Dysgwr am i Gymry Cymraeg Gwynedd fod yn fwy croesawgar
- Cyhoeddwyd
Dylai siaradwyr Cymraeg wneud llawer mwy i helpu mewnfudwyr i deimlo'n rhan o'r gymuned, yn ôl dyn sydd wedi ennill gwobrau am ddysgu'r iaith.
Mewn rhaglen ddogfen i Cymry a Mwy mae'r Athro Nathan Abrams, yn dweud bod angen i Gymry Cymraeg yng Ngwynedd roi mwy o groeso i bobl sy'n symud i'r ardal.
"Dwi wedi ennill gwobrau am ddysgu Cymraeg ac ar y dechrau o'n i'n teimlo'n falch iawn," meddai.
"Ond, dwi wedi byw yma ers 16 o flynyddoedd, a dwi ddim yn teimlo fel Cymro. Dwi'n teimlo fel outsider yng ngogledd Cymru."
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ond mae'r Athro Abrams yn credu bod angen i siaradwyr Cymraeg gymryd mwy o gyfrifoldeb er mwyn cyrraedd y targed, drwy helpu teuluoedd fel ei un ef.
'Dim caniatâd i deimlo fel Cymro'
Yn wreiddiol o Birmingham, roedd ei wraig, Danielle, hefyd wedi dysgu Cymraeg, ac mae'r ddau yn anfon eu plant, Isabel, 10 a Jacob, 7, i'r ysgol Gymraeg leol.
Yn ogystal ag ennill tystysgrifau Cymraeg yn y gweithle lefel 6, fe enillodd yr Athro Abrams wobr am ysbrydoli ei gyd-weithwyr ym Mhrifysgol Bangor, sef Gwobr y Llysgennad Cymraeg Gorau yn y Gwaith 2018-19.
Ond, er ei ymdrechion, mae'n dweud yn rhaglen 'Cymry a Mwy' nad yw'n teimlo ei fod yn perthyn i'r gymuned leol.
"Dwi ddim wedi cael caniatâd i deimlo fel Cymro. Dwi'n siarad Cymraeg, mae'r plant yn siarad Cymraeg ond dwi ddim yn dod o'r ardal," meddai ar raglen Cymry a Mwy, sy'n cael ei darlledu ddydd Sul.
Yn Iddew o Lundain yn wreiddiol, mae'r Athro Abrams yn dweud nad gwrth-Semitiaeth yw'r broblem, ond y teimlad nad yw'n perthyn.
"Dydi'r gymuned ddim yn gwneud ymdrech i agor y drysau i bobl fel ni, achos dwi ddim wedi priodi rhywun o Gymru," meddai.
"Ar y dechrau, roedd o'n anodd i ffitio fewn. Rŵan, oherwydd y plant - maen nhw'n mynd i ysgol Gymraeg - 'dan ni'n cyfarfod rhieni eraill."
Mae gan Gyngor Gwynedd gynlluniau i geisio helpu mewnfudwyr i setlo i fywyd Cymraeg yr ardal.
Bwriad 'Hunaniaith' sy'n rhan o fenter iaith Gwynedd, yw cynyddu'r cyfleon i bobl allu defnyddio'r iaith.
Mae Pen Swyddog Hunaniaith, Menter Iaith Gwynedd, Iwan Hywel, yn cydnabod bod angen gwella.
"Dwi'n meddwl y gallen ni neud mwy yn gyffredinol fel endidau a fel Cymry Cymraeg. Ond mi rydan ni'n cynnig llawer iawn i ddysgwyr," meddai.
"Mae ganddon ni bethau fel teithiau cerdded, cwisys, sgwrs a phaned neu sgwrs a pheint ac yn y blaen.
"Ond efallai un peth ydy bod rhaid ystyried y cam nesaf, pan mae rhywun wedi dysgu Cymraeg, sut maen nhw'n medru camu mewn i'r byd Cymraeg, os lici di, bo' nhw'n cael eu cymhathu."
Mae Iwan Hywel o'r farn bod y profiad o ddysgu Cymraeg yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn wahanol i ardaloedd yn ne-ddwyrain Cymru a bod angen arweiniad ar Gymry Cymraeg am sut i helpu siaradwyr Cymraeg newydd.
"Yma yng Ngwynedd 'dan ni'n dra gwahanol i dde-ddwyrain Cymru, neu de-ddwyrain gogledd Cymru hefyd," meddai.
"Mae pethau yn digwydd yn naturiol Gymraeg. Dydyn nhw ddim wedi'u labelu fel digwyddiadau Cymraeg.
"I raddau felly, dwi'n meddwl bod o'n haws i ddysgwyr yn y de-ddwyrain gan eu bod nhw'n mynychu pethau sydd wedi'u labelu fel digwyddiad Cymraeg. Mae hynny yn anoddach yma."
Mae Nathan Abrams hefyd yn meddwl ei bod hi'n haws i ddysgwyr yn ne-ddwyrain Cymru deimlo eu bod nhw'n perthyn.
"Dydi hunaniaeth ddim yn dibynnu ar y person ei hun, mae'n dibynnu ar y bobl o gwmpas," meddai.
"Mae pobl yn meddwl, beth ydy hunaniaeth yn Gymraeg? Siarad yr iaith, dod o Gymru, capel, Cristnogol, cefnogi Lerpwl neu United a dwi ddim yn ffitio mewn i'r categoris, a felly dwi'n siŵr efo pobl eraill, dydw i ddim yn Gymraeg. Does gen i ddim gwreiddyn yn yr ardal fel pobl eraill."
Yn ôl Iwan Hywel, mae helpu siaradwyr Cymraeg newydd i deimlo'u bod nhw'n perthyn yn hollbwysig, ac mae angen gwella dealltwriaeth Cymry Cymraeg cyffredin o sut i helpu sicrhau hynny.
"Oes, mae 'na fwy allwn ni neud fel Cymry Cymraeg i groesawu pobl," meddai.
"Dwi'n meddwl bod angen dwy elfen - yr hyder i gamu mewn gan y dysgwyr, ond hefyd rhoi arweiniad i Gymry Cymraeg i ddangos be sy'n bosib. Gobeithio gallwn ni roi arweiniad i bobl am sut i siarad efo dysgwyr.
"Rhaid i ni gofio, dydi o ddim yn rh'wbeth ti'n gallu jyst cerdded mewn iddo fo. Mae angen rhoi arweiniad i bobl sut i helpu dysgwyr ddod at yr iaith."
Yn ôl Iwan Hywel, mae angen i Gymry Cymraeg fod yn agored i newid ac esblygu er mwyn cyrraedd y targed o filiwn.
"Mae'r ymdeimlad o berthyn mor bwysig wrth i ni symud mlaen. Mae ymchwil yn dangos hynny. Mae pobl yn dysgu oherwydd eu bod nhw eisiau perthyn."
'Dylem wneud popeth o fewn ein gallu'
Wrth ymateb i sylwadau Nathan Abrams, mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Jeremy Miles yn dweud bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb.
"Rydym am dyfu ein hiaith ac, fel siaradwyr Cymraeg, dylem wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl sydd eisiau dysgu Cymraeg," meddai.
"Mae'n flaenoriaeth i ni gynnal a diogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol a chynyddu cyfleoedd i oedolion ddysgu a defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'u bywydau. Fel rhan o'n gwaith, rydym yn buddsoddi mewn Mentrau Iaith, sy'n creu cyfleoedd i bawb ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned.
"Rydym hefyd yn galluogi mwy o bobl i ddysgu Cymraeg, gyda gwersi am ddim ar gael i bobl ifanc 16-25 oed ac i staff addysg o fis Medi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022