Powys: Her gyfreithiol dros gau ysgol fach wedi methu

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Llanfihangel RhydieithonFfynhonnell y llun, Google

Mae her gyfreithiol ynghylch penderfyniad i gau ysgol fach ym Mhowys wedi methu.

Cafodd penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon ei wneud ym mis Chwefror eleni.

Ddydd Llun, cafodd y cais am adolygiad barnwrol i herio'r penderfyniad ei wrthod.

Mae'r ysgol yn un o nifer ym Mhowys sy'n rhan o gynllun i'w cau. Fe roddodd y cyngor sêl bendith i gau Ysgol Llanbedr ger Crucywel ym mis Mawrth.

Ond yn ôl arweinydd Cyngor Sir Powys, mae'r Cabinet bellach wedi penderfynu "ailymweld" â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon.

Cafodd y cais am adolygiad ei ystyried gan yr Uchel Lys yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl y barnwr Mrs Ustus Steyn, nid oedd modd cefnogi'r ddadl bod y cyngor wedi "methu â chymhwyso'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig sy'n ofynnol yn ôl Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru".

Nid oedd yn cytuno chwaith gyda honiad bod y cyngor wedi "methu ag ystyried yn gydwybodol, ffederasiwn ag Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Llanelwedd".

'Ailymweld â'r cynnig'

Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys y byddai'r newyddion yn "siomedig" i'r gymuned, ac y byddai'r cabinet yn ail-edrych ar y cynnig.

"Mae'r dyfarniad yn dangos fod y Cyngor wedi dilyn y gweithdrefnau cywir yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru pan ddaethpwyd i'r penderfyniad yn y lle cyntaf", meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt.

"Fodd bynnag, mae'r Cabinet wedi penderfynu ailymweld â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon am fod angen i ni roi ystyriaeth ofalus i'r goblygiadau ehangach os gaiff y cynnig ei weithredu."

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mawrth, rhoddodd y cyngor sêl bendith i gau ysgol arall yn y sir - Ysgol Llanbedr ger Crucywel

Ychwanegodd y bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad am yr ysgol ar 5 Gorffennaf.

Bydd hefyd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau ar 29 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Ddysgu: "Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei groesawu'n gynnes gan staff y cyngor.

"Yn yr achos hwn roedd yr adolygiad barnwrol ynghylch sut oedd swyddogion wedi gweithredu penderfyniad, ac nid ynghylch y penderfyniad ei hun.

"Rwyf felly'n falch bod y prosesau yr oedd y staff wedi eu dilyn wedi cael eu cadarnhau i fod yn gydsyniol ac y gallant symud ymlaen gyda chynigion eraill yn fwy hyderus."

Pynciau cysylltiedig