Dyn wedi lladd Lily Sullivan, 18, am nad oedd hi eisiau rhyw - barnwr

  • Cyhoeddwyd
Lily SullivanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan yn ardal cronfa ddŵr Mill Pond, Penfro, ar 17 Rhagfyr 2021

Mae barnwr wedi dod i'r casgliad bod dyn wedi llofruddio menyw 18 oed am nad oedd hi eisiau cael rhyw gydag ef.

Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan yn ardal cronfa ddŵr Mill Pond, Penfro, yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021.

Ym mis Mehefin, plediodd Lewis Haines, 31 oed, yn euog i'w lladd ond dywedodd ei amddiffyniad nad oedd ar sail cymhelliad rhywiol.

Roedden nhw wedi cusanu mewn lôn ar ôl gadael clwb nos, ond dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC pan wnaeth Lily hi'n glir ei bod hi'n mynd adref, bod Haines yn "rhwystredig" ac wedi mynd â hi, "gyda grym", i'r gronfa ddŵr.

Bydd Haines yn treulio oes yn y carchar ond bydd isafswm ei ddedfryd yn cael ei bennu ddydd Gwener.

Daliodd Haines ei ben yn ei ddwylo wrth i'r Barnwr Thomas ddarllen ei ganfyddiadau ffeithiol yn yr achos ddydd Mawrth.

Roedd Lily wedi bod allan gyda ffrindiau pan wnaeth hi gwrdd â Haines yng nghlwb nos Out.

Fe wnaeth y ddau adael y clwb ar wahân, funudau ar ôl ei gilydd, ond dechreuon nhw siarad tu allan cyn i Haines ei cherdded i'r lôn ger Mill Pond.

O fewn oriau, cyrhaeddodd Haines adref a dweud wrth ei bartner: "Dwi wedi crogi rhywun."

Cafodd Lily anafiadau i'w hwyneb, ei gwddf a'i chorff.

Wrth wrando ar adroddiad y patholegwyr ddydd Mawrth, gadawodd mam Lily ystafell y llys.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lily Sullivan ei ddarganfod yn ardal Mill Pond ym Mhenfro

Wrth gyflwyno ei ganfyddiadau ar yr hyn ddigwyddodd, dywedodd y Barnwr Thomas fod "Lily Sullivan a Lewis Haines ill dau wedi bod yn yfed yn drwm".

"Roedd Lily ddwywaith neu deirgwaith dros y terfyn yfed a gyrru ac roedd Mr Haines deirgwaith drosto."

Ar ôl iddyn nhw gyfarfod, dywedodd y barnwr nad oedd ganddo "unrhyw amheuaeth bod rhywfaint o agosatrwydd rhyngddynt".

Ychwanegodd: "Rwyf yr un mor siŵr na wnaeth hynny symud ymlaen at gyfathrach rywiol, oherwydd nid oedd Lily eisiau i hynny ddigwydd."

Nid oedd unrhyw dystiolaeth fforensig o ymosodiad rhywiol.

'Eisiau sicrhau ei bod wedi marw'

Pan ddaeth yr heddlu o hyd i gorff Lily yn y dŵr oriau'n ddiweddarach, doedd dim dillad ar rhan uchaf ei chorff. Cafodd y dilledyn ei ddarganfod gerllaw.

Dywedodd y Barnwr Thomas: "Dwi'n casglu iddo [y dilledyn] gael ei dynnu oddi ar Lily yn erbyn ei hewyllys."

Fe gasglodd hefyd bod Haines wedyn wedi ei chrogi "a'i rhoi yn Mill Pond lle na fyddai'n cael ei gweld".

"Roedd yn amlwg ei fod eisiau sicrhau bod Lily wedi marw," meddai'r barnwr.

"Doedd e ddim eisiau i neb wybod beth oedd wedi digwydd yn y lôn yna."

Roedd Haines wedi dweud wrth aelodau teulu fod Lily wedi bygwth ei flacmelio a dweud wrth bobl ei fod yn "dreisiwr".

"Fy marn bendant i yw pan ddechreuodd ymddwyn yn rymus, dywedodd Lily y byddai'n cwyno am yr hyn a wnaeth," ychwanegodd y barnwr.

Dywedodd y Barnwr Thomas fod Haines ar y pryd yng nghanol achos llys teulu dros ei ferch ifanc a bod "ganddo lawer i'w golli".

"Yn fy marn i, mae'n esbonio pam wnaeth grogi Lily ac na allai gymryd risg ohoni'n goroesi."

Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.