Banciau bwyd: Mwy o alw ond llai o roddion
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder bod banciau bwyd ar draws Cymru yn wynebu prinder cyflenwadau oherwydd cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau wrth i gostau byw godi.
Yn ôl elusen y Trussell Trust, sydd â rhwydwaith o dros 1,400 o fanciau bwyd ar draws Prydain, mae nifer o'u canolfannau yn wynebu gostyngiad mewn rhoddion.
Yn ôl un banc bwyd yng Nghaernarfon maen nhw wrthi'n ystyried newid eu horiau agor i fod yn hwyrach, wrth i fwy o bobl mewn gwaith alw am eu gwasanaethau.
Mae'r Trussell Trust wedi galw am "ymrwymiad hir dymor" er mwyn cryfhau diogelwch cymdeithasol.
Silffoedd 'bron yn wag'
Mae Banc Bwyd Conwy, sydd wedi ei leoli yng nghanol Bae Colwyn, wedi bod yn darparu rhoddion ers dros saith mlynedd yn yr ardal.
Ond dros yr wythnosau diwethaf fe ostyngodd cyflenwadau i'w pwynt isaf erioed gyda'r silffoedd bron yn wag.
Wedi apêl ar-lein fe ddaeth nifer ynghyd gyda rhoddion i'r banc bwyd.
Ond wrth i gostau byw effeithio ar bawb, mae cadw'r llif cyson o roddion yn anodd.
"Mi oedd o'n ofnadwy, yn ddinistriol," meddai Nancy Hughes, cydlynydd Banc Bwyd Conwy.
"'Di o 'rioed 'di bod mor isel â hynny. Mi oedd y silffoedd yn wag ac yr eiliad oedd y rhoddion yn dod i mewn, mi oedd y silffoedd yn wag eto oherwydd ein bod ni mor brysur."
Rhwng 2015/16 a 2020/21 cynyddodd defnydd banciau bwyd yn gyson ar draws Cymru.
Er i ffigyrau ddangos gostyngiad yn 2021/22, mae'r elusen yn nodi fod hynny'n debygol o fod oherwydd sgil effaith y pandemig a bod nifer o gynlluniau darparu bwyd am ddim wedi dechrau mewn cymunedau.
Wrth i filiau ynni, trydan a thanwydd gynyddu mae banciau bwyd yn brysurach nag erioed.
Yn ôl un o wirfoddolwyr Banc Bwyd Conwy, Sally Mathiesen, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn "wallgof".
"Yr eiliad mae'r silffoedd yn llawn, maen nhw'n wag eto," meddai.
"Y peth anoddaf ydy canfod y bwyd i lenwi'r bagiau pan ma' stoc mor isel."
'Helpu mwy o bobl sydd â swyddi'
Mae'r heriau yng Nghonwy yn amlwg yng Ngwynedd hefyd, gyda Banc Bwyd Arfon yng Nghaernarfon yn dweud eu bod nhw hefyd yn derbyn llai o roddion.
"Yn ystod y pandemig welson ni lot o bobl yn rhoi," meddai Tray McCain o Fanc Bwyd Arfon.
"Ond ers inni gael y costau yn mynd i fyny 'dan ni'n cael llai o roddion ac oherwydd hynny mae'n stoc ni yn mynd i lawr.
"Be' sydd am ddigwydd? 'Da ni angen mwy ond mae pobl angen mwy hefyd."
Mae Mr McCain hefyd yn dweud eu bod yn darparu mwy o becynnau bwyd i deuluoedd sydd mewn gwaith ac oherwydd hynny yn edrych ar ehangu yr oriau agor i helpu teuluoedd o'r fath.
"Mae lot o bobl wedi bod mewn sefyllfa gwael ers talwm.
"Dan ni'n gweld pobl yn dod mewn oherwydd eu bod nhw wedi cael bil mawr a does gyno nhw ddim byd drosodd - dyna pam 'dan ni yma ond 'dan ni'n gweld mwy."
'Angen cadw cyflenwadau yn ôl'
Mae gan y Trussell Trust rwydwaith o dros 1,400 o fanciau bwyd ac mae'r Rhwydwaith Annibynnol o Nawdd Bwyd (IFAN) yn cydnabod o leiaf 1,172 o ddarparwyr eraill ar draws y wlad.
Gyda disgwyl i filiau ynni a thanwydd gynyddu eto yn yr Hydref, mae yna bryder y gallai banciau bwyd wynebu her enfawr i helpu pawb.
Mae Banc Bwyd Arfon eisoes yn dweud eu bod yn cyfyngu ar y nifer a'r math o eitemau sy'n mynd i bawb, gan flaenoriaethu teuluoedd sydd â phlant.
Yn ôl llefarydd ar ran y Trussell Trust mae prinder cyflenwadau yn broblem ar draws y DU.
"Rydym yn gofyn ar ganolfannau ein rhwydwaith i gadw rhai cyflenwadau yn ôl nes bod wir angen yn ddiweddarach eleni."
Mae'r elusen wedi diolch i Lywodraeth Cymru a'r DU am yr ymdrechion wrth leddfu effaith costau byw ond hefyd yn galw am ymrwymiad clir i ddod â'r heriau hyn i ben.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2021