'Doeddwn i ddim yn gwybod bod Logan ar y gofrestr'
- Cyhoeddwyd
Mae tad Logan Mwangi, bachgen pump oed a gafodd ei lofruddio gan ei fam, ei lystad a bachgen 14 oed, wedi bod yn gofyn pam bod ei fab wedi marw mewn amgylchiadau mor ofnadwy.
Dywed Ben Mwangi nad oedd wedi cael gwybod bod ei fab ar y gofrestr amddiffyn plant, a'i fod eisiau newid y gyfraith fel ei bod hi'n ddyletswydd ar y gwasanaethau cymdeithasol i roi gwybod i rieni sydd wedi gwahanu.
"Fe fyddwn, mae'n debyg, wedi ceisio cymryd Logan fy hun," meddai mewn rhaglen ddogfen i ITV.
Fe wnaeth Angharad Williamson, 31, John Cole, 40, a bachgen 14, na ellir ei enwi, ladd Logan Mwangi yng Ngorffennaf 2021.
Roedd wedi dioddef 56 o anafiadau difrifol, ac yn ddiweddarach fe gafodd ei gorff ei ollwng mewn afon ger ei gartref yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr.
"Mae'n anodd credu'r cyfan," medd Mr Mwangi.
Mae disgwyl i'r tri a gafwyd yn euog ym mis Ebrill o lofruddio Logan i gael eu dedfrydu yr wythnos hon.
"Pa blentyn sy'n gorfod dioddef y fath artaith am gyfnod mor hir?" medd Mr Mwangi, na chafodd yr hawl i weld ei fab ers Ebrill 2019 - sef tua'r un cyfnod y dechreuodd Williamson ei pherthynas gyda Cole.
"Un o'r cwestiynau a fyddai'n gofyn am byth i fi fy hun yw 'Pam? Pam ddigwyddodd hyn? Pam bu'n rhaid i Logan farw?'"
Yn ôl ffrindiau roedd Cole wedi dweud wrthyn nhw nad oedd yn hoffi Logan, a dywedodd eraill bod ei agwedd wedi newid wedi iddo gredu bod Williamson wedi'i dwyllo a chael perthynas â thad Logan.
"Am y pum mlynedd ddiwethaf rwy' wedi bod yn ymdrechu ac yn ymladd i weld Logan," meddai Mr Mwangi.
"Y cyfan roeddwn eisiau ei wneud oedd bod yn dad."
Fis cyn i Logan gael ei ladd fe wnaeth gweithwyr cymdeithasol ym Mhen-y-bont ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant.
Y diwrnod cyn i'r heddlu ddod o hyd i gorff Logan, fe wnaeth gweithiwr cymdeithasol dreulio 20 munud tu allan i'w gartref yn siarad â'r diffynyddion ond ni wnaethon nhw ei weld na'i glywed.
"Os ydw i'n gallu stopio hyn rhag digwydd i unrhyw un arall - dyna fyddai'r cam pwysicaf un," meddai Ben Mwangi.
Dywedodd mai'r atgof parhaol sydd ganddo o Logan yw "bachgen bach hapus yn galw fi'n Dadi".
"Fydd yr atgofion bendigedig sydd gen i o fy mab fyth yn pylu," meddai.
"Byddant wastad yn fy nghalon a'm enaid."
Mae adolygiad ymarfer plant yn cael ei gynnal i farwolaeth Logan, sy'n cynnwys cynghorau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a'r GIG.
Bydd rhaglen ddogfen ITV, The Murder Of Logan Mwangi, sydd wedi'i chynhyrchu ar y cyd â Heddlu De Cymru yn cael ei darlledu nos Iau am 21:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022