'Sefyllfa waethaf erioed' i ganolfannau achub cŵn

  • Cyhoeddwyd
Ci mewn canolfan achubFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusennau sy'n ceisio dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer cŵn yn dweud eu bod dan fwy o straen nag erioed oherwydd y cynnydd mewn galw.

Dywedodd un ganolfan eu bod yn gorfod "troi cŵn i ffwrdd" sy'n "dorcalonnus".

Maen nhw'n dweud mai'r cynnydd costau byw yw'r prif reswm pam nad yw perchnogion yn gallu gofalu am eu cŵn mwyach, yn enwedig gan fod cymaint wedi prynu cŵn yn ystod y cyfnod clo.

Yng nghanolfan Hope Rescue yn Llanharan, Rhondda Cynon Taf, mae'r perchnogion yn dweud bod y sefyllfa yn "waeth nawr nag ar unrhyw adeg ers agor" y ganolfan 17 mlynedd yn ôl.

'Dros 300 o alwadau mewn tri mis'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meg Williams yn un o'r gwifoddolwyr yn y ganolfan yn Llanharan a Rolo y ci yn un sydd yno

Un o'r cŵn sydd yng ngofal y ganolfan yn Llanharan yw Rolo, daeargi blwydd oed a ddaeth i'r ganolfan gan warden cŵn y cyngor lleol fel ci strae.

Yn ôl rheolwyr y ganolfan, mae e'n "llawn egni", yn gyfeillgar iawn ond yn un o ddegau o gŵn yn y ganolfan sy'n chwilio am berchnogion newydd.

Yn ôl perchennog y ganolfan, Vanessa Wadden, mae'r sefyllfa nawr yn "waeth nag ar unrhyw adeg ers agor Hope Rescue 17 mlynedd yn ôl".

Yn y tri mis diwethaf maen nhw wedi derbyn 300 o alwadau gan bobl sydd angen help i edrych ar ôl eu hanifeiliaid.

Dywedodd Vanessa bod y ganolfan yn "gorfod troi cŵn i ffwrdd ac mae hynny yn dorcalonnus."

Mae Meg Williams yn gweithio yn y ganolfan ac yn dweud bod "cymaint o bobl 'isie help" a "does dim digon o lefydd."

"Ry'n ni'n cael cannoedd o alwadau gan bobol a hynny ar ben y cŵn ry'n ni wedi cytuno i dderbyn gan chwech o gynghorau lleol.

"Felly ma' lot fawr o gŵn yma ar y funud a llwyth mwy yn edrych am help".

Mae Meg yn pwysleisio bod angen i berchnogion cŵn ofyn am help cyn bod y sefyllfa yn mynd yn argyfwng ac mae'n dweud bod "cymorth ar gael gyda chostau o ran bwyd a chostau milfeddygol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ragner yn cael ei ddisgrifio fel un o "anifeiliaid anwes y cyfnod clo" ac mae ei berchennog wedi mynd ag e yn ôl i'r ganolfan

Mae'n stori debyg yng nghartref Cŵn Caerdydd. Yn ôl y rheolwr Maria Bailey, maen nhw'n derbyn "mwy o ymholiadau nag erioed".

Am y tro cyntaf ers iddi ddechrau ar ei swydd fel rheolwr 11 mlynedd yn ôl, mae ganddyn nhw restr aros.

'Trist a chrac'

Un o'r cŵn sy'n chwilio am berchennog newydd yw Ragner. Mae'n ddyflwydd oed ac yn cael ei ddisgrifio fel un o "anifeiliaid anwes y cyfnod clo".

Yn ystod y pandemig fe gafodd nifer fawr o anifeiliaid anwes eu prynu a nawr, mae staff yn y canolfannau yn dweud nad yw eu perchnogion yn gallu gofalu amdanynt.

Mae Emma Jones yn gwirfoddoli yn y ganolfan ac mae hi'n teimlo'n "drist ac yn grac" am y sefyllfa.

Mae gofalu am y cŵn yn "her i'r staff a'r gwirfoddolwyr", meddai ac mae'n apelio am gartref i "bob ci sydd gyda ni ar y funud".

Mae elusen anifeiliaid y PDSA yn amcangyfrif ei bod hi'n costio dros £30,000 i gadw ci drwy ei oes yn gyfan.

I lawer o berchnogion, mae'r gost yna yn profi'n ormod ac mae elusennau yn erfyn ar berchnogion i ofyn am help os ydyn nhw'n methu ag ymdopi, ac i wneud hynny cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Pynciau cysylltiedig