Ffoaduriaid 'fel teulu' i un sy'n bell o berthnasau Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Mary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mary Davies yn cael cysur o helpu ffoaduriaid yma gan nad yw'n gallu teithio i weld a helpu teulu a ffrindiau yn Wcráin

Mae menyw o Gaerfyrddin sydd â theulu yn Wcráin yn pwysleisio ei bod yn dal yn bwysig helpu o bell ac agos, chwe mis ers i'r rhyfel ddechrau yno.

Byddai Mary Davies yn arfer cysylltu'n rheolaidd â'i theulu yn nwyrain y wlad ac yn Kyiv a Vinnytsia, ac yn ymweld â nhw ar wyliau, ond dydy hynny ddim yn bosib eleni.

Mae Mary hefyd yn dweud ei bod yn anoddach cysylltu â'r teulu nawr nag yng nghyfnod cynnar y rhyfel, gan fod eu bywydau'n prysuro a'r pryder yn parhau.

Ei neges yw ei bod yn dal yn bwysig i helpu o bell tra'n cynnig cefnogaeth i ffoaduriaid sydd yma yng Nghymru.

"Rwy' yn llwyddo i gysylltu â theulu a ffrindiau mas yn Wcráin ond dwi ddim yn cysylltu mor gyson nawr, achos ma' nhw yn brysur iawn," dywedodd Mary.

"Ar ddechre'r rhyfel roedden ni yn cysylltu yn gyson, ond nawr rwy'n gwybod eu bod nhw'n becso am y rhyfel, ac yn ofn, a'r sefyllfa ddim 'di newid.

"Maen nhw just yn cario 'mla'n a gobeithio bydd dim byd gwaeth yn digwydd."

'Yma ar eu cyfer nhw'

Er bod Mary'n teimlo weithiau nad oes llawer y gall hi wneud i helpu ei theulu, mae'n cydnabod pwysigrwydd bod yn gefn iddyn nhw ar ben arall y ffôn.

"Beth alla' i neud yw bod yma ar eu cyfer nhw pan bod angen a gobeithio y bydd y rhyfel drosodd cyn hir er mwyn mynd mas i weld nhw neu i gysylltu â nhw yn well.

"Maen nhw'n gwybod lle y'n ni os oes angen, ac os oes angen help fe fyddwn ni yno."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 10,000 o bobl yng Nghymru wedi mynegi diddordeb mewn cartrefu ffoaduriaid o Wcráin

Ond, mae Mary'n cael cysur o wybod y gall hi helpu ffoaduriaid yng Nghymru, ac mae hynny'n aml yn brofiad emosiynol.

"Fan hyn yng Nghaerfyrddin mae yn fy nghalon i i helpu," dywedodd.

"Pan fo ffoaduriaid yn dod draw ac ma' isie' cyfieithu neu dyw nhw ddim yn gw'bod lle i fynd, rwy'n rhoi croeso mawr er mwyn 'neud yn siŵr bod nhw yn gweld bod rhywun arall sydd wedi sefydlu fan hyn yn gallu creu bywyd hapus.

"Pan fi'n gweld pobl am y tro cyntaf mae dagrau yn fy llygaid i. Rwy'n teimlo fel bo' nhw'n deulu i fi.

"S'mo nhw mo'yn bod wedi eu tynnu mas o'u gwlad, ond dyna yw'r sefyllfa, ac ry'n ni yn ddiolchgar i bawb yng Nghymru sydd yn helpu."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Liliia a Jamil i fyw gyda theulu yng Nghorwen chwe mis yn ôl ar ôl ffoi o'r rhyfel yn Wcráin

Ac i un teulu sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, mae cael help pobl yma yn amhrisiadwy.

Fe ddywedodd Liliia, a symudodd gyda'i mab Jamil i fyw gyda'u teulu yng Nghorwen bron i chwe mis yn ôl, eu bod yn "teimlo'n ddiogel ac yn hapus".

"Dw i'n teimlo'n saff iawn yma yng Nghymru ac wrth gwrs, y peth mwya' pwysig ydy bod Jamil yn hapus ac yn saff," dywedodd Liliia.

"Rŵan mae o'n medru cael bywyd normal i ryw raddau, heb boen na straen."

Pawb yn 'ffeind iawn'

Mae'r ddau wedi cael llety gyda chwaer Liliia, Gulzara, sy'n byw yng Nghorwen gyda'i gŵr Dylan Jones. Mae'r pâr yn falch o weld Liliia a'i mab yn ymgartrefu.

"Maen nhw'n setlo'n reit dda," dywedodd Dylan.

"Mae Jamil yn mynd i'r ysgol lle mae o wedi pigo i fyny dipyn o wahanol ieithoedd newydd. Mae o wedi dechrau chware pêl-droed lawr yng Nghorwen - mae pawb wedi bod yn ffeind iawn yma.

"Mae Jamil wedi gwneud ffrindiau a hefyd mae 'ne griw bach o Wcrainiaid wedi dod i'r ardal hefyd ac mae hynny'n help… maen nhw i gyd mewn cysylltiad efo'i gilydd, mae o i gyd yn help."

Pynciau cysylltiedig