Senedd fwy: 'Pryderon difrifol' tri undeb am gynlluniau

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae gan y Senedd 60 o aelodau, a byddai'r cynigion yn codi hynny i 96

Mae tri undeb sy'n cefnogi Llafur wedi mynegi "pryderon difrifol" am gynigion ar gyfer 36 yn fwy o wleidyddion yn y Senedd.

Mae GMB, Community ac Usdaw yn dweud y byddai'r cynigion, gyda chefnogaeth Mark Drakeford, yn ei gwneud hi'n "anoddach i sicrhau llywodraeth Lafur Cymru".

Daw cyn cynhadledd Llafur Cymru ddydd Sadwrn i benderfynu a fydd y blaid yn cymeradwyo'r cynllun.

Mae Aelod Llafur o'r Senedd hefyd wedi lleisio pryder am "etholaethau mawr iawn" yn sgil y cynllun, er iddo ddweud nad oedd "unrhyw amheuaeth" y byddai'r blaid yn ei gymeradwyo.

Mae Llafur Cymru wedi cael cais am sylw.

Beth fyddai'n newid?

Ym mis Mai fe gyhoeddodd Llafur a Phlaid Cymru fel rhan o'u cytundeb cydweithredu yn y Senedd eu bod am weld nifer yr Aelodau'n cynyddu.

Byddai'n newid y Senedd o 60 i 96 o aelodau, gan gynrychioli 16 o etholaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r map etholiadol presennol yn edrych yn wahanol iawn os daw'r cynlluniau i rym

Byddai pleidleiswyr yn bwrw un bleidlais dros blaid adeg etholiad, gyda'r pleidiau yn penderfynu ar drefn yr ymgeiswyr y maen nhw'n eu cynnig.

Mae'r ffordd y byddai'r system yn gweithio wedi ysgogi pryder gan grwpiau'r blaid Lafur yn Llanelli a'r Rhondda, lle dywedodd yr AS Chris Bryant y byddai'n gadael gwleidyddion "yn llai cysylltiedig â phleidleiswyr".

Ddydd Sadwrn fe fydd cynrychiolwyr o grwpiau Llafur Cymru a chyrff cysylltiedig fel undebau llafur yn pleidleisio a ddylen nhw gefnogi.

Mae gan Mark Drakeford gefnogaeth sylweddol gan y ddau undeb mwyaf yng Nghymru, Unite ac Unsain, y disgwylir iddynt gefnogi'r cynigion.

Ond mewn llythyr fe wnaeth y GMB, undeb y gweithwyr dur Community ac Usdaw, sy'n canolbwyntio ar y sector manwerthu, amlinellu nad oedden nhw "yn gallu cefnogi'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno" yn y ffurf bresennol.

'Anoddach i sicrhau llywodraeth Lafur'

"Er ein bod yn awyddus i sicrhau bod y Senedd yn cael yr offer angenrheidiol i graffu ar weinidogion a datblygu cyfreithiau i Gymru, credwn fod diffyg amser i'r cynigion gael eu trafod a'u craffu o fewn y blaid, yr undebau llafur a'r mudiadau cysylltiedig", meddai'r undebau.

"Yn benodol, rydym yn pryderu am unrhyw newidiadau i system etholiadol y Senedd a fyddai yn ei gwneud yn anoddach i sicrhau llywodraeth Lafur Cymru ac a fyddai'n gwneud anghymwynas â gweithwyr, undebwyr llafur a dinasyddion Cymru."

Ychwanegodd fod gan yr undebau "bryderon difrifol" y bydd etholaethau mwy yn erydu'r cysylltiad rhwng Aelodau o'r Senedd a phleidiau lleol.

Wedi'i ysgrifennu at grwpiau llafur yn yr etholaethau (CLPs) ganol mis Mehefin, roedd y llythyr yn rhoi templed o gynnig i'w drafod, yn gofyn iddynt lobïo'r blaid i ohirio pleidlais y gynhadledd ac i gynnal "ymgynghoriad cynhwysfawr".

Clywodd BBC Cymru fod Pwyllgor Gwaith Cymru wedi gwrthod y cynnig i oedi.

Arwyddwyd y llythyr gan Tom Hoyles o GMB, Rob Edwards o Community a Nick Ireland o Usdaw.

Os yw cynhadledd arbennig Llafur Cymru yn cymeradwyo'r cynlluniau diwygio, byddai angen hefyd, cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym, iddynt gael eu cymeradwyo gan ddwy ran o dair o'r Senedd.

Rhyngddynt byddai gan Lafur a Phlaid Cymru ddigon o bleidleisiau.

'Democratiaeth leol yn galw am ymgeiswyr lleol'

Mae Mike Hedges, yr Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Abertawe, hefyd wedi lleisio pryderon am "etholaethau mawr iawn" yn sgil y cynlluniau.

Ond dywedodd ei fod yn disgwyl i'r gynhadledd "gefnogi'r newid", a bod "dim amheuaeth" y byddai'r blaid yn ei gymeradwyo.

Dywedodd y byddai undebau mawr a thri chwarter y grwpiau llafur yn yr etholaethau yn cefnogi'r cynllun.

Fe wnaeth grwp Llafur etholaeth Dwyrain Abertawe bleidleisio yn erbyn y cynllun, medd Mr Hedges, er nad oedd ef yn bresennol yn y cyfarfod.

Mae grwpiau llafur y Rhondda a Llanelli hefyd wedi gwrthwynebu'r cynllun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Hedges, sy'n eistedd ar feinciau cefn y blaid yn y Senedd, ei fod yn cefnogi'r egwyddor o Senedd fwy a chael cydbwysedd rhywedd.

Ond fe ddywedodd wrth BBC Cymru: "Fe fydd yr etholaethau hyn yn fawr iawn, ac ychydig iawn o gymunedau o ddiddordeb fydd ganddynt.

"Mae democratiaeth leol yn galw am ymgeiswyr lleol sy'n byw yn yr ardal leol."

Ychwanegodd: "Fe fydd cael yr etholaethau mawr iawn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ymgeiswyr a chynrychiolwyr fod yn agos i bleidleiswyr ar hyd ardal mor fawr."

Cwotâu rhywedd

O dan y newidiadau byddai pleidiau yn destun cwotâu rhywedd, mewn ymgais i annog gwell cynrychiolaeth o fenywod.

Dywedodd Steve Belcher o UNSAIN Cymru fod yr undeb "yn credu y dylai system D'hondt o ethol Aelodau o'r Senedd" - y system fathemategol fydd yn cael ei defnyddio i ethol aelodau'r Senedd - "fod yn destun adolygiad o bryd i'w gilydd".

Ond ychwanegodd y dylai'r diwygiadau "gael eu cofleidio fel ffordd o sicrhau bod y Senedd ehangach newydd nid yn unig yn cwrdd â chydraddoldeb rhywedd ond bod amrywiaeth ledled Cymru yn cael ei adlewyrchu yn aelodaeth y Senedd".