Fideo o ddyn yn cael ei drywanu wedi ei rannu ar Snapchat

  • Cyhoeddwyd
Kyle Patrick WalleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kyle Walley yn dilyn digwyddiad yn ei gartref ym mis Gorffennaf

Cafodd dyn ei drywanu'n ei galon wrth baratoi i wylio pêl droed ar y teledu ym mis Gorffennaf diwethaf, clywodd llys ddydd Llun wrth i'r achos agor.

Bu farw Kyle Walley,19, ar lawr cegin ei gartref yn Rhosymedre, Wrecsam, cyn rownd derfynol Pencampwriaeth yr Euros y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug i fideo o'r ymosodiad gael ei roi ar gyfrwng cymdeithasol Snapchat.

Mae Mark Harley Jones - sydd hefyd yn 19 - wedi cyfaddef lladd Mr Walley ond mae'n gwadu ei lofruddio.

Wrth agor yr achos, dywedodd John Philpotts bod Kyle Walley wedi bwriadu gwylio'r rownd derfynol ar 11 Gorffennaf y llynedd gyda'i ffrind, Mark Jones.

Fe gyrhaeddodd fflat Mr Walley tua amser cinio ond erbyn 16:47, cyn y gêm, roedd e wedi marw wedi iddo gael ei drywanu nifer o weithiau.

Cafodd fideos o gyfrif Snapchat Mark Jones eu dangos i'r rheithgor. Ynddynt, roedd yn yfed alcohol yn fflat Mr Walley ac yn gwneud "ystumiau trywanu" tra'n dal cyllell pan oedd cefn Mr Walley wedi troi.

Fe welodd y llys fideos a gafodd eu cyhoeddi ar-lein hefyd, gan gynnwys un o Mr Walley yn gorwedd yn farw tra bod Mark Jones yn ei gicio.

Roedd fideo arall yn dangos Mark Jones yn dal ei ddwylo - oedd â gwaed arnynt - i'r camera gan ddweud ei fod wedi trywanu Kyle Walley.

Fe glywodd y rheithgor bod Mr Walley ar y ffôn gyda'i ffrind, Attia Jones, ar adeg yr ymosodiad a chlywodd y ffrae rhwng y ddau ddyn.

Dywedodd bod Mr Walley yn gweiddi "rho'r gyllell i lawr" ac yna Mark Jones yn gweiddi "fy ADHD yw e".

'Bwriad yn glir'

Yn dilyn marwolaeth Mr Walley, cafodd fideos eu darganfod ar ei ffôn oedd wedi cael eu danfon gan Mark Jones ddiwrnod cyn yr ymosodiad.

Ynddynt, roedd yn dweud "dw i'n mynd i dy ladd di" a "dw i'n mynd i drywanu dy glust i ffwrdd 'fory".

Yn ôl yr erlyniad, fe allai Mark Jones ddim fod wedi gwneud ei fwriadau'n gliriach.

Dywedodd ffrind arall i Kyle Walley ei fod wedi derbyn neges wrtho ar y prynhawn y bu farw yn dweud bod Mark Jones yn ymddwyn yn fygythiol tuag ato gyda chyllell a sgriwdreifer.

Fe ffoniodd yr heddlu, ac yna ambiwlans, ond doedd dim modd achub Mr Walley.

Clywodd y rheithgor bod dyn ifanc wedi gweld braich a llaw oedd yn dal cyllell yn taro ffenest y fflat a chlywodd weiddi.

Yna dywedodd ei fod wedi gweld Mark Jones yn gadael y fflat gyda gwaed arno. Dywedodd Mark Jones wrth y dyn ifanc ei fod wedi "ei drywanu" ond bod "angen iddo redeg i ffwrdd".

Cafodd Mark Jones ei arestio ger Wrecsam a'i gludo i ysbyty Maelor am driniaeth ar friw ar ei law.

Dywedodd yr erlyniad i Mark Jones ddweud yn yr ysbyty fod "ei ffrind" wedi trio cysgu gyda merch 13 oed ac mai dyna pam yr ymosododd ar Mr Walley.

Fe ddywedodd hefyd bod Kyle Walley wedi ei drywanu gyda sgriwdreifer ar ôl ffrae.

Yn ôl Gordon Cole QC - oedd yn siarad ar ran y diffynnydd - mae Mark Jones yn derbyn ei fod yn gyfrifol am farwolaeth Mr Walley.

Ond dywedodd bod Mr Jones sydd yn byw â ADHD, PTSD ac anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog, yn gwadu llofruddio.

Dywedodd wrth y rheithgor y byddant yn gweld tystiolaeth yn ystod yr achos sy'n dangos iechyd meddwl Mark Jones yn dirywio cyn yr ymosodiad, a'i fod wedi bod yn "clywed lleisiau amhleserus" a "lluniau meddyliol amhleserus".

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig