Pum munud gydag Osian Owen
- Cyhoeddwyd
Yn wreiddiol o'r Felinheli, fe wnaeth Osian Owen ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2018 a'r brif wobr farddoniaeth yn Eisteddfod-T yn 2020.
Mae wedi cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi,Y Lôn Hir Iawn, a thrwy gydol Awst fo ydi Bardd y Mis Radio Cymru.
O'r Felinheli yn wreiddiol, rydych chi bellach yn byw ychydig i lawr y Fenai yn Twthill, Caernarfon. Mae digon o gymeriadau wedi byw yn y dref dros y canrifoedd, efo pwy fyddech chi'n hoffi mynd am beint neu baned?
Mae rhai o atgofion cynhesaf fy mhlentyndod yn cynnwys dal y bws o'r Felinheli i Gaernarfon efo Nain Bonc ar brynhawniau Sadwrn. Mi fyddwn i wrth fy modd yn taro draw i'r Bell Tower Café un waith eto yn ei chwmni.
Mae unrhyw un sy'n cofio Nain Bonc (Agnes Owen) yn gwybod ei bod hi'n rêl cymêr ac mi oedd 'na lot o hwyl i'w gael yn ei chwmni.
Ond mi fyddai'n anodd gwrthod peint yng nghwmni T. Gwynn Jones hefyd, y bardd a fu'n byw yng Nghaernarfon ac a roddodd fywyd newydd i'r awdl eisteddfodol. Mae gen i edmygedd mawr tuag ato.
Pan enillodd y gadair yn 1902, roedd ar drên yn ôl i Gaernarfon ac mae'n debyg mai yn y Felinheli yr oedd o pan glywodd ei fod wedi ennill. Cyrhaeddodd Gaernarfon a chael ei gyrchu gan filoedd o bobl o'r orsaf drenau yn ôl i'w dŷ yn Stryd Dinorwig.
Rydych chi'n weithgar efo'r fenter gymunedol Llety Arall yng Nghaernarfon. Petai gennych ddiwrnod i dywys ymwelydd o gwmpas y dref, be fyddai ar yr agenda?
Byddai'n gyfle gwych i roi hysbys i holl siopau bach annibynnol y dref, a'r caffis a'r tafarndai hyfryd sydd i'w cael yma. Ond mae'n siŵr y basa'n rhaid i'r ci bach, Nico, ddod efo fi, felly byddai'n amhosib peidio mynd i'w hoff lecynnau o yn y dref.
O Ben Twthill mae golygfa anhygoel o Dre, yr Eifl, mynyddoedd Eryri, a Sir Fôn. Ac mae Dros yr Aber wedyn yn barc braf i ddianc iddo pan mae 'na ddedlein sgwennu cerdd yn agosáu!
Hefyd, byddai'n rhaid i'r ymwelwyr ddod draw ar nos Iau pan mae Côr Dre yn canu, i gael profiad go iawn o ganu corawl Cymreig!
Wnaethoch chi sefydlu cwmni cysylltiadau cyhoeddus Ar Goedd yng nghanol y pandemig. Oedd hynny'n anodd?
Mi ddigwyddod yr holl beth yn ddamweiniol bron. Mae 'na grantiau gwerthfawr yn cael eu cynnig drwy gynllun Llwyddo'n Lleol Menter Môn, cronfa sydd wedi cael ei chreu i greu cyflogaeth yn lleol er mwyn cadw pobol ifanc yn eu bröydd.
Ond dwi wedi gwirioni â'r maes cyfathrebu a dwi'n teimlo'n freintiedig iawn o fod yn gwneud y gwaith o ddydd i ddydd. Mae gallu defnyddio 'chydig o egni creadigol wrth weithio yn bwysig imi.
Rydych chi'n weddol newydd i'r byd barddoni. Faint o hwb oedd ennill yn eisteddfodau'r Urdd?
Mi oedd o'n gwbl allweddol imi. Faswn i heb ddechrau cyhoeddi na chymryd rhan mewn ymrysonau a thalyrnau oni bai am hynnny. Mae cael y dilysrwydd yna gan bobl sy'n sgwennu ers yn llawer yn hirach yn golygu rhywbeth i sgwennwr.
Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Â'r Eisteddfod dafliad carreg o Abaty Ystrad Fflur eleni mae'n rhaid imi ddewis Dafydd ap Gwilym. Mi oedd o'n sgwennu ar amser cyffrous yn hanes Cymru ac mae'n swnio fel pe bai o wedi cael lot fawr iawn o hwyl yn gwneud hynny!
Canu gwleidyddol yng ngwaith Dafydd oedd testun fy nhraethawd hir yn y Brifysgol, ac fel rhywun sydd â diddordeb byw mewn gwleidyddiaeth (ac sy'n mynd i dafarn, bob hyn a hyn), byddai gweld newid gwleidyddol y cyfnod drosof fy hun yn ddifyr.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Awdl Gruffudd Eifion Owen yn Eisteddfod Caerdydd 2018. Mae'r awdl fel tasa rhywun wedi rhoi hangover, caneuon Cowbois Rhos Botwnnog, mymryn o iselder ysbryd, joch o win coch a dogn go dda o hunanamheuaeth mewn blendar. Ond mae hi'n cynnig gobaith hefyd i genhedlaeth sy'n ei chael hi'n anodd cadw'r ffydd ar hyn o bryd.
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Dwi newydd gyhoeddi fy nghyfrol gyntaf, sy'n brofiad brawychus ond cyffrous. Bydd Y Lôn Hir Iawn gan Gyhoeddiadau Barddas ar gael i'w phrynu o wythnos yr Eisteddfod ymlaen.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae gweld fy ngeiriau ar brint yn fy ngwneud yn swp sâl. A chofiwch, mae'r gyfrol yn costio llai na phris peint ar faes y Brifwyl, felly tydw i ddim isio clywed dim esgusodion!
Hefyd o ddiddordeb: