Dathlu degawd o elusen Aloud

  • Cyhoeddwyd
OBAFfynhonnell y llun, ElusenAloud
Disgrifiad o’r llun,

Only Boys Aloud yn un o'r cyngherddau i ddathlu 10 mlwyddiant Aloud

Yn 2008 ddaeth y côr Only Men Aloud i amlygrwydd gan ennill cystadleuaeth Last Choir Standing ar y BBC. Sefydlwyd y côr yn 2000 ond wedi eu buddugoliaeth yn y gystadleuaeth deledu cynyddodd poblogrwydd y côr, ac aethant ymlaen i deithio'r byd a chanu o flaen miloedd ar filoedd o bobl.

Wrth i boblogrwydd Only Men Aloud dyfu fe sefydlwyd canghennau eraill o'r teulu 'Aloud'. Ar gyfer Eisteddfod Glyn Ebwy yn 2010 roedd prosiect gan Tim Rhys Evans, arweinydd Only Men Aloud ar y pryd, i roi'r cyfle i fechgyn ifanc ganu mewn corau. Yn dilyn llwyddiant y prosiect sefydlwyd rhwydwaith ar gyfer corau bechgyn - Only Boys Aloud.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, yn 2012, cafodd elusen Aloud ei sefydlu. Prif Weithredwr yr elusen yw Carys Wynne Morgan.

"Amcan yr elusen yw i drawsnewid bywydau drwy rym cân, a gwneud hynny drwy sefydlu prosiectau mewn cymunedau ar gyfer pobl ifanc i ganu. Mae 'na dair prosiect craidd: Only Boys Aloud sydd efo 13 côr dros Gymru - fe wnaethon ni ymestyn i'r gorllewin llynedd, ar ôl ymestyn i'r gogledd yn 2015, felly rydyn ni dros Gymru bellach, sy'n hyfryd."

Ffynhonnell y llun, Elusenaloud
Disgrifiad o’r llun,

Only Kids Aloud yn ymarfer

"Mae'r corau cymysg Only Kids Aloud ar gyfer plant rhwng wyth a 12, a dros y flwyddyn ddiwethaf ni wedi bod yn rhedeg peilot i ferched yng Nghaerdydd - Merched Aloud Girls." (Mae Aloud Girls yn cael eu henwi fel hyn yn lle bod dryswch rhyngddynt a'r band pop adnabyddus, Girls Aloud).

Mae llwyddiant ac enw da Aloud yn golygu bod cannoedd o blant bellach wedi ymuno a'r corau.

"Mae tua 400 o bobl ifanc yn canu gyda ni; dros 200 yn canu gyda ni yn wythnosol yn corau bechgyn, ac eraill yn y corau cymysg a'r corau merched."

Ffynhonnell y llun, ElusenAloud
Disgrifiad o’r llun,

Prosiect Côr Aloud Girls Fitzalan yng Nghaerdydd gyda Amy Wadge, sy'n llysgennad i'r elusen

Mae oedran y bechgyn yn y corau Only Boys Aloud yn mynd o 11 i 20, y corau ieuenctid yn wyth i 12, a'r corau merched yn 11 i 17 oed.

Datblygu gyrfaoedd mewn cerddoriaeth

Mae nifer o blant a oedd yn canu yn y corau Aloud wedi mynd 'mlaen i ddatblygu gyrfaoedd drwy ganu a pherfformio.

"Mae 'na lot o hanes gennyn ni o fechgyn sydd wedi bod yn rhan o Only Boys Aloud yn mynd 'mlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus ym myd y celfyddydau - mae 'na bobl sy'n canu yn y West End heddiw oedd yn rhan o Only Boys Aloud 10 mlynedd yn ôl, ac mae eraill sydd bellach yn diwtoriaid eu hunain."

Ffynhonnell y llun, Elusen aloud
Disgrifiad o’r llun,

Côr Only Boys Aloud yng ngorllewin Cymru yn ymarfer

Mae gan elusen Aloud nifer o staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio ar yr ochr weinyddol a'r creadigol. Craig Yates yw cyfarwyddwr creadigol Aloud:

"Wrth i'r corau a'r niferoedd dyfu roedd rhaid cymryd pethau mwy o ddifri a sefydlu elusen gofrestredig Aloud - i redeg corau Only Boys Aloud, Kids, a Girls. Mae 'na dal gysylltiad rhwng Only Men Aloud a'r corau iau da ni'n ei reoli, ond mae nhw'n gyrff cwbl ar wahân.

"Dwi'n goruchwylio'r ochr greadigol o'r corau Only Boys Aloud, Only Kids Aloud ac o Aloud Girls."

Ffynhonnell y llun, Aloud
Disgrifiad o’r llun,

Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol Aloud

"Dydd i ddydd dwi'n edrych ar ôl y staff - ry'n ni'n gweithio gyda lot o staff freelance, amserlennu ymarferion a chynnal hyfforddiant ar gyfer hynny, y caneuon, unrhyw brosiectau fel recordio albwm, a cynllunio cyngherddau. Mae wedi bod yn chwe mis hynod brysur, ond ma'n grêt, dwi'n mwynhau."

Perfformio yn Neuadd Dewi Sant a'r Rhyl

I ddathlu 10 mlwyddiant elusen Aloud roedd dau gyngerdd yn ddiweddar - un yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac un yn Y Rhyl - dyma oedd y tro cynta' i holl gorau Aloud ddod at ei gilydd i berfformio.

"Roedd e'n noson arbennig ac emosiynol iawn. Doedden ni heb berfformio ers amser maith oherwydd Covid-19. Roedden ni'n ymarfer yn rhithiol, ond doedden ni methu mynd mewn i ysgolion a methu recriwtio."

Ffynhonnell y llun, ElusenAloud
Disgrifiad o’r llun,

Only Kids Aloud yn perfformio yn y cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant.

"Dwi'n mynd i'r gorllewin a'r gogledd dipyn efo fy ngwaith, ac mae'n dda cael gweld y corau ma'n datblygu ledled Cymru ac yn perfformio."

Cysylltiadau â Llydaw a Japan

"Da ni'n mynd a grŵp o 25 o fechgyn ein academi i Lydaw ar gyfer y Gŵyl Geltaidd mis Awst. Mae 'na wastad cynlluniau i geisio mynd a'r corau dramor, ond gyda gymaint o aelodau mae'n gallu bod yn ofnadwy o ddrud.

"Mae ganddon ni gysylltiad neis gyda Llywodraeth Japan ar y funud. 'Nathon ni brosiect efo nhw ble roedden ni'n dysgu Calon Lân i bedwar côr yn Japan, ac oedden nhw'n canu'r gân gyda ni yn rhithiol. Ry'n i'n trafod gyda nhw i ddatblygu partneriaeth am dair blynedd arall, gyda'r gobaith y bydd ein corau ni'n mynd allan yno, ac yna nhw'n dod nôl yma - dyna'r gobaith!

"Ry'n ni am berfformio yn Nhregaron yn yr Eisteddfod, ac oedden ni yn yr Urdd hefyd, felly ry'n ni'n gwneud yn siŵr bo ni'n cadw at ein gwreiddiau Cymreig, achos mae hynny mor bwysig i ni."

Ffynhonnell y llun, Aloud
Disgrifiad o’r llun,

Only Kids Aloud yn ymarfer

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig