Y drefn o roi ysgolion mewn categorïau lliw yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Addysg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses gategoreiddio wedi'i beirniadu am labelu ysgolion ac annog cystadleuaeth

Mae'r drefn o osod ysgolion Cymru mewn categorïau lliw yn cael ei dileu.

Cafodd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ei hatal yn ystod y pandemig ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd yn ail-ddechrau.

Fe fydd "system hunanwerthuso gadarn" yn dod yn ei lle, meddai'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.

Ond dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod categoreiddio yn ddefnyddiol a bod y system yn cael ei newid yn ddiangen.

Wedi'i chyflwyno yn 2014, mae'r broses wedi'i beirniadu am labelu ysgolion ac annog cystadleuaeth.

Roedd ysgolion yn cael eu clustnodi'n wyrdd, melyn, oren neu goch yn ôl faint o gymorth oedd ei angen arnyn nhw.

Ffocws ar gynnydd disgyblion

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y bydd rhieni'n cael gwybodaeth "fwy diweddar, manwl a chynhwysfawr" ar wefannau ysgolion wrth iddyn nhw nodi eu blaenoriaethau o ran gwella a chynllun datblygu.

Dywedodd y byddai'r ffocws ar gynnydd disgyblion nid ar "benawdau".

Ond mae'r drefn yn "ffordd ddefnyddiol iawn o ddilyn cynnydd ysgol" yn ôl y Ceidwadwyr er y gellid ei gwella.

"Y broblem yw sut mae'r wybodaeth yn cael ei chyfleu pan mae eich ysgol yn symud o wyrdd i goch a choch i wyrdd," meddai llefarydd addysg y blaid, Laura Anne Jones.

"Rwy'n credu bod angen i'r ffordd o'i chyfathrebu newid, ond rwy'n credu bod y system ei hun wedi bod yn dda iawn, iawn."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyw ysgolion Cymru ddim wedi cael eu categoreiddio ers y pandemig - dyma oedd y darlun yn 2019

Daw cyhoeddiad y Llywodraeth law yn llaw â newidiadau i'r ffordd y mae Estyn yn arolygu ysgolion - gan symud i ffwrdd o roi graddau fel rhagorol neu anfoddhaol ac yn hytrach cynnig trosolwg o feysydd i'w datblygu yn ogystal â chryfderau.

Fe fydd arolygiadau yn digwydd yn fwy aml o fis Medi 2024, meddai'r llywodraeth.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn y byddai'r corff yn "parhau i weithio'n galed i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr addysg a'r hyfforddiant y mae'n ei haeddu - gan fonitro ysgolion drwy waith dilynol os nad yw'r safonau'n ddigon uchel".

'Croesawu'r newid'

Mae Owain Gethin Davies, Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn croesawu'r newid.

"Yn anffodus mi oedd o'n gallu cael effaith negyddol ar ddelwedd ysgol yn y gymuned ac i rieni ac i ddarpar-rieni felly yn sicr mae rhywun yn croesawu bod Llywodraeth Cymru ac Estyn yn edrych ar ddulliau eraill o fesur ysgolion yn lle'r system o oleuadau traffig," meddai.

Dywedodd bod rhieni am wybod sut mae ysgol yn perfformio.

"Ond yn fwy na dim dwi'n meddwl bod rhaid i ni edrych lot fwy ar brosesau ysgolion a sut mae nhw'n gwerthuso y ddarpariaeth sydd ganddyn nhw mewn ffordd, lles a gofal pobl ifanc a hefyd sut mae'r ysgol yn cyfleu hynna i'w rhieni a'u cymunedau nhw."

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg ei fod yn gobeithio y byddai'r fframwaith newydd ar gyfer gwella ysgolion yn helpu i gyrraedd safonau uchel trwy osod "disgwyliadau clir fel bod pob disgybl yn cael ei gefnogi'n briodol".