Plaid Cymru yn ymgynghori er mwyn 'gweithio'n glyfrach'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru yn gofyn wrth ei haelodau am eu syniadau i helpu'r blaid i "weithio'n graff ac yn glyfrach" yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys annibyniaeth, Ewrop, nodau etholiadol a chydweithrediad gwleidyddol.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wrth yr aelodau "nid edrych i mewn yw pwrpas y drafodaeth hon, ond edrych ymlaen", a gosod strategaeth tymor hwy.
Daeth y blaid yn drydydd yn etholiad Senedd 2021, ond enillodd reolaeth ar dri chyngor ychwanegol yn etholiadau lleol mis Mai.
Mae'r blaid wedi dod i gytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o bolisïau gan gynnwys ehangu prydau ysgol am ddim, Senedd fwy ac ailbrisio treth y cyngor.
Bydd nod allweddol y blaid o annibyniaeth i Gymru yn rhan o'r drafodaeth, a gofynnir am farn yr aelodau ar faterion fel amserlenni a llwybrau effeithiol i gyrraedd yno.
Gyda newidiadau yn yr arfaeth ar gyfer etholaethau Senedd y DU a Chymru cyn yr etholiadau nesaf, bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am newidiadau i strwythur trefniadol y blaid.
'Perthnasol'
Wrth lansio'r ymgynghoriad dywedodd Adam Price: "Ein aelodau llawr gwlad sy'n cadw ni'n driw i'n gwerthoedd a'n gweledigaeth, sy'n ein gwneud ni'n radical a pherthnasol, sy'n ein gwneud ni'r hyn ydym ni, nid yn unig Plaid Cymru ond plaid Cymru i bawb.
"Dyna pam y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio mewnbwn a syniadau aelodau ar yr ystod ehangaf o faterion a gyflwynwyd erioed i'n aelodau."
Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd dros yr haf ac yn cael ei drafod yng nghynhadledd hydref y blaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021