Yr Urdd yn newid gwersylloedd haf i gefnogi ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Bydd trefniadau ar gyfer gwersylloedd haf yr Urdd yn newid er mwyn caniatáu i ffoaduriaid o Wcráin aros ar y safleoedd yn hirach.
Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Urdd gynnig lloches i ffoaduriaid hyd at ddechrau gwyliau haf ysgolion ar ddiwedd mis Gorffennaf.
Mae dros 200 o ffoaduriaid - tua hanner ohonyn nhw yn blant bach - yn aros mewn un gwersyll ar hyn o bryd.
Mae plant yn cael y cyfle i aros yng ngwersylloedd preswyl yr Urdd ar gyfer gweithgareddau yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
Cais 'munud olaf'
Nawr, mewn llythyr at rieni, mae'r Urdd wedi dweud ei bod wedi cael cais "munud olaf" gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cyfnod o loches i'r ffoaduriaid tan ddiwedd mis Awst.
Mae'r Urdd wedi cytuno i'r cais, ond yn awyddus i barhau gyda'r gwersylloedd haf.
Er mwyn i hynny ddigwydd fe fydd rhai newidiadau i'r trefniadau er mwyn caniatáu i'r ffoaduriaid aros yn hirach tra'n darparu llety hefyd i'r plant yn y gwersylloedd haf.
Yn y llythyr at rieni plant fydd yn mynychu'r gwersylloedd, mae'r Urdd yn dweud: "Rydym yn hynod awyddus i barhau i gynnal ein Gwersylloedd Haf, ond mewn fformat lletya ychydig yn wahanol trwy gynnig profiad unigryw o aros mewn 'yurt' glampio.
"Allwn eich sicrhau bydd gofal a diogelwch eich plentyn yn flaenoriaeth i ni trwy gydol eu harhosiad, a hyderwn y byddant yn cael Gwersyll Haf i'w gofio."
Bydd pris y gwersyll haf yn gostwng o ganlyniad o £140 y pen i £69.
Mae'r llythyr hefyd yn egluro y bydd "y ddarpariaeth bwyd, gofal a holl weithgareddau'r gwersyll yn parhau fel y cynigiwyd yn wreiddiol".
'Awydd i barhau i gynnig sefydlogrwydd'
Fe ddaeth y ffoaduriaid o Wcráin i'r gwersylloedd fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru fel arch-noddwr.
Y bwriad gwreiddiol oedd eu lletya yn y gwersylloedd fel mesur dros dro cyn iddyn nhw ddod o hyd i gartrefi mwy parhaol.
Erbyn hyn mae'n amlwg bod angen mwy o amser cyn bod modd i'r ffoaduriaid adael gofal y gwersylloedd a symud i leoliadau eraill.
Yn y llythyr at y rhieni mae'r Urdd yn dweud: "Gobeithiwn eich bod yn deall ein hawydd i barhau i gynnig cefnogaeth a sefydlogrwydd i'r ffoaduriaid yn eu hamser o angen mawr."
Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mae canolfannau croeso i ffoaduriaid Wcráin wedi cyrraedd "capasiti llawn".
Dywedodd Jane Hutt y byddai'r Urdd yn "parhau i ddarparu cefnogaeth", a bod canolfan groeso arall wedi agor ddydd Llun.
"Dyw hwn ddim yn newyddion newydd o gwbl, mae hyn amdanom ni'n gweithio dydd ar ôl dydd i weld os yw'r capasiti gennym ni yn ein canolfannau, edrych i weld a allwn agor mwy o ganolfannau croeso, ac wrth gwrs croesawu'r ffaith fod yr Urdd yn gallu parhau i gynnig y gefnogaeth yma tra'n bod yn croesawu ffoaduriaid o Wcráin," meddai.
Gwrthododd Ms Hutt ateb a fyddai Llywodraeth Cymru yn ailddechrau derbyn ceisiadau fisa yng Ngorffennaf ar ôl gohirio'r cynllun yn ystod Mehefin.
Dywedodd eu bod wedi "gorfod aros am ychydig o wythnosau... oherwydd mae ein canolfannau croeso i gyd wedi cyrraedd capasiti llawn," cyn ychwanegu y "bydd mwy o ganolfannau croeso yn agor, wrth gwrs".
Ond dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth na fyddai'r cynllun yn ailddechrau nes y gall pobl adael canolfannau croeso i fynd i gartrefi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2022