Galw i gyhoeddi papurau llys Mulligan - llofrudd Logan Mwangi
- Cyhoeddwyd

Mae Craig Mulligan, yn ogystal â John Cole ac Angharad Williamson, wedi'u carcharu am lofruddio Logan Mwangi
Mae ymgyrchydd wedi galw i ddyfarniadau llys preifat sy'n gysylltiedig â'r llofrudd 14 oed, Craig Mulligan, gael eu cyhoeddi er mwyn "dysgu gwersi".
Pum niwrnod cyn marwolaeth Logan Mwangi ym mis Gorffennaf y llynedd, cafodd Mulligan ei roi yng ngofal ei lys-dad, John Cole.
Bu farw Logan, y bachgen pum mlwydd oed, o anafiadau "catastroffig" cyn cael ei adael mewn afon ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Craig Mulligan, John Cole a mam Logan, Angharad Williamson, eu carcharu am lofruddiaeth Logan Mwangi yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, byddai cyhoeddi dogfennau sy'n gysylltiedig â Cole a Williamson am warchodaeth Mulligan yn "fater i'r barnwr annibynnol yn yr achos i benderfynu".

Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd
Dywedodd John Hemming, cyn Aelod Seneddol i'r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd hefyd yn ymgyrchydd ar gyfer gwelliannau i gyfiawnder teuluol bod yn "rhaid ymchwilio pob manylyn i ddarganfod y gwir yn yr achos hwn."
"Mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod pa wybodaeth oedd gan y barnwyr llys teulu am yr achos hwn a pha benderfyniadau gafodd eu gwneud.
"Y peth pwysicaf yw sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu, a dyw gwersi ddim yn gallu cael eu dysgu os nad yw darnau o wybodaeth ar gael er mwyn ei drafod yn iawn."
Craig Mulligan yn 'fachgen cymhleth'
Fe glywodd y llys fod Mulligan yn "fachgen cymhleth, cythryblus a threisgar" erbyn iddo gael ei gymryd oddi wrth ei fam a'i roi mewn gofal.
Roedd ei lys-dad, John Cole, 40 ac Angharad Williamson, 31, wedi brwydro yn erbyn y llys teulu i gael gwarchodaeth o'r llanc 14 oed.

Mae Angharad Williamson, 31, Craig Mulligan, 14, a John Cole, 40 wedi eu dedfrydu i oes o garchar am ladd Logan Mwangi
Mae Cole a Williamson wedi cael dedfrydau oes am lofruddiaeth bachgen pum mlwydd oed, tra bod Mulligan hefyd wedi cael dedfryd oes, a bydd yn rhaid iddo yn aros yn y ddalfa am o leiaf 15 mlynedd.
Roedd Cole hefyd wedi cyfaddef gwyrdroi'r cwrs cyfiawnder tra bod Williamson a Mulligan yn euog o'r un cyhuddiadau ar ôl i'r llys gael gwybod iddynt symud corff Logan i'r afon, tynnu ei ddillad, golchi'r dillad gwely oedd â gwaed arnynt a gwneud cais ffug am berson ar goll.
Mae adolygiad ar y gweill ynghylch amgylchiadau marwolaeth Logan Mwangi, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad annibynnol cenedlaethol i wasanaethau plant ar draws y wlad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022