Sheku Kanneh-Mason yn cyflwyno Myfanwy i'w Nain o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Sheku Kanneh-Mason yn chwarae Myfanwy ar lannau Llyn y Fan FachFfynhonnell y llun, 2022 Universal Music Operations Limited
Disgrifiad o’r llun,

"Fe wnes i dreulio llawer o fy mhlentyndod yng Nghymru a roedd llawer iawn o'r amser hynny gyda Nain,"meddai Sheku Kanneh-Mason.

Mae fersiwn o'r gân Myfanwy gan y sielydd Sheku Kanneh-Mason wedi mynd yn feiral a'r cerddor ifanc wedi cyflwyno'r gân i'w nain, Megan, Cymraes o Gil-y-Coed ger Casnewydd.

Daeth Sheku yn enwog fel enillydd cerddor ifanc y BBC yn 2016 ac am chwarae'r sielo ym mhriodas Meghan a Harry.

Meddai Sheku: "Dyma Myfanwy, y sengl gyntaf o fy albwm newydd Song. Fe wnes i dreulio llawer o fy mhlentyndod yng Nghymru a roedd llawer iawn o'r amser hynny gyda Nain, felly mae hon iddi hi.

"Mae'n gân dwi wedi ei gwybod ers amser hir, fel chwarter Cymro. Roeddwn i wastad yn teimo ei bod yn gân hardd iawn felly wnes i wneud trefniant i'r sielo a wnes i wir fwynhau ei chwarae," eglura Sheku sy'n 23 oed o Nottingham ac yn un o saith o blant cerddorol iawn.

Ffynhonnell y llun, Sheku Kanneh-Mason
Disgrifiad o’r llun,

Sheku a'i Nain (chwith); Sheku, ei chwiorydd a'i Nain, Megan o Gil-y-Coed ger Casnewydd

Paham mae dicter?

Â'i halaw hiraethus wedi ei chyfansoddi gan Joseph Parry yn yr 19eg ganrif, a'i geiriau serch yn perthyn i'r bardd Mynyddog, mae Myfanwy wedi ei hanfarwoli gan lu o gorau meibion dros y blynyddoedd, gan gantorion fel Cerys Matthews, Ryan Davies a Bryn Terfel, a rŵan ar y sielo gan Sheku.

Eglura Sheku: "Mae'r ymdeimlad o hiraeth yn yr alaw yn un gref iawn, mae'r hiraeth yn cyfathrebu mor gryf yn egwyl yr alaw. Rydach chi wir yn gallu arbrofi a chwarae gyda'r hiraeth yn y mannau hynny.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan ShekuKannehMasonVEVO

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan ShekuKannehMasonVEVO

"Ar gyfer y fideo, wnes i chwarae'r gân ar lannau Llyn y Fan Fach, sy'n lle mor brydferth. Dwi wedi bod yno sawl gwaith yn ystod fy mhlentyndod felly roedd yn braf mynd nôl."

Er mai Myfanwy yw'r unig gân Gymraeg ar ei albwm a fydd yn cael ei rhyddhau ar 9 Medi, mae'n sicr nad dyma'r olaf.

Ond cyn hynny, un o'r pethau mwyaf mae Sheku yn edrych ymlaen ato yw perfformio Myfanwy o flaen ei nain, Megan "sy'n browd iawn o'i hŵyr" mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant ar 14 Gorffennaf.

Mae mam Sheku, yr academydd Dr Kadiatu Kanneh-Mason wedi trydar, dolen allanol am ei y gân sy'n ei hatgoffa o ran o'i phlentydod yng Nghymru.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Dr Kadiatu Kanneh-Mason

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Dr Kadiatu Kanneh-Mason

Cafodd Dr Kadiatu Kanneh ei magu yng Nghymru a Sierra Leone, cartref ei thad.

Mae hi wedi ysgrifennu llyfr am fagu saith o blant cerddorol a thalentog, House of Music: Raising the Kanneh-Masons.

Mae'r saith brawd a chwaer i gyd yn chwarae naill ai'r ffidil, y piano neu'r soddgrwth (neu sielo) ac wedi ennill sawl gwobr ac wedi rhyddhau'r albwm Carnival ar label clasurol Decca.

Llundeiniwr o dras Antiugaidd yw eu tad, Stuart Mason, ac roedd ef a'i wraig yn chwarae offerynnau fel plant ond heb ddilyn cerddoriaeth fel gyrfa.

Bu modryb i Sheku, Isata Kanneh, yn siarad am ddysgu Cymraeg yn ystod Wythnos Dathlu Dysgwyr Radio Cymru yn 2020.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig