'Mesurau mewn lle' i ddelio â glaw ar y maes
- Cyhoeddwyd

Roedd mwd a phyllau o ddŵr ar y maes fore Sul ar ôl glaw dros nos
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod mesurau yn eu lle i ddelio â'r glaw yng Ngheredigion nos Sadwrn a bore Sul.
Yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, mae gweithwyr wedi bod ar y maes yn gosod coed mân ar y tir er mwyn amsugno darnau o fwd.
Mewn cynhadledd i'r wasg fore Sul, fe ddiolchodd i weithwyr Cyngor Sir Ceredigion am eu cymorth.
Fe fu'n rhaid trwsio rhan o do llwyfan y maes ar ôl i ddŵr gronni yno nos Sadwrn.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio bod y gwaethaf drosodd
'Mesurau mewn lle' i ddelio â glaw ar y maes
Ar ôl glaw trwm dros nos, fe ddechreuodd glirio erbyn canol y bore.
Bu'n rhaid canslo un o'r digwyddiadau ar y maes neithiwr oherwydd y tywydd.
Ond mae'r trefnwyr yn ffyddiog y bydd modd i'r syrcas ddigwydd nos Sul.

Roedd angen esgidiau synhwyrol ar ymwelwyr i'r maes fore Sul
Dywedodd Betsan Moses bod y maes yn Nhregaron yn sychu'n dda, a'u bod yn gobeithio bod y gwaethaf drosodd o ran y tywydd.
Mae'r caeau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y meysydd parcio yn cael eu hamrywio drwy gydol yr wythnos er mwyn amddiffyn y tir.


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022