Cartrefi gofal Gwynedd i dderbyn hyd at 25% yn fwy o arian
- Cyhoeddwyd
Gallai cartrefi gofal yng Ngwynedd dderbyn hyd at 25% yn fwy o arian am ofalu am bobl, ar ôl i'r cyngor bleidleisio i gynyddu'r ffioedd mae'n eu talu.
Mae galwadau wedi bod ers blynyddoedd gan Fforwm Gofal Cymru am fuddsoddiad tecach i gartrefi yn y gogledd.
Roedd cwynion bod sefydliadau o'r fath yn derbyn mwy o arian yn ne Cymru o'i gymharu â'r gogledd.
Mae Fforwm Gofal Cymru wedi croesawu'r penderfyniad ac yn galw nawr ar awdurdodau lleol ar draws y gogledd ddilyn yr un esiampl.
Tan nawr, mae Cyngor Gwynedd wedi cydweithio gydag awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru wrth osod ffioedd cartrefi gofal.
Ond wrth bleidleisio ddydd Mawrth, fe benderfynodd aelodau'r Cabinet glustnodi £1.6m yn ychwanegol y flwyddyn er mwyn talu am y ffioedd ychwanegol.
Gallai hynny arwain at gynnydd o hyd at 25% mewn cyllid i rai cartrefi.
Yn ymarferol, fe allai cartref gofal sydd â 40 o wlâu dderbyn oddeutu £300,000 yn fwy bob blwyddyn o'i gymharu â sefydliadau tebyg mewn siroedd cyfagos fel Ynys Môn.
O ganlyniad, mi fyddai cost gofal wythnosol i breswylwyr sydd ag anhwylderau yn cynyddu o 19.8% i £780, ac i breswylwyr sy'n derbyn gofal nyrsio yn cynyddu gan 24.7% i £900.
'Rhaniad rhwng de a gogledd'
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru mae'r penderfyniad gan Gyngor Gwynedd yn sicrhau y bydd cartrefi gofal yn y sir yn derbyn cyllid sy'n adlewyrchiad teg o'r "costau sylweddol" sydd wrth gynnal sefydliadau gofal a nyrsio.
Mae'n nhw'n galw nawr ar i awdurdodau lleol eraill wneud yr un peth.
Dywedodd Mary Wimbury, prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru bod y penderfyniad yn un "anferthol o arwyddocaol" gan ei fod "gobeithio yn arwydd o ddiwedd y rhaniad anghyfiawn rhwng rhaniad y de a'r gogledd mewn gofal cymdeithasol".
"Heblaw am Wynedd, mae holl gynghorau eraill gogledd Cymru ar ei hôl hi o ran ffioedd, o'i gymharu ag awdurdodau yn ne ddwyrain Cymru."
Mae siroedd Wrecsam a Chonwy wedi ymrwymo i adolygu'r drefn dros y flwyddyn nesaf.
Ychwanegodd Ms Wimbury fod pwysau ar awdurdodau eraill i wneud yr un newid nawr a bod ffioedd Môn, Dinbych a Wrecsam "mor isel fel bod darparwyr yn gorfod gwrthod preswylwyr".
"Yr oll y gallwn ofyn amdano yw'r gofal gorau posib i'r bobl fwyaf bregus yng Nghymru.
"Mae Gwynedd wedi cydnabod ei gyfrifoldebau cyfreithiol ac mae hi nawr i fyny i'r awdurdodau eraill i roi'r gorau i weithredu'n anghyfreithlon a gosod ffioedd sy'n adlewyrchu gwir gost gofal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2021