Pum munud gyda Bardd y Mis Matthew Tucker
- Cyhoeddwyd
Bardd y Mis cynta'r flwyddyn ar Radio Cymru ydi'r athro ifanc Matthew Tucker - felly dyma ambell gwestiwn i ddod i'w adnabod yn well.
Rydych chi wedi perfformio ar y llwyfan, gyda Theatrau Sir Gâr yn enwedig, ers yn 17 oed. Ydych chi'n cael yr un wefr o berfformio eich cerddi?
Mae'n haws cofio'r llinellau rydw i wedi'u hysgrifennu na dysgu llinellau a chaneuon o sgriptiau eraill. Mae yna wefr a chyffro mewnol hefyd yn perthyn i berfformio eich gwaith eich hun, er fy mod yn teimlo bach o bryder ynghylch ymateb cynulleidfa neu feirniaid i fy ngwaith.
Rydych chi newydd greu tîm newydd i gystadlu ar raglen Y Talwrn - pam?
Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am hwn. Wnes i ymateb i alwad cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol i ffurfio tîm newydd ar gyfer Y Talwrn eleni. Rydw i a tri o Gaerdydd wedi ffurfio tîm Caerelli, felly cadwch eich llygaid mas!
Rwy'n mwynhau elfen gymdeithasol Y Talwrn, y miri a'r hwyl sy'n perthyn iddi. Buddiol iawn yw derbyn ymateb gan feirniad yn y fan a'r lle hefyd.
Y Prifardd Tudur Dylan Jones wnaeth eich dysgu i gynganeddu, pa gyngor gawsoch chi ganddo?
Ces fy nghyflwyno i'r gynghanedd yn ystod taith i ogledd Cymru pan oeddwn yn astudio Cymraeg fel pwnc Safon Uwch. Ces flas arni o'r dechrau wrth i ni gael ein herio i gynganeddu enwau llefydd yr oeddem ni'n teithio drwyddynt ar hyd y daith. Rhaid i mi gyfaddef - yr oeddwn i'n treulio fwy o amser yn ymarfer fy nghynganeddu nag adolygu ar gyfer fy arholiadau!
Yr un cyngor oddi wrth Tudur Dylan sydd wastad wedi aros gyda fi yw bod angen 'cynganeddu syniadau, nid geiriau' os oeddwn am wella fy ngherddi.
Un darn o gyngor a ges i oddi wrth Aneirin Karadog hefyd oedd i beidio derbyn y 50 cyfatebiaeth gyntaf oedd yn dod i fy mhen!
Ydy bod yn athro Cymraeg yn Ysgol Dyffryn Aman wedi eich gwella chi fel bardd?
I fod yn onest, mae fy ngweithgarwch fel 'bardd' wedi gostwng wrth i waith ysgol gymryd y flaenoriaeth dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Er hynny, rydw i dal yn ymgolli fy hun ym marddoniaeth Gymraeg wrth addysgu'r disgyblion yn gyson, felly rydw i'n darllen ac yn astudio'n fwy nag erioed.
Rydw i hefyd yn arwain cystadlaethau ysgrifennu creadigol o fewn yr adran Gymraeg ac felly'n mireinio fy sgiliau i wrth ddatblygu sgiliau'r disgyblion.
Rydych chi wedi rhedeg sawl marathon, ac wedi cymryd rhan yn yr Her 100 cerdd yn 2019, wrth i bedwar bardd sgwennu 100 cerdd mewn 24 awr. Oedd yna debygrwydd?
Wrth feddwl yn fwy am hyn, rwy'n gweld mwy o debygrwydd na gwahaniaethau. Roedd heriau corfforol a meddyliol yn perthyn i'r ddau beth. Blinder yw'r tebygrwydd fwyaf yn fy marn i! Er doedd dim siawns i gael bach o gwsg yn ystod y marathon!
Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Rhaid dweud Gerallt Lloyd Owen, bardd a barchwyd i'r goruchaf gan feirdd a chynulleidfaoedd di-ri. Bardd a oedd â'i lais adnabyddus ei hun, yn gorfforol ac yn farddonol, a gwn fod yna doreth o feirdd sydd yn ddyledus iawn iddo am ei fewnbwn a'i feirniadaeth ar eu cerddi.
Byddwn i wrth fy modd pe bawn i'n 1/1000 o'r bardd yr oedd e!
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Awdl 'Y Cynhaeaf' gan Dic Jones. Pwy na fyddai wedi hoffi ysgrifennu'r awdl a enwyd gan sawl beirniad fel yr awdl fuddugol orau yn yr Eisteddfod Genedlaethol?! Rwy'n hoff iawn o'i darllen ac ailddarllen gan brofi'r gynghanedd ar ei gorau!
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd, mae yna ddigon o farcio i fi ddal fyny gydag e! Ond, o ran fy marddoniaeth, mae gen i gasgliad bychan o gerddi yn rhan o fy ngwaith MA yr hoffwn i ychwanegu atynt i ffurfio cyfrol fer. Mae'r Talwrn ar fin dechrau ac rwy'n gobeithio bydd yna fwy o eisteddfodau yn cael eu cynnal eleni.
Hefyd o ddiddordeb: