Lily Sullivan: Dedfrydu ei llofrudd i'r carchar am oes

  • Cyhoeddwyd
Lily SullivanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan ar 17 Rhagfyr 2021

Mae llofrudd merch 18 oed wedi cael ei ddedfrydu i oes yn y carchar.

Fe fydd Lewis Haines, 31 o Landyfái, Penfro yn treulio o leiaf 23 blynedd a phedwar mis yn y carchar.

Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan yn ardal cronfa ddŵr Mill Pond, Penfro, yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedodd mam Lily, Anna: "Dw i'n ei cholli hi gymaint. Fydda i byth yn cael heddwch."

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC wrth Llys y Goron Abertawe fod Haines wedi tagu Lily am nad oedd hi am gael rhyw gydag ef.

Fe wrthododd honiad Haines ei fod wedi mynd i'r dŵr i'w hachub hi.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lily Sullivan ei ddarganfod yn ardal Mill Pond ym Mhenfro

Doedd dim tystiolaeth fforensig o ymosodiad rhyw.

Fe ddywedodd bod Lily Sullivan a Haines wedi cusanu mewn lôn ar ôl gadael clwb nos, ond pan wnaeth Lily hi'n glir ei bod hi'n mynd adref, bod Haines yn "rhwystredig" ac wedi mynd â hi, "gan ddefnyddio grym", i'r gronfa ddŵr.

'Poen annioddefol'

Mewn datganiad, fe wnaeth mam Lily ei disgrifio fel merch brydferth a thalentog.

Lily oedd ei hunig blentyn, meddai, ac fe aeth hi'n feichiog â hi ar ôl colli plentyn 14 o weithiau.

Roedd hi a'i merch fel chwiorydd ac roedd ganddynt "gysylltiad arbennig iawn".

Dywedodd fod Lily "bob tro'n gweld y gorau mewn pobl ac yn ymddiried mewn pobl yn hawdd".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd enw Lily ei gerfio ar goeden yn ardal Mill Pond

Roedd hi'n "artist clyfar a thalentog" ac yn "ferch arferol yn ei harddegau" oedd newydd ddechrau fynd mas gyda'r nos.

Ychwanegodd ei bod yn teimlo poen "annioddefol" a'i bod yn teimlo panig sy'n ei hatal rhag siarad.

Mae gan ei thad dementia, medd Anna, ac "mae'n rhaid i fi ddweud wrtho bob dydd ei bod hi wedi marw".

Disgrifiad o’r llun,

Blodau wedi eu gadael i gofio am Lily ym Mill Pond

Wrth draddodi ei ddedfryd, dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC bod Lily wedi dioddef "llofruddiaeth milain" a bod Haines "ond yn poeni am edrych ar ôl ei hun".

Fe ddywedodd Michael Cray o Wasanaeth Erlyn y Goron fod Haines wedi "llofruddio dynes ifanc oedd â'i bywyd cyfan o'i blaen".

"Fe fydd sioc y drasiedi hon i'w deimlo yn y gymuned am amser hir."

"Nid yw'r ddedfryd hon yn unrhyw gysur i deulu a ffrindiau Lily," medd y Ditectif Brif Arolygydd Richard Yelland o Heddlu Dyfed Powys.

"Ond rwy'n gobeithio y bydd hyn yn gam ymlaen yn y broses araf o ailadeiladu eu bywydau. Heddiw, mae fy meddyliau gyda nhw'n llwyr."

Pynciau cysylltiedig