'Cymru annibynnol yn llai tebygol petai'r Alban yn aros'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Cymru i barhau'n bloryn bach ger Lloegr sy'n cyfri dim?'

Mae Cymru annibynnol yn "llai tebygol" os na fydd Yr Alban yn pleidleisio tros annibyniaeth yn gyntaf, yn ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley pe bai'r Alban yn pleidleisio 'Na' i annibyniaeth eto, yna byddai "mwy o ffocws" ar ailgynllunio'r Deyrnas Unedig.

Ond pe bai'r Alban yn cefnogi annibyniaeth yna byddai angen i Gymru, awgrymodd, ofyn i'w hun a yw am barhau fel "ploryn bach ar ochr orllewinol Lloegr sydd ddim yn cyfrif am unrhyw beth".

Roedd Mr Wigley yn siarad â phodlediad BBC Walescast yn y cyntaf o gyfres o gyfweliadau dros yr haf gyda gwleidyddion Cymreig.

Mae Llywodraeth Yr Alban yn gobeithio cynnal refferendwm annibyniaeth arall y flwyddyn nesaf ond mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu'r bleidlais.

Os cynhelir refferendwm arall yn Yr Alban, beth allai ei olygu i Gymru?

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Mr Wigley: "Os yw'r Alban yn dod yn annibynnol yna ydy hynny'n gadael Cymru a Lloegr fel yr uned?

"Ai dyna beth rydyn ni eisiau, i fod yn bloryn bach ar ochr orllewinol Lloegr sydd ddim yn cyfrif am unrhyw beth?

"Does gynnon ni fawr o lais yn y Deyrnas Unedig fel ag y mae - fe fydd gynnon ni llai fyth os fyddwn ni'n cael ein dominyddu cymaint gan anghenion Lloegr," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pleidleisiodd Yr Alban i aros yn rhan o'r DU o 55% i 45% yn refferendwm annibyniaeth 2014

Ond beth petai'r Alban yn gwrthod annibyniaeth am yr eildro? A allai wedyn ragweld Cymru annibynnol?

"Rwy'n meddwl ei fod yn llai tebygol," atebodd.

"Mewn termau realistig, pe bai'r Alban yn cael refferendwm a'i bod nhw'n pleidleisio 'Na', rwy'n meddwl mai'r hyn fydd gennym wedyn yw mwy o ffocws ar ffederaliaeth neu ddadl gydffederal."

O dan drefniant ffederal, byddai mwy o bwerau'n symud o Lundain i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ond fyddai'r grym yn y pen draw yn aros yn San Steffan.

Fel yr eglura Dafydd Wigley, mae'r system y mae e'n ei ffafrio, sef system gydffederal, yn wahanol: "Cydnabyddir bod yr awdurdod yn Lloegr, yng Nghymru, yn Yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon… mae'r awdurdod yno ond fe fydden ni'n cyfuno rhai meysydd [fel amddiffyn ar sail pedair gwlad]."

Noson 'fythgofiadwy' y refferendwm

Chwarter canrif wedi'r bleidlais a'r fuddugoliaeth fain i ddatganoli Cymreig yn refferendwm 1997 mae'r emosiwn yn dal yn amlwg.

"Roedd yn un o'r nosweithiau na fyddwch byth yn anghofio," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Wigley (ar y chwith) gyda Peter Hain, Ron Davies ac aelodau blaenllaw eraill o'r ymgyrch 'Ie dros Gymru' yn dathlu buddugoliaeth 1997

Wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi roedd hi "fel petaech chi'n mynd mewn ar hanner amser mewn gêm bêl-droed yn colli 10-0… roeddwn i'n gwybod yn fy nghalon os bydden ni wedi colli y bydden ni wedi ei golli am oes".

Ond troi wnaeth y fantol wrth i'r cyfri barhau.

"Daeth gwas sifil i lawr a dweud: 'Hoffai Ysgrifennydd Gwladol Cymru [Ron Davies] gael gair gyda chi.'

"Es i lawr coridor hir, curais ar y drws, ac agorodd y drws. Daeth Ron a thaflu ei freichiau o'm cwmpas a dweud: 'Da ni wedi ennill, Dafydd.' Ac roedd honno'n noson na fyddaf byth yn anghofio, byth yn anghofio."

Gyda deigryn yn ei lygad, ychwanegodd: "Newidiodd ein ffawd mewn chwinciad."

Cyfnod 'anodd' yn y Cynulliad

Trodd pob llygad wedyn at etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol - enw gwreiddiol Senedd Cymru - yn 1999.

Wrth i'r canlyniadau cynnar, a'r clecs, ddechrau cyrraedd, aeth Dafydd Wigley, arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, "yn welw".

Roedd yn ymddangos y gallai'r Blaid fod y blaid fwyaf a'r "gwir amdani oedd nad oedden ni'n barod am hynny".

Yn y diwedd, enillodd y Blaid 17 allan o'r 60 sedd - uchafbwynt i'r blaid hyd heddiw.

Dywedodd Mr Wigley: "Cyrhaeddom sefyllfa lle'r oedd perygl i'r Blaid siarad â'i chadarnleoedd, ac mae angen nawr, fel bob amser, i gael agenda sy'n cydio ym mhob un o'r seddi diwydiannol hynny ac yng Nghaerdydd, a Abertawe, a Chasnewydd, does dim rheswm ar y ddaear pam na allwn ni lwyddo yno."

Mae'n cofio ei gyfnod byr, o 1999 i 2003, ym Mae Caerdydd fel un "anodd".

Esboniodd: "Yn anghywir, rwy'n credu, wnes i'r penderfyniad i barhau fel AS Caernarfon hyd at yr etholiad nesaf yn 2001.

"Mae'n un o'r penderfyniadau gwaethaf dwi wedi'i wneud yn fy mywyd. Dylwn i fod wedi camu i lawr o San Steffan ar unwaith."

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Wigley oedd Aelod Seneddol Caernarfon rhwng 1974 a 2001, ac Aelod Cynulliad yr etholaeth hefyd rhwng 1999 a 2003

Cafodd "llawdriniaeth ar y galon ym mis Rhagfyr 1999" ac mae'n chwerthin wrth gofio iddo gael cyngor bryd hynny "i osgoi sefyllfaoedd llawn straen".

Yn fuan wedyn, awgrymodd ei gyda-aelodau yn y blaid, Ieuan Wyn Jones a Cynog Dafis, y dylai sefyll i lawr fel arweinydd.

"Dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi cael fy mradychu oherwydd nid wyf yn gweld uchelgais pobl eraill fel unrhyw beth y dylech geisio ei gyfyngu," meddai.

Uchafbwyntiau degawdau yn San Steffan

Er iddo weithio drwy ei fywyd gwleidyddol i sefydlu Senedd i Gymru, mae Dafydd Wigley wedi treulio llawer mwy o amser yn San Steffan, yn gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ac nawr yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Mae llawer o uchafbwyntiau - o sicrhau taliadau iawndal i gyn-weithwyr y chwareli llechi sy'n dioddef o glefyd y llwch, i'w waith ymgyrchu ar hawliau'r anabl yn dilyn marwolaeth dau o'i feibion, Alun a Geraint, i salwch genetig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arglwydd Wigley yn paratoi i adael San Steffan am byth, 11 mlynedd wedi iddi ddod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi

Mae hefyd wedi creu ambell ffrind annisgwyl, gan gynnwys un cyn brif weinidog.

Ar y noson y dewiswyd John Major i olynu Margaret Thatcher yn 10 Downing Street, cafodd Dafydd Wigley ei wahodd draw am "barti teulu bach".

"Roedd tua 40 neu 50 o bobl wedi ymgynnull yno," dywedodd. "Mae John Major wedyn yn mynd drws nesaf i ymuno â Margaret Thatcher am night cap ac mae'r parti'n dechrau marw.

"Beth bynnag, roedd [y rhaglen deledu] Newsnight yn dod ymlaen a dim ond un teledu oedd ganddyn nhw."

Roedd y teledu hwnnw yn ystafell wely John a Norma Major. "Roeddwn i a chwpl o ffrindiau'r teulu a Norma yn eistedd ar wely'r prif weinidog etholedig yn gwylio'r sylw iddo'n cael ei ethol yn brif weinidog."

Gadawodd yn y diwedd, heb fod eisiau aros yn hwy na'u croeso.

Mae Dafydd Wigley nawr yn paratoi i adael San Steffan unwaith ac am byth.

Ond ar ôl mwy na 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth rheng flaen, nid yw cweit yn barod eto i adael y llwyfan.

Mae modd gwylio'r cyfweliad ar Walescast ar BBC One Wales am 22:40 nos Fercher 10 Awst ac ar iPlayer, neu mae modd gwrando arno ar BBC Sounds.