63% yn fwy o ymchwiliadau i gwynion am fridio cŵn

  • Cyhoeddwyd
Blackcurrant a Raspberry
Disgrifiad o’r llun,

Blackcurrant a Raspberry - dau o'r cŵn dan ofal lloches yr RSPCA ym Mhont-y-clun

Fel arfer byddai staff lloches yr RSPCA ym Mhont-y-clun yn disgwyl derbyn rhyw 30 o gŵn bob blwyddyn.

Byddai hynny oherwydd bod anifeiliaid naill ai wedi colli eu perchennog neu wedi cael eu hachub o gartrefi anaddas.

Ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r ganolfan wedi gorfod edrych ar ôl 219 o gŵn, a dros 60 o'r rheiny yn gŵn bach - pob un wedi eu hachub o ddwylo bridwyr anghyfreithlon.

Ers diwedd cyfnod Covid bu cynnydd o dros 60% yn y nifer yr archwiliadau sy'n cael eu gwneud gan swyddogion safonau masnach awdurdodau lleol, gan amlaf yn dilyn cwynion gan aelodau o'r cyhoedd.

Un o'r cŵn sy'n derbyn gofal yno yw Raspberry, ci tarw chwe mis oed sydd wedi gorfod cael llawdriniaeth ar daflod y genau ac mae disgwyl y bydd anghenion iechyd arni drwy ei bywyd.

"Mae mam y ci yn dair oed ac wedi cael cŵn bach sawl gwaith," meddai Sara Rosser, pennaeth Lles ac Ail-Gartrefu RSPCA Cymru.

"Mae croen ei phen angen ei lanhau yn aml neu mae'n mynd yn ddrwg. Mae wedi diodde' gyda'i chlustiau a bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth ar ei llygaid ers iddi ein cyrraedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Rosser yn ddiolchgar bod mwy o aelodau'r cyhoedd yn cyflwyno cwynion i'r awdurdodau

Mae Sara Rosser yn croesawu'r cynnydd yn nifer yr archwiliadau gan gynghorau lleol sy'n golygu bod mwy o gŵn fel Raspberry a Blackcurrant yn cael eu hachub, a bod llai o fridwyr anghyfreithlon yn elwa drwy'u dioddefaint.

"Yn anffodus yn sgil Covid mi welson ni gynnydd aruthrol mewn bridwyr sydd â safonau lles gwael iawn," meddai, "ond rydyn ni yn ddiolchgar fod 'na fwy o'r cyhoedd i weld yn ymwybodol o be sy'n dderbyniol ac yn mynd at yr awdurdodau i gwyno."

Mae'r cynnydd mewn cŵn amddifad yn arwain at fwy o gostau i'r elusen.

"Mae 'na heriau ariannol," meddai Sara Rosser, "achos mae sawl ci yn cyrraedd gyda anghenion meddygol. Ond mae'r cŵn yn aml iawn wedi byw bywydau unig ac mae'n cymryd amser hir weithiau i roi cymorth seicolegol iddyn nhw."

'Angen cosbau llymach'

Mae RSPCA Cymru yn credu fod gan Gymru broblem fawr gyda bridwyr anghyfreithlon. Drwy gais Rhyddid Gwybodaeth fe ofynnodd yr elusen i bob awdurdod lleol am nifer y cwynion y cafodd eu derbyn am fridwyr gwael yn ogystal â nifer yr ymchwiliadau gan swyddogion safonau masnach.

Mae'r ffigyrau'n dangos cynnydd o 63% yn nifer yr ymchwiliadau - cyfanswm o 366 y flwyddyn ddiwethaf.

Ond er i'r ffigwr ddyblu, dim ond wyth achos gafodd ei erlyn drwy'r llysoedd y llynedd, o'i gymharu â phedwar y flwyddyn flaenorol. Mae angen cosbau llymach ar y bridwyr yn ôl Chris O'Brien o'r RSPCA.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynnydd yn nifer cwynion yn destun pryder, medd Chris O'Brien

"Yn amlwg mae 'na broblem fawr yma," meddai. "'Dan ni gyd yn gwybod pa mor bwysig yw blynyddoedd cynnar cŵn o ran eu hiechyd a'u hymddygiad ac mae'n bryder clywed am y cynnydd yn nifer y cwynion.

"Mae 'na ddeddfau da yma yng Nghymru ond mae na le i'w gwella, ac mae angen mwy o gosb i wneud hi'n llai deniadol i fridio cŵn."

Canllawiau cryfach i ddod mis nesaf

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon ac mae ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 yn amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd.

"Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am orfodi lles anifeiliaid. Fodd bynnag, fel rhan o'n gwaith i fynd i'r afael â bridio cŵn anghyfreithlon, rydym yn ariannu prosiect tair blynedd dan arweiniad Safonau Masnach Cymru sy'n cefnogi hyfforddiant swyddogion gorfodi Awdurdodau Lleol.

"Mae'r prosiect eisoes wedi arwain at benodi wyth swyddog arbenigol, rhaglen o hyfforddiant gwell ledled Cymru, ac atafaeliadau sylweddol o gŵn bach a fagwyd yn anghyfreithlon.

"Ym mis Gorffennaf, byddwn yn cyhoeddi canllawiau cryfach i gefnogi ein Rheoliadau Bridio Cŵn, ac mae ein Cynllun Lles Anifeiliaid yn nodi sut y byddwn wedyn yn datblygu cynigion ar gyfer diwygiadau pellach i ddeddfwriaeth Bridio Cŵn.

"Mae ein rheoliadau newydd ar werthu anifeiliaid anwes a ddaeth i rym ym mis Medi 2021 gyda chymorth ariannol ar gyfer gorfodi, yn gweithio ochr yn ochr â chyflawni'r rheoliadau bridio cŵn presennol, ac maent eisoes yn arwain at welliannau parhaol i safonau lles cŵn bach sy'n cael eu bridio yng Nghymru."

Yn y cyfamser ym Mhont-y-clun mae gwaith y staff yn parhau, ac mae ganddyn nhw neges i bawb sy'n meddwl am brynu ci bach.

"Mae canolfannau fel hyn ar draws Cymru yn llawn o anifeiliaid sy'n chwilio am gartref newydd, am ail gyfle," meddai Chris O'Brien.

"'Dan ni wastad yn erfyn ar bobl i fabwysiadu yn lle prynu, a helpu ci sy'n aml iawn wedi cael cychwyn mor galed i fywyd."

Pynciau cysylltiedig