Coed oedd yn rhodd gan Japan wedi'u fandaleiddio

  • Cyhoeddwyd
Coed ceirios
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cynghorydd lleol fod y "difrod difeddwl" yn "ofnadwy"

Mae 20 o goed a roddwyd gan Japan i ddathlu 150 mlynedd o gyfeillgarwch â Chymru wedi cael eu fandaleiddio yng Nghaerdydd.

Cafodd y coed eu cyflwyno fel rhodd i Barc Y Mynydd Bychan fel rhan o Brosiect Coed Ceirios Sakura.

Fe gafodd y prosiect ei lansio yn 2017 gan arweinwyr y DU a Japan ar y pryd - Theresa May a'r diweddar Shinzo Abe.

Dywedodd cynghorydd lleol, Jennifer Burke-Davies, fod y "difrod difeddwl" yn "ofnadwy".

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ac yn dweud y byddan nhw'n cynyddu patrolau o amgylch parciau dros yr haf i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Anna McMorrin
Disgrifiad o’r llun,

Mae amcangyfrif y bydd yn costio tua £4,000 i ailblannu'r coed

Cafodd cyfanswm o 120 o'r coed ceirios eu plannu yng Nghaerdydd fel rhan o'r prosiect.

Roedd 20 ohonyn nhw ym Mharc Bute, a hynny mewn ymateb i goed a gafodd eu fandaleiddio yno, gyda'r gweddill ym Mharc Y Mynydd Bychan.

"Dim ond fis Ionawr y cafodd y coed eu plannu, ac roedden nhw i fod i symboleiddio cyfeillgarwch a goddefgarwch," meddai'r Cynghorydd Burke Davies.

"Mae'n fandaliaeth, yn drosedd, ac rwy'n condemnio'r ymddygiad cwbl annerbyniol yma."

Dywedodd y cyngor fod y broses o ganfod coed i gymryd lle'r rhai a ddifrodwyd eisoes wedi dechrau, ac maen nhw'n amcangyfrif y bydd yn costio tua £4,000 i'w ailblannu.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y coed eu plannu ym mharciau Bute a'r Mynydd Bychan fis Ionawr

Ychwanegodd is-gennad anrhydeddus Japan yng Nghymru, Keith Dunn, fod y fandaliaeth yn "sioc a thristwch".

"Mae hon yn weithred gwbl annerbyniol ac rwy'n gwybod y bydd fy nghyfoedion sydd wedi bod yn rhan o drefnu Prosiect Coed Ceirios Sakura yn siomedig ac yn drist tu hwnt am y newyddion," meddai.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y drosedd yma i'w reportio i'r heddlu."

Dywedodd cynghorydd arall yn yr ardal, Graham Hinchley mai pwrpas plannu'r coed ym Mharc Y Mynydd Bychan, ger Ysbyty Athrofaol Cymru, oedd i nodi gobaith wedi cyfnod anodd y pandemig.

"Roedd dwy res o goed ac roedden nhw'n dechrau blaguro'n barod. Y pwrpas oedd eu plannu ger yr ysbyty i ddangos ar ôl Covid bod gobaith ar gyfer y dyfodol," meddai.

Pynciau cysylltiedig