Y Sioe Fawr: Paratoi am ail ddiwrnod wedi dechrau llwyddiannus

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arddangos y gwartheg yn y gwres ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun,

Arddangos y gwartheg yn y gwres ddydd Llun

Mae trefnwyr y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn dweud bod yr addasiadau a gafodd eu gwneud ar gyfer y tywydd poeth eithriadol yn llwyddiant ar y diwrnod cyntaf.

Cafodd llefydd cysgodi newydd eu gosod ar y maes ynghyd â phwyntiau dŵr a system awyru newydd yn siediau'r anifeiliaid.

Yn ôl trefnwyr y Sioe, roedd pobl wedi ymateb yn dda i'r cynghorion gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r rhybudd ambr am wres eithriadol yn parhau am yr ail ddiwrnod ddydd Mawrth, ar ôl i'r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru o 37.1C gael ei gofnodi ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Garry Owen

"Oedd y rhybuddion mewn lle ac oeddan ni wedi rhoi pethe ar eu cyfer nhw felly mi a'th hi yn syndod o dda, a dweud y gwir," meddai Is-gadeirydd Cyngor y Sioe, Alwyn Rees ar raglen Dros Frecwast.

"Pan ma' rhywun heb neud rhywbeth am ddwy flynedd mae' yna 'chydig o nerfusrwydd ond ar ôl i'r giatia' agor ar y dydd Llun ma' petha'n dod yn ôl i'w le."

Gwres uchel yn effeithio ar y niferoedd

Does dim cynlluniau i gyflwyno unrhyw newidiadau ychwanegol ddydd Mawrth, dywedodd Cadeirydd y Sioe.

Ond, dywedodd John Davies eu bod yn "adolygu y sefyllfa yn gyson rhag ofn y bydd angen newidiadau".

Dywedodd Mr Davies fod ychydig yn llai o bobl na'r arfer ar y maes ar y diwrnod cyntaf ond dywedodd eu bod yn disgwyl hynny oherwydd y gwres uchel a niferoedd uchel o achosion Covid yng Nghymru.

Maen nhw'n rhagweld y bydd mwy o ymwelwyr yn dod i'r Sioe ddydd Mercher a dydd Iau gan fod gwerthiant tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y dyddiau yna yn well.

Pynciau cysylltiedig