Tri dyn arall yn pledio'n euog i derfysg Mayhill
- Cyhoeddwyd

Roedd Ffordd Waun-wen yn edrych fel "maes y gad" medd rhai trigolion
Mae tri dyn arall wedi cyfaddef i gymryd rhan yn yr anrhefn yn ardal Mayhill yn Abertawe fis Mai y llynedd.
Roedd disgwyl i Lewis James, Connor Beddows ac Aaron Phillips sefyll eu prawf ddydd Mawrth, ond cyn i'r achos ddechrau fe newidiodd y tri eu ple.
Fe gafodd ceir eu llosgi, ffenestri eu chwalu a phlismyn eu brifo yn dilyn yr anhrefn ar Heol Waun Wen yn ardal Mayhill y ddinas yn 2021.
Daeth wedi i wylnos i fachgen ifanc droi'n dreisgar.
Bydd dyn arall, Kye Dennis, o Fforest Fach, yn sefyll ei brawf yr wythnos nesaf. Mae'n gwadu cyhuddiad o derfysg.

Cafodd tân ei gynnau mewn car a chafodd ffenestri eu torri ar 20 Mai, 2021
Fe gafodd Lewis James o Farina Abertawe, Connor Beddows o Townhill ac Aaron Phillips o Waunarlwydd, eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Byddan nhw'n cael eu dedfrydu ynghyd â 15 o oedolion eraill wedi i achos llys Mr Dennis ddod i ben.
Mae disgwyl i'w achos gychwyn ddydd Mawrth nesaf, ond mae ansicrwydd ynglŷn â'r dyddiad, oherwydd gweithredu diwydiannol gan fargyfreithwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022