Urddo Mark Drakeford i'r Orsedd ar ran gweithwyr allweddol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi bod yn Brif Weinidog Cymru ers 2018

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cael ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron fis Awst.

Dywedodd Gorsedd Cymru ei fod yn cael ei urddo "ar ran holl weithwyr allweddol Cymru".

Dywedodd Mr Drakeford ei bod yn "fraint anhygoel i mi dderbyn yr anrhydedd yma ar ran holl weithwyr allweddol Cymru".

"Fe wnaethon nhw gymaint i'n cynorthwyo ni gyd yn ystod y pandemig," meddai.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n diolch iddyn nhw am eu gwaith arwrol yn ystod cyfnod caled iawn i bawb."

'Cyfraniad gweithwyr allweddol yn aruthrol'

Daw'r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Rheng Flaen y GIG, sef 5 Gorffennaf.

Ychwanegodd Archdderwydd Gorsedd Cymru, Myrddin ap Dafydd: "Mae cyfraniad ein gweithwyr allweddol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn aruthrol, ac rydyn ni yng Ngorsedd Cymru am ddangos ein gwerthfawrogiad a nodi ein diolch i bob un fu'n gweithio mor galed dros gyfnod y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Orsedd eisoes wedi cyhoeddi enwau'r bobl eraill fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Nhregaron

"Mae'n bleser felly cyhoeddi bod Prif Weinidog ein gwlad, Mark Drakeford, wedi derbyn yr anrhydedd i ymuno â Gorsedd Cymru ar ran ein holl weithwyr allweddol a'n gwirfoddolwyr.

"Wrth groesawu'r Prif Weinidog i'n Gorsedd, byddwn yn diolch iddo am ei arweiniad urddasol a gofalus drwy flynyddoedd anodd Covid-19 a'r cyfnodau clo, gan dorri llwybr addas i anghenion a phryderon pobl ein gwlad."

'Siomi gweithwyr allweddol'

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig dylai'r fraint fod wedi mynd i "gynrychiolydd go iawn" ar ran gweithwyr allweddol.

Dywedodd Tom Giffard AS, llefarydd y blaid ar ddiwylliant, bod record y prif weinidog "yn ddim byd i'w ddathlu o ystyried mai Cymru sydd â'r gyfradd marwolaethau Covid uchaf o wledydd y DU".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Aelod Senedd Ceidwadol, Tom Giffard, yn cwestiynu penderfyniad yr Orsedd.

Dywedodd ei fod yn "synnu'n fawr fod y symudiad gwleidyddol amlwg hwn yn digwydd yn yr Eisteddfod".

"Mae'r Eisteddfod yn sefydliad diwylliannol sy'n cael ei barchu a'i garu yn genedlaethol a bydd ei noddwyr yn siomedig, yn lle canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg a'i diwylliant, y bydd y Prif Weinidog yn cael ei anrhydeddu gan yr Orsedd am resymau gwleidyddol.

"Os ydyn nhw wir eisiau anrhydeddu'r gweision cyhoeddus a wnaeth gael ni drwy'r pandemig, efallai y dylen nhw eu hanrhydeddu'n uniongyrchol neu, o leiaf, cynrychiolydd anwleidyddol - byddai hyn yn fwy priodol na dewis pryfoclyd y Prif Weinidog sy'n siomi gweithwyr allweddol."

Cyfle cyntaf i urddo

Bydd y Prif Weinidog yn cael ei urddo i Orsedd Cymru fore Gwener, 5 Awst ar Faes yr Eisteddfod.

Mae'r Orsedd eisoes wedi cyhoeddi enwau'r bobl eraill fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cafodd y rhestr ei chyhoeddi yn haf 2020, ond oherwydd y pandemig, eleni yw'r cyfle cyntaf i'w hurddo.

Mae rhestrau llawn o'r anrhydeddau eleni wedi'u rhannu'n ddaearyddol yma: