cael gweld y ddaear o'r gofod yn dipyn o brofiad fyswn i'n ei ddychmygu. Hynny yw, dim ond am ddiwrnod, achos dydy gweithio am fisoedd mewn lle o'r fath ddim o reidrwydd yn apelio chwaith.

Hefyd o ddiddordeb: